Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am eglurder a fydd modd mynd ar wyliau eleni
- Awdur, Iola Wyn
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Mae angen eglurder ar frys a fydd modd i bobl fynd ar wyliau eleni, yn 么l rhai sy'n gweithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.
Yn berchen ar gwmni Teithiau Menai yng Nghaernarfon, mae Ann Jones yn galw am gyhoeddiad buan ar gyfer y farchnad gwyliau tramor.
"'Da ni angen o r诺an er mwyn i ni fedru aildrefnu gwylia' pobl sydd i fod wedi bod i ffwrdd ha' diwetha', ac maen nhw wedi aildrefnu ar gyfer ha' yma," meddai.
"Os oes 'na ddim gobaith iddyn nhw gael mynd, mae'n well i ni gael cadarnhad r诺an i ni gael aildrefnu at y flwyddyn nesa'.
"Mae gynnon ni gymaint yn bwcio r诺an at yr ha' nesa am nad ydyn nhw isio mynd y flwyddyn yma. Cynta'n byd, gora'n byd - dio'm yn deg arna ni na'r cwsmeriaid ni bo' ni ddim yn cael cadarnhad."
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi lled awgrymu y gallai rhannau o ddiwydiant twristiaeth Cymru ailagor erbyn y Pasg os yw sefyllfa'r pandemig yn gwella.
Mae hynny'n rhoi llygedyn o obaith i'r diwydiant carafanio a gwersylla.
Os fydd y drysau yn dechrau agor mae angen digon o rybudd yn 么l Angharad Rees, perchennog cwmni carafanau a moduron teithio 3 A's yng Nghaerfyrddin.
"Pan fyddwn ni'n dechre n么l bydd hi'n fishi ofnadw, felly ni mo'yn y dyddiad nawr i ni gal planno ml芒n," meddai.
Dim ond y gweithdy ar gyfer gwaith cynnal a chadw sydd yn medru bod ar agor ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid.
"Ma' digon o waith 'da ni yn y workshop ar hyn o bryd, ond fel y bydd amser yn ei flaen bydd llai a llai o waith gyda ni, a falle bydd rhaid i ni roi gweithwyr ar furlough.
"Dy'n ni ddim mo'yn gwneud hynny os allwn ni helpu - licien i fynd yn syth i agor a chlatsio bant."
'Aros o leia' chwe wythnos'
Mae prisiau carafanau yn codi yn 么l Ms Rees, ac mae'n rhagweld problemau cyn hir.
"I unrhyw un sy'n meddwl prynu caraf谩n, ma' ishe iddyn nhw wneud hynny yn glou, achos bydd yn rhaid iddyn nhw aros o leia' chwe wythnos cyn y byddan nhw wedi eu paratoi ac yn barod i'w casglu," meddai.
"Mae'r backlog yn mynd i fod yn anodd eleni eto."
Mae Dorian Morgan eisoes wedi gohirio dau wyliau yr oedd i fod i'w cymryd y llynedd - un i Berlin fis Mai, a'r llall i Boston ac Efrog Newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae e'n croesi bysedd y bydd modd iddo deithio i'r Unol Daleithiau eleni.
"Mae'r trip i America i fod i ddigwydd ddiwedd Awst - falle bod hwnnw'n bosib, ond wrth gwrs ry'n ni'n dod i gwestiwn y brechu wedyn," meddai.
"A fydda i wedi cael brechiad erbyn hynny? Ydw i'n barod i fynd heb frechiad? A fydden i'n barod i fynd os fydda i 'di cael un brechiad yn unig?
"Ma' lot o gwestiynau i'w gofyn a bron iawn fod hi'n haws fod rhywun yn cymryd y penderfyniad oddi wrth rywun, yn hytrach na bo' fi wedyn yn gorfod meddwl y peth trwyddo fy hun."