成人快手

Y lleiaf o'r rhai hyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Daw dydd y bydd mawr y rhai bychan yn 么l hen g芒n Huw Jones ond faint o obaith sydd gan y pleidiau llai yn etholiad y Senedd eleni? Mwy na fyddech chi'n meddwl efallai.

Mae pob un etholiad Cymreig hyd yma wedi cynnwys pedair plaid gyda chefnogaeth sylweddol neu bur sylweddol. Llafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol oedd y pleidiau hynny yn y pedwar etholiad cyntaf. Fe gymerodd Ukip le'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2016.

Y tro hwn tair 'plaid fawr' sy 'na gyda llu o bleidiau llai yn cystadlu, am seddi rhestr yn bennaf. Oherwydd hynny mae'n bosib y bydd y cwota i ennill sedd ranbarthol yn is nac mae wedi bod. Fe fydd hynny hyd yn oed yn fwy gwir os ydy Plaid Cymru a/neu'r Ceidwadwyr yn cipio seddi etholaethol.

Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen am obeithion plaid "Abolish the Assembly". Gyda slogan fel enw a'i lle yn nhrefn y wyddor mae'n debyg o fod yn y mics yn rhywle. Yn wir os ydy'r blaid hon yn perfformio'n dda gallasai hynny gau'r drws ar y pleidiau bach eraill.

Mae 'na ddwy blaid sydd wedi blaguro o gyff Ukip yn yr etholiad sef Ukip ei hun a "Reform", etifedd Plaid Brexit. O'r ddwy, Ukip yw'r brand cryfaf yn fy nhyb i a rhanbarth dwyrain de Cymru yw ei gobaith orau am sedd. Dyw hi ddim yn syndod taw yn y rhanbarth hwnnw y mae arweinydd Ukip, Neil Hamilton, yn sefyll.

Yn nwyrain de Cymru y mae Amelia Womack, dirprwy arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr yn sefyll hefyd ond, yn anffodus i'r blaid, argyfwng iechyd nid yr argyfwng hinsawdd sydd ar feddyliau'r etholwyr ar hyn o bryd.

Yn y rhanbarth drws nesaf sef canol de Cymru y mae gobeithion gorau Propel, plaid newydd Neil McEvoy. Gyda Phlaid Cymru yn enwebu ymgeisydd yng Ngorllewin Caerdydd, mae'n debyg taw'r bleidlais ranbarthol yw'r un allweddol i'r gwleidydd tanbaid.

Mae'n teimlo'n rhyfedd braidd cyfeirio at y Democratiaid Rhyddfrydol fel plaid fach ond mae'n anodd dychmygu senario lle mae'r blaid honno'n ennill fwy nag un sedd.

Fe fydd y blaid yn gweithio'n galed i geisio dal ei gafael ar Frycheiniog a Maesyfed. Os ydy'r blaid yn methu yn yr ymdrech mae sedd ranbarthol yn rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru yn bosibiliad. Y tu hwnt i hynny mae pethau'n edrych yn bur dywyll.

Mae 'na bleidiau eraill llai fyth yn bwriadu enwebu ymgeiswyr ond y rhai uchod sydd 芒 chyfleoedd gwirioneddol yn fy marn i. Cawn ni weld!