Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hyfforddwr merched Cymru'n gadael ar drothwy'r Chwe Gwlad
Mae hyfforddwr sgiliau t卯m rygbi cenedlaethol merched Cymru wedi ymddiswyddo ar drothwy eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Dim ond ers mis Tachwedd oedd cyn-gapten Cymru, Rachel Taylor wedi bod yn y swydd, a does dim rheswm wedi'i roi ar gyfer ei hymadawiad.
Bydd hyfforddwr arall, Darren Edwards yn cymryd ei r么l dros dro, fel dirprwy i'r prif hyfforddwr Warren Abrahams.
Mae carfan y merched ar gyfer y Chwe Gwlad wedi cael ei gyhoeddi hefyd, gyda thri aelod sydd eto i ennill cap rhyngwladol - Flo Williams, Donna Rose a Jess Roberts.
Y garfan yn llawn
Blaenwyr: Cara Hope, Caryl Thomas, Cerys Hale, Donna Rose, Gwenllian Jenkins, Kelsey Jones, Molly Kelly, Robyn Lock, Abbie Fleming, Gwen Crabb, Natalia John, Teleri Wyn Davies, Bethan Dainton, Georgia Evans, Manon Johnes, Shona Powell-Hughes, Siwan Lillicrap (c).
Olwyr: Jade Knight, Jess Roberts, Keira Bevan, Elinor Snowsill, Flo Williams, Gemma Rowland, Hannah Jones, Kerin Lake, Megan Webb, Caitlin Lewis, Courtney Keight, Jasmine Joyce, Lisa Neumann, Niamh Terry, Robyn Wilkins.