Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gosod targed cyfreithiol i nwyon newid hinsawdd
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 成人快手 Cymru
Bydd targedau cyfreithiol newydd i gael gwared ar y nwyon sy'n achosi newid hinsawdd o economi a ffordd o fyw Cymru yn cael eu cyflwyno gan y llywodraeth.
Mynnu nad yw parhau 芒 "busnes fel arfer" yn opsiwn, mae gweinidogion ym Mae Caerdydd.
Mae patrymau tywydd eithafol eisoes yn "achosi hafog", a gweithredu ar frys yw'r "peth iawn i'w wneud i'n plant a'n hwyrion", medden nhw.
Wrth newid y gyfraith mae Cymru bellach yn cyd-fynd ag ymgyrch y DU i sicrhau 'allyriadau sero net' erbyn 2050.
Dywedodd gweinidog yr amgylchedd, Lesley Griffiths ei bod am "gyrraedd yno'n gynt".
Mae'n gam fydd yn gorfodi newid enfawr, o gyfnewid cannoedd ar filoedd o foeleri nwy yng nghartrefi pobl, i'r posibilrwydd o orfod dod o hyd i ffyrdd newydd o gynhyrchu dur ym Mhort Talbot heb losgi glo.
Ond bydd y broses yn arwain at swyddi gwyrdd newydd, a gwelliannau i iechyd pobl tra'n bodloni ymrwymiadau rhyngwladol i geisio osgoi cynnydd peryglus yn nhymheredd y byd, meddai'r llywodraeth.
Bydd yn cyhoeddi cynllun newydd i amlinellu sut mae cyrraedd y nod cyn prif gynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26, yn Glasgow yn ddiweddarach eleni.
Eisoes mae'r corff annibynnol sy'n cynghori'r llywodraeth ar newid hinsawdd, y CCC, wedi rhybuddio nad yw Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau presennol, llai heriol i leihau allyriadau.
Erbyn 2018, sef y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael ar ei gyfer, roedd Cymru wedi gweld gostyngiad o 31% mewn allyriadau nwyon t欧 gwydr o gymharu 芒 lefelau 1990.
Bydd targedau cyfreithiol newydd yn gorfodi gostyngiad o 63% erbyn 2030 ac 89% erbyn 2040, gyda Chymru'n cyrraedd 'sero net' - toriad o 100% i bob pwrpas - erbyn 2050.
Byddai angen i unrhyw nwyon sy'n dal i gael eu cynhyrchu bryd hynny fod yn gyfyngedig iawn a chael eu rheoli'n llym, drwy eu sugno yn 么l yn llwyr drwy dechnolegau dal carbon, coed neu fawndiroedd.
'Degawd hollbwysig'
Dywedodd y llywodraeth ei bod yn derbyn yr argymhellion a wnaed gan y CCC mewn adroddiad i weinidogion ym mis Rhagfyr.
Roedd y corff wedi disgrifio'r 2020au fel "degawd hollbwysig" os ydy'r targedau'n i gael eu cyflawni.
Mae'r adroddiad yn dweud bod dyfodol sero net yn bosibl drwy gymryd camau i gyflymu defnydd cerbydau a bwyleri carbon isel, tra bod angen i ddiwydiannau yn ne Cymru weithio gyda'i gilydd i symud oddi wrth danwydd ffosil neu osod technoleg dal a storio carbon erbyn canol y 2030au.
Bydd angen cynnydd mewn cynhyrchu trydan carbon isel o 27% ar hyn o bryd i 100% erbyn 2035, a gwell insiwleiddio o dai fel bod llai o b诺er yn cael ei ddefnyddio a'i wastraffu.
Erbyn 2030, rhaid plannu 43,000 hectar o goetir cymysg, gan gynyddu i 180,000 hectar erbyn 2050 - i amsugno allyriadau.
Roedd angen gweithredu ar lefel y DU a Llywodraeth Cymru, yn 么l y CCC.
'Gweithredu yn fuan sydd yn bwysig'
Dywedodd Nick Pidgeon, athro seicoleg amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd bod y cyhoeddiad yn "hynod arwyddocaol".
Roedd diwydiant, trafnidiaeth, tai ac amaethyddiaeth i gyd yn cyfrannu'n helaeth at allyriadau Cymru, meddai a byddai angen "sylw parhaus dros y blynyddoedd nesaf".
"Ac mae angen iddo ddechrau nawr - er ein bod ni'n meddwl am darged 2050... mae allyriadau nwyon t欧 gwydr yn aros i fyny yn yr atmosffer am amser maith."
"Felly gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau ar y daith honno i sero net - oherwydd byddwch wedyn yn gollwng llai o allyriadau i'r atmosffer dros yr 20 i 30 mlynedd nesaf."
Er yn croesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Haf Elgar o Gyfeillion y Ddaear mai'r hyn sy'n cael ei wneud dros y pump i ddeng mlynedd nesaf "fydd yn cael yr effaith yna, yn gosod ni ar y trywydd cywir".
Ar Dros Frecwast, dywedodd: "Ni yn gweld effeithiau newid hinsawdd yn barod, y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ofnadwy yng Nghymru, llifogydd dro ar 么l tro, a thywydd eithafol felly bydden ni yn dweud mai gweithredu yn fuan sydd yn bwysig yn hytrach na chanolbwyntio ar 2050."
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y byddai'r newidiadau yn fuddiol i'r amgylchedd ond hefyd i fywydau dyddiol pobl:
"'Da ni'n s么n am bethau fel 'neud yn si诺r bod bob t欧 yng Nghymru yn ynni effeithiol erbyn 2030 a dyle hynny gael gwared ar dlodi tanwydd a 'neud biliau yn rhatach hefyd.
"Ac mae pethe fel newid y system drafnidiaeth er mwyn gwella y llygredd aer fydd yn well i iechyd, a gobeithio annog pobl i gerdded a beicio rhagor a gwneud ein pentrefi a'n dinasoedd yn llefydd mwy braf i fedru gwneud hynny."
'Rhagolygon difrifol'
Dywedodd Lesley Griffiths fod y rhagolygon hinsawdd byd-eang yn "ddifrifol", ac "fel gyda Covid, bydd [hyn] yn effeithio ar bob un ohonom."
"Er hynny, y cymunedau mwyaf bregus fydd yn cael eu taro galetaf," meddai.
"Trwy Covid rydym wedi dangos ymdrech T卯m Cymru sydd wedi achub bywydau ac wedi diogelu ein GIG, ac rwy'n galw ar bawb i ddefnyddio'r un ysbryd i adeiladu'r Gymru rydyn ni ei heisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus a'r dyfodol, Delyth Jewell, mae "geiriau gwag" y llywodraeth wedi eu dilyn gan "ychydig iawn o weithredu".
Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru'n gwario 拢6bn ar greu bron i 60,000 o swyddi gwyrdd drwy drydaneiddio'r rheilffyrdd ac addasu cartrefi, petai mewn grym.