Profiad gofalwr ifanc: 'Ma' fe'n 'draining' gneud popeth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r pandemig a chyfnodau clo wedi dod yn rhan annatod o'n bywydau dros y flwyddyn ddiwethaf bellach - ond i lawer, dydy hynny ddim yn golygu bod pethau wedi dod yn haws dros amser.
Os rhywbeth, mae'r misoedd diwethaf wedi bod, hyd yn oed, yn anoddach i ofalwyr ifanc fel Evie, 12.
Mae hi a'i mam, Charlotte, yn edrych ar 么l ei brawd Luke, sydd ag anghenion arbennig.
Ond gyda'r pandemig wedi cyfyngu ar wasanaethau cymorth, mae'r baich yn disgyn bron yn llwyr ar y ddwy.
"Sa i'n gallu bod yn bositif drwy'r amser achos ma' fe yn galed," cyfaddefodd Evie. "Ma' fe'n draining i 'neud popeth."
Gwaith ysgol a gofalu
Pan siaradodd Evie 芒 成人快手 Cymru llynedd, roedd elusennau eisoes yn pryderu am y straen ar ofalwyr ifanc fel hi yn ystod y cyfnod clo.
Parhau i fod yn gyfyngedig mae'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael - y rhai i Luke, yn ogystal 芒'r rhai sy'n rhoi saib a chefnogaeth i'w fam a'i chwaer.
"Mae llawer o glybiau fi a Luke jyst 'di stopio," meddai Evie.
Mae ymddygiad Luke hefyd wedi bod yn fwy heriol, meddai, yn enwedig gan bod y diffyg patrwm yn eu bywydau yn ei ddrysu.
Gydag Evie hefyd wedi dechrau yn yr ysgol uwchradd llynedd, mae cydbwyso'r gofalu 芒'r gwaith wedi bod yn her.
"Mae'r athrawon yn really neis ac yn gweud os fi ffaelu 'neud y gwaith cartref, dim ots."
Cadw'n bositif
Ceisio cadw'n bositif mae Evie er gwaethaf y gofynion cyson - gan bod hynny hefyd yn help i Luke.
"Os chi'n bod yn boring ma' fe'n effeithio fe wedyn ma' fe'n mynd yn waeth," meddai.
"Ond os ti'n llawn excitement a pethe ma' fe'n dda."
Er hynny, bydd un newid yn gwneud mwy o wahaniaeth nag unrhyw beth - sef dod i ddiwedd y pandemig a'r cyfyngiadau.
"Falle pan fydd e 'n么l yn ysgol trwy'r amser ac yn cael rhyw fath o routine, falle bydd e'n well."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2020