S4C yn ymddiheuro am sylw 'dofi' gwallt cyrliog
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi ymddiheuro yn dilyn cwyn am hysbyseb sy'n gofyn i rieni "ddofi" gwallt cyrliog eu plant cyn tynnu lluniau ohonynt ar gyfer un o raglenni'r sianel.
Roedd cyfarwyddiadau ar wefan rhaglen Cyw yn dweud: "Os oes gwallt cyrliog neu grychlyd gan y plentyn, ceisiwch ei ddofi, neu o leiaf sicrhau ei fod i gyd i mewn yn y llun."
Yn 么l pum menyw sydd wedi arwyddo llythyr i'r sianel - Melanie Owen, Mali Ann Rees, Jalisa Andrews, Mirain Iwerydd a Bethan Wyn - mae'r iaith a ddefnyddiwyd yn "amhriodol" ac yn awgrymu "bod yna amgylchedd gelyniaethus hiliol yn S4C".
Mae'r frawddeg bellach wedi cael ei dileu o'r wefan, ac mae'r sianel wedi ymddiheuro am unrhyw boen a achoswyd.
'Niweidiol a pheryglus'
Yn 么l llythyr y gr诺p mae'r syniad bod gwallt cyrliog neu "grychlyd" yn rhywbeth sydd angen cael ei "ddofi" yn "niweidiol ac yn cael effaith beryglus a hirbarhaol - effaith rydyn ni i gyd wedi dioddef wrth gael ein magu yng Nghymru".
Ac maent yn galw ar y sianel i ystyried yr agwedd hiliol yn y geiriau hefyd.
"Gwnaeth pedair ohonom ni gael ein magu yng Nghymru fel plant lleiafrif ethnig, yn teimlo bod yna ddiffyg cynrychiolaeth ohonom ni yn y cyfryngau Cymraeg.
"Roedd hyn yn gallu gwneud i ni deimlo ar wah芒n i Gymry arall, ac fel ein bod yn cael ein hanwybyddu.
"Mae gennyn ni wallt cyrliog a mawr achos o ein hethnigrwydd. Dydy gwallt fel hyn ddim yn gallu cael ei "ddofi"."
Mae'r llythyr yn dweud bod y frawddeg yn eu hatgoffa o deimlad "bod na ddim lle i blant fel ni yn y cyfryngau Cymraeg, a bod ein golwg yn annerbyniol i gynulleidfa Cymraeg".
"Wrth i ni ysgrifennu atoch heddiw fel oedolion bellach, rydyn ni'n drist bod yr agweddau yma heb newid - yn 么l y dyfyniad yma."
'Iaith y 1970au'
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Ginio ar 成人快手 Radio Cymru dywedodd Melanie Owen ei bod bron 芒 chr茂o pan ddarllenodd y geiriau.
Roedd yn cael ei hatgoffa o sut roedd hi'n teimlo "fel merch ifanc yng Nghymru, yn cas谩u fy ngwallt - roedd gas gen i gwallt fi", meddai.
"Mae'r iaith rydan ni'n clywed yn y dyfyniad yma yr un math o iaith yr oedd fy mam yn ei glywed yn y 1970au."
Mae S4C wedi penodi swyddog amrywiaeth a chynhwysiant ers mis Tachwedd, ond er ei bod yn croesawu hynny ac yn derbyn ymddiheuriad y sianel, roedd Ms Owen yn credu bod angen iddynt wneud mwy.
"Mae hwn fel esiampl yn dangos dydy hon ddim yn swydd i un person. Mae'n swydd enfawr... mae angen adran i wneud hyn."
Ychwanegodd: "Roeddwn i'n cael fy magu yng Nghymru heb deimlo fy mod i'n cael fy nghynrychioli o gwbl ac mae'r iaith a welon ni yn y dyfyniad yma yn dangos pam roeddwn i'n teimlo mor isolated.
"Dwi wedi dod i hoffi fe [S4C] ond doeddwn i ddim yn hoffi gwylio fe fel plentyn achos pethau fel hyn a dwi just yn meddwl bod hwn ddim yn rhywbeth sy'n mynd i gael ei ddatrys o fewn un blwyddyn, mae angen ei ddatrys dros y tymor hir ac yn anffodus mae'n lot rhy fawr i un person."
'Cwbl annerbyniol'
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Rydym yn derbyn fod y geiriad dan sylw yn gwbl annerbyniol, ac yn ymddiheuro am unrhyw boen a niwed sydd wedi ei achosi yn sgil hyn.
"Gallwn gadarnhau y bydd y geiriad yn cael ei newid heddiw ac y byddwn yn cysylltu gyda'r llythyrwyr i ymddiheuro ac egluro yn llawn.
"Ers rhai misoedd bellach mae Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C wedi ei phenodi sy'n gweithio ar gynllun o waith hir-dymor fydd yn edrych ar ddiweddaru unrhyw ganllawiau, ffurflenni, a pholis茂au er mwyn sicrhau eu bod mor gynhwysol 芒 phosib - bydd hyn yn cynnwys prosesau adnoddau dynol mewnol S4C ac hefyd unrhyw ganllawiau neu gyfarwyddiadau sy'n cyd-fynd 芒 rhaglenni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2020