Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Mae fy ngwallt yn symbol o fy hil ac mae'n wleidyddol'
Mae'r math o wallt sydd gennych yn gallu bod yn destun trafod dyrys i nifer. I'r rhai sydd 芒 gwallt cyrliog yn naturiol, wedi ei blethu 芒聽产谤补颈诲蝉听neu 芒 gwallt Affro, fe all hefyd fod yn bwnc gwleidyddol.
Ddydd Mawrth fe wnaeth S4C聽ymddiheuro聽am hysbyseb ar wefan Cyw oedd yn聽gofyn i rieni "ddofi" gwallt cyrliog eu plant cyn tynnu lluniau ohonynt ar gyfer un o raglenni'r sianel ar 么l cael llythyr cwyno.
Bu dwy o'r rhai arwyddodd y llythyr, Melanie Owen a Bethan Wyn, ynghyd 芒 Sian Jones, yn esbonio mwy wrth Hanna Hopwood ar聽raglen Radio Cymru, Gwneud Bywyd yn Haws:
Mae Melanie Owen sy'n rhedeg cylchgrawn i flogwyr - House 21 - wedi dod i ddathlu ei gwallt Affro-Caribeaidd. Ond mae'n disgrifio'r cysylltiad rhwng ei gwallt a'i hunaniaeth a sut brofiad oedd tyfu fyny yn nghefn gwlad Cymru yn teimlo'n 'wahanol':
Dwi'n aml-hil. Mae fy mam o dras Caribeaidd, felly mae gwallt o texture eitha' coarse gen i. Mae'n fwy Affro na Ewropeaidd a ma' hwnna'n bendant yn symbol o fy nhreftadaeth.
Pan mae pobl yn gweld fy ngwallt i'n naturiol, un o'r pethau cyntaf maen nhw'n gofyn ydy 'o lle wyt ti'n dod?'
Mae fy ngwallt yn fawr, mae'n symbol o fy hil ac mae'n hynod o wleidyddol hefyd yn anffodus.
'Dyw hi ddim yn wyn'
Mae agweddau pobl o amgylch gwallt rhywun fel fi yn wahanol i'w hagwedd gyda rhywun gwyn sydd 芒 gwallt cyrliog.
Os oes gan ferch gwyn wallt cyrliog dydyn nhw ddim yn meddwl 'mae hi'n wyn'. Maen nhw jyst yn gweld gwallt cyrliog. Ond mae rhywun yn gweld fy ngwallt cyrliog i, a maen nhw'n meddwl 'dyw hi ddim yn wyn'.
Os ydw i'n gwisgo fy ngwallt yn naturiol - yn fawr ac yn gyrliog - mae pobl yn gweld hwnna fel symbol bo' fi'n rebel yn erbyn safonau harddwch y gorllewin, achos nid dyna beth sy'n bert, yn 么l safonau harddwch y gorllewin.
Os ydw i'n ei sythu fe, mae pobl yn dweud mae hi'n cultural appropriation - mae hi eisiau edrych yn fwy gwyn. Mae'n bwnc trafod be' bynnag dwi'n 'neud.
Pan wyt ti'n gweld unrhyw ddynes ddu enwog [fel Michelle Obama] yn gwisgo eu gwallt yn naturiol mae gan bawb rhywbeth i'w ddweud. O'dd rhaid i Michelle Obama edrych fel First Lady 'traddodiadol gwyn', dychmyga sut fysai wedi bod fel petai hi wedi rocio lan gyda gwallt Affro, byse pawb wedi bod yn shocked!
'Sefyll allan'
Am y tro cyntaf ers o'n i tua 13 oed, dwi ddim wedi sythu fy ngwallt unwaith eleni.
Oedd gas gen i pan o'n i'n ifanc, fy ngwallt oedd yn gwneud i fi sefyll allan. Dwi'n byw yng nghefn gwlad Cymru lle does dim llawer o bobl aml-hil neu o leiafrifoedd ethnig.
Dwi'n cofio dod adre yn llefen yn dweud 'Mam, pl卯s, dwi eisiau straightners'.
Gwnes i eitem deledu am wallt Affro yn ddiweddar a roedd yr ymateb ar Twitter yn awful. Wnes i gau fy hunan yn y t欧 am dri diwrnod, do'n i ddim eisiau gweld neb a do'n i ddim eisiau bod arlein achos y comments oedd yn dod drwyddo.
Roedd yn teimlo fel bod rhywun yn curo fi yn y stumog.
Ond dwi'n falch wnes i fe achos os oes merch neu fachgen allan yna sydd 芒 gwallt Affro neu gyrliog a ddim yn teimlo'u bod nhw'n normal, gobeithio bod gweld yr eitem wedi eu helpu.
Mae Bethan Wyn yn rhedeg y blog Cwrls, ac er ei bod hi gydol ei harddegau yn ysu i gael gwallt syth, erbyn hyn mae'n cofleidio'i chwrliau ac yn rhoi cyngor i eraill ar sut mae ei drin:
Yn fy arddegau o'n i eisiau sythu fy ngwallt. Oedd Mam yn gwrthod prynu straightners achos oedd hi'n caru fy nghwrls.
Bryd 'ny o'n i eisiau edrych fel Avril Lavine ar y teledu neu cael cut fel Rachel o Friends. O'n i eisiau gwallt sleek, syth a doedd dim cymaint o ddelweddau yn y cyfryngau oedd yn dathlu gwallt naturiol cyrliog, felly ro'n i'n gweld fy nghwrls fel rhywbeth amherffaith.
Doedd dim tipiau mas 'na am sut i drafod gwallt cyrliog. Dwi 'di treulio degawdau yn defnyddio sychwr gwallt ar wres uchel i dynnu'r cwrls mas o'r gwallt i'w sythu, ac wedi ei ddifrodi.
Ond erbyn hyn, dwi'n dathlu fy ngwallt ac yn hapus yn fy nghroen.
Mae nawr yn amser da, gan nad ydyn ni'n cael mynd i lot o lefydd, i gofleidio eich gwallt. Mae 'na ddull gofal gwallt o'r enw Dull y Ferch Gyrliog sy'n ehangu'r cwrl naturiol a chyfnewid arferion niweidiol 芒 gwallt cyrliog iach.
Mae angen chwyldro ar y diwydiant torri gwallt!
Mae Sian Jones o gwmni Dolled Up Hair yng Nghaerdydd yn arbenigo mewn braids ac estyniadau gwallt ar gyfer menywod o bob oedran a phob math o wallt. Mae hi wedi cael profiadau negyddol wrth drin ei gwallt dros y blynyddoedd:
Mae fy ngwallt i'n gyrliog iawn, yn dynn ac yn mynd yn sych yn aml iawn. Mae'n hanfodol i fi gael triniaeth bob pedair wythnos.
Dwi 'di bod yn cael braids ers mod i tua wyth mlwydd oed, dyna'r ffordd orau i drin fy ngwallt a'i gadw yn neis ac yn daclus ac i'w amddiffyn. Pan o'n i'n iau, o'n i'n cas谩u nhw - ro'n i'n teimlo'n wahanol a fi'n nabod lot o ferched fydde wedi gwneud unrhyw beth i gael gwallt syth.
Ond nawr gan bod mwy yn gwisgo eu gwallt yn naturiol, chi'n teimlo fel bod chi'n ffitio mewn mwy.
Mae lot o symbolaeth y tu n么l i braids gwahanol. Yn Affrica mae tribes gwahanol yn cael patrymau gwahanol yn eu gwallt sy'n symbol o gyfoeth, statws priodas, crefydd a ph诺er. Sai'n credu bod lot yn sylweddoli hynna.
Fi'n hoffi addysgu pobl.
Cyhoeddwyd y fersiwn wreiddiol o'r stori hon fis Rhagfyr 2020.
Hefyd o ddiddordeb: