成人快手

Gr诺p newydd am weld newid radical o fewn rygbi

  • Cyhoeddwyd
Alix Popham
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alix Popham, sy'n 41, wedi cael diagnosis o ddementia cynnar

Mae chwaraewr rhyngwladol Cymru, Josh Navidi ymhlith yr enwau sy'n galw am ddiwygio rygbi i amddiffyn lles chwaraewyr.

Mae gr诺p o'r enw Progressive Rugby eisiau newidiadau i fynd i'r afael ag anafiadau difrifol i'r pen a'r ymennydd.

Mewn llythyr agored at gorff llywodraethu'r gamp, World Rugby, dywed y gr诺p y dylid gwneud mwy hefyd i hysbysu rhieni am y risg o anaf i'r ymennydd sy'n deillio o ergydion cyson i'r pen.

Dywed World Rugby fod llawer o'r cynigion eisoes yn cael eu gweithredu.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cychwynnodd naw o gyn-chwaraewyr rygbi proffesiynol - y mwyafrif ohonyn nhw 芒 diagnosis o ddementia cynnar - achos cyfreithiol yn erbyn World Rugby.

Roedden nhw'n honni esgeulustod ar 么l anafiadau ailadroddus i'r pen yn ystod eu gyrfaoedd.

Ers hynny, mae'r achos cyfreithiol wedi tyfu i gynnwys mwy na 150 o gyn-chwaraewyr, yn 么l Progressive Rugby.

Bellach, mae gr诺p o fwy nag 20 o chwaraewyr, hyfforddwyr a meddygon, yn mynnu newidiadau ar unwaith i'r ffordd y mae rygbi'r undeb yn cael ei chwarae.

Maen nhw am i'r corff llywodraethu edrych ar sut mae deddfau'n cael eu gorfodi, er mwyn atal digwyddiadau cyfergyd ac anafiadau i'r ymennydd.

Disgrifiad,

Emyr Lewis yn trafod effaith anafiadau ar ddyfodol y gamp

Dywedodd cyn-chwaraewr rhyngwladol Lloegr, James Haskell, un o sylfaenwyr Progressive Rugby, y dylid addasu dwyster sesiynau hyfforddi ymestynnol yn gorfforol.

Dylid caniat谩u i chwaraewyr ddychwelyd i chwarae ar 么l cyfergyd, dim ond pan fyddan nhw wedi'u hasesu'n iawn ac yn barod, meddai.

Dywedodd cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Alix Popham - un o'r rhai a gafodd ddiagnosis o niwed parhaol i'r ymennydd - y dylid bod wedi dysgu gwersi o chwaraeon eraill fel P锚l-droed Americanaidd, lle mae camau eisoes wedi'u cymryd.

Rhybuddiodd y gr诺p fod y mater, heb newidiadau ar unwaith, yn fygythiad difrifol i ddyfodol rygbi'r undeb.

World Rugby yn 'barod i drafod'

Mae rhai o'r enwau ar lythyr agored Progressive Rugby yn cynnwys blaenasgellwr Cymru a'r Gleision, Josh Navidi, yn ogystal 芒 chyn-chwaraewyr Cymru, Jonathan Davies ac Emyr Lewis.

Wrth gael ei holi ar Dros Frecwast ar Radio Cymru fore Iau, roedd Emyr Lewis yn cytuno y gallai fod dyfodol y g锚m dan fygythiad yn llwyr o fewn cenhedlaeth neu ddwy os na fydd pethau'n newid.

Mae cyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, David Moffett, a chyn-hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley, hefyd wedi arwyddo'r llythyr.

Mewn ymateb, dywedodd World Rugby fod camau eisoes yn cael eu cymryd yngl欧n 芒 llawer o'r cynigion.

"Yn amlwg mae'r aelodau hyn o'n teulu rygbi wrth eu bodd 芒'r g锚m ac eisiau iddi fod y gorau y gall fod. Rydyn ni'n teimlo hynny hefyd," meddai'r corff.

"Rydyn ni'n cael ein calonogi bod y gr诺p yn hyrwyddo nifer o fentrau sydd eisoes yn weithredol neu'n cael eu hystyried ac rydyn ni'n agored i drafodaethau adeiladol gyda nhw yngl欧n 芒'u cynigion."