Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Alex Humphreys: Fy mywyd mewn gemau
- Awdur, Alex Humphreys
- Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru
A hithau'n wythnos G诺yl Gemau Llundain a Gwobrau Gemau BAFTA, mae'n gyfle da i drafod y r么l mae gemau wedi'i chwarae yn fy mywyd.
Nid yw fy mhrofiad i o gemau fideo yn cyd-fynd 芒 chred nifer o bobl eu bod yn ddrwg i'n hiechyd ac yn annog ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Mae profiad llawer o bobl o'r diwydiant yn seiliedig ar benawdau negyddol sy'n codi ofn arnynt.
Er bod Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod Gaming Disorder fel cyflwr iechyd meddwl, mae llawer mwy i'r diwydiant os edrychwch chi o dan yr wyneb. Mae profiadau gwerthfawr i'w cael o fewn byd g锚m.
Mae'r stigma yma a sylwadau fel "mae gemau fideo i blant" neu "maen nhw'n wastraff amser" wedi fy nal yn 么l rhag cyfaddef bod chwarae gemau fideo yn un o fy mhrif ddiddordebau.
Dwi'n deall r诺an mai diffyg dealltwriaeth o gemau sydd wrth wraidd yr agwedd yma. Fe allech chi honni: onid yw treulio oriau'n binjo cyfres newydd Line of Duty yn wastraff amser yn yr un modd?
Er fy mod yn hoff iawn o Line of Duty, mae 'na rywbeth am chwarae gemau sy'n rhoi mwy i fi na jyst yr adloniant o wylio drama. Mewn g锚m 'dach chi'n rheoli a rhyngweithio gyda'r stori ac mae'r daith honno yn gallu sbarduno diddordeb mewn maes cwbl wahanol.
Rheolaeth a rhyddid
Wythnos diwetha', cafodd ffigyrau newydd eu cyhoeddi oedd yn dangos bod 'na gynnydd mawr mewn gwerthiant gemau a chonsols. O ystyried y flwyddyn ddiwethaf, does dim syndod i mi bod gemau wedi helpu pobl. Credaf bod hynny oherwydd bod gemau fideo yn rhoi dau beth pwysig i ni: rheolaeth a rhyddid. Pan 'dan ni'n chwarae g锚m, ni sy'n rheoli'r stori.
Pan aeth y wlad i mewn i'r cyfnod clo cyntaf, doedden ni ddim yn gallu rheoli lot o bethau yn ein bywydau, ond roedden ni'n gallu chwarae g锚m a phrofi rheolaeth yn fanno - peth bach efallai, ond yn seicolegol bwysig.
Fe gollon ni ryddid dros nos, ond mewn g锚m 'dan ni'n gallu mynd i le bynnag dan ni eisiau, pryd bynnag dan ni eisiau. Er enghraifft, un o'r gemau wnaeth fy helpu i ymdopi gyda phwysau'r cyfnod clo oedd Zelda: Breath of the Wild.
Roedd carlamu ar gefn ceffyl dros gaeau gwyrddlas rhithiol fel therapi i fi. Yn yr un modd roedd rasio car yn Forza Horizon 4 yn ymlaciol, yn enwedig gyda Zadok the Priest gan Handel neu Symffoni rhif 40 Mozart ar orsaf radio'r car!
Caniataodd y g锚m boblogaidd, Minecraft, i chwaraewyr ail-greu ac 'ymweld 芒' llefydd go iawn nad oedd modd teithio iddynt: Chicago; y Taj Mahal; hyd yn oed Bryn Celli Ddu ar Ynys M么n.
Yn ogystal 芒 rhoi'r cyfle i ni ddianc i fyd gwahanol, mae gemau'n rhoi'r rhyddid i ni gwrdd 芒'n ffrindiau heb adael y t欧. Mae plant wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd, ond mae nifer fawr o oedolion wedi gweld gwerth yn hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae cymunedau'n ffynnu o fewn gemau, ac yn helpu pobl sy'n dioddef ag unigrwydd.
Rhai o fy hoff gemau
Leander(Traveller's Tales / Psychosis)
G锚m syml lle mae'r marchog Leander yn teithio trwy fydoedd gwahanol i achub tywysoges, gan brynu arfwisgoedd o wahanol liw a chleddyfau gwell ar y ffordd. Y gerddoriaeth oedd y prif reswm o'n i'n caru'r g锚m yma. Ar gyfrifiadur yr Amiga Commodore o'n i'n ei chwarae hi, yn nh欧 Nain a Taid. O'n i tua 9 neu 10 oed ac mae'r gerddoriaeth wedi aros hefo fi. Ro'n i'n teimlo bod y gerddoriaeth yn adrodd stori heb eiriau.
Dyma un o'r rhesymau pam mae gen i gariad mawr at gerddoriaeth ac fy mod wedi astudio'r pwnc yn y brifysgol. Rhyw flwyddyn yn 么l, nes i chwilio am fwy o wybodaeth am y gerddoriaeth yma arlein, a darganfod mai Cymro oedd yn byw yn y Wirral gyfansoddodd hi - Tim Wright! Treuliais ran o fy mhlentyndod yn chwarae'r g锚m hudolus yma, heb syniad bod y cyfansoddwr yn byw ychydig o filltiroedd lawr y l么n!
Grim Fandango (LucasArts)
Fy hoff g锚m, heb os, yw'r g锚m antur point and click o'r 90au. Y stori wnaeth fy nenu at y g锚m: mae fel cyfuniad o'r ffilm Casablanca, stori fytholeg o fyd yr Asteciaid, ac elfennau o draddodiadau Mecsico. 'Dach chi'n chwarae fel dyn o'r enw Manny Calavera. Mae o wedi marw ac yn chwilio am ferch o'r enw Mercedes Colomar ac mae'r ddau ohonyn nhw'n ceisio cyrraedd lle o'r enw Ninth Underworld (creda'r Asteciaid fod yna naw lefel mae'n rhaid i bobl deithio trwyddi cyn cyrraedd y Gorffwys Tragwyddol.)
Mi wnaeth chwarae'r g锚m hon yn fy arddegau sbarduno diddordeb mawr mewn gwaith celf art deco a film noir. Defnyddiais elfennau o waith celf Grim Fandango fel ysbrydoliaeth i fy ngwaith cwrs Lefel A Celf. Yn ogystal 芒 hyn, y g锚m hon sy'n gyfrifol am fy niddordeb mewn mytholeg.
Roedd cerddoriaeth y g锚m yn syfrdanol. Mae soundtrack Peter McConnell wedi'i hysbrydoli gan jazz a cherddoriaeth draddodiadol Mecsico. Mae 'na un rhan o'r g锚m lle mae c芒n sy'n defnyddio offerynau traddodiadol fel y charango a pan-flutes. Dwi'n cofio stopio chwarae'r g锚m yn y fan a'r lle er mwyn gwrando ar y gerddoriaeth.
Tim Schafer yw'r dyn sy'n gyfrifol am greu Grim Fandango. Ges i'r fraint o'i gyfweld yn San Francisco yn 2019, ar gyfer rhaglen ar gemau fideo i 成人快手 Radio 4, What's in a Game? Un o uchafbwyntiau fy nghyrfa.
Worldof Warcraft (Blizzard Entertainment)
Yn ystod gwyliau haf fy nyddiau prifysgol, es i n么l adre i Sir y Fflint a threulio lot o amser yn chwarae World of Warcraft, sef g锚m ffantasi fyd agored lle ti'n dewis ac addasu dy gymeriad dy hun (o'n i'n Night Elf Priest o'r enw Lup茅) a theithio trwy fyd lliwgar, hudolus o'r enw Azeroth yn cwblhau heriau. Mae'n g锚m arlein, felly mae'n bosib cwrdd 芒 chwaraewyr eraill o fewn y g锚m, ac un ai chwarae ar ben dy hun neu gydweithio gyda grwpiau wrth symud drwy'r g锚m.
Dwi'n cofio chwarae gyda merch o'r Almaen ar un adeg. Doedd gen i ddim syniad sut oedd hi'n edrych yn y byd go iawn, ond dyna oedd rhan o'r hwyl: cael cyfeillgarwch gyda rhywun am gyfnod byr, cyn symud ymlaen ar daith o fewn y g锚m. Roedd y g锚m hon yn rhoi escapism i fi fel dim byd arall.
Mae fy swydd yn cyflwyno teledu byw yn dod ag adrenalin dyddiol, ac mae gemau fideo yn fy helpu i ymlacio'n well nag unrhyw lyfr neu raglen deledu achos rhyngweithio gyda'r g锚m yw'r unig beth sy'n bwysig ar y pryd.
Hefyd o ddiddordeb