成人快手

Ymchwiliad 'fforensig' wedi mwy o achosion o haint De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ProfiFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cynyddu nifer y profion er mwyn ceisio atal yr amrywiolyn rhag lledaenu

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymchwiliadau fforensig yn dilyn cadarnhad bod 13 achos o'r amrywiolyn Covid-19 De Affrica bellach wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth gynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher fod 10 o'r achosion hynny 芒 chysylltiadau amlwg 芒 De Affrica neu deithio tramor.

Ond does dim tystiolaeth amlwg sut y gwnaeth y tri arall ddal yr amrywiolyn yma o'r haint.

Dywedodd Vaughan Gething bod dau o'r achosion hynny yn gysylltiedig 芒'i gilydd - yn Ynys M么n a Chonwy - a bod y trydydd achos yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Ond yn 么l y gweinidog does dim tystiolaeth hyd yma bod yr amrywiolyn yn lledaenu yn y gymuned ehangach.

'Gweithio o amgylch y cloc'

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymchwiliad manwl a fforensig i bob un o'r achosion hyn er mwyn canfod pryd a sut y cafodd y bobl eu heintio gyda'r amrywiolyn De Affrica ac os oes yna unrhyw dystiolaeth o ledaeniad ehangach yn y gymuned," meddai Mr Gething.

"Rydyn ni'n gweithio o amgylch y cloc i ddarganfod sut wnaeth y tri pherson yma gael eu heintio 芒'r amrywiolyn De Affrica a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yn ddiogel."

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd fod yr amrywolion newydd - rhai Kent, De Affrica a dau o Frasil - yn "golygu ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod ni oll yn dilyn y rheolau".

"Maen nhw'n fwy heintus ac yn symud yn gynt na'r straen coronafeirws rydyn ni wedi bod yn delio ag ef ers dechrau'r pandemig," meddai.

Dywedodd Mr Gething ddydd Mawrth fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynyddu nifer y profion er mwyn ceisio atal yr amrywiolyn rhag lledaenu.

Ond yn y gynhadledd ddydd Mercher dywedodd na fyddai hynny'n cynnwys profi pobl o ddrws i ddrws mewn unrhyw ardal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Vaughan Gething nad yw'n rhagweld y bydd newidiadau "radical a sylweddol" i'r cyfyngiadau Covid-19 fis yma

Ond mae'r gwrthbleidiau wedi galw am gynnal profion torfol yn yr ardaloedd hynny ble mae'r amrywiolyn De Affrica wedi'i ddarganfod.

Dywedodd Janet Finch-Saunders ar ran y Ceidwadwyr Cymreig bod angen profion "drws i ddrws" er mwyn ei atal rhag lledaenu.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod angen "profion ar gyfer y gymuned gyfan" yn yr ardaloedd hynny er mwyn atal unrhyw un sydd heb symptomau rhag ei ledaenu.

Beth yw'r amrywiolyn newydd?

Mae pob feirws, gan cynnwys Covid-19, yn esblygu mewn i fersiynau newydd o'r amrywiolyn.

Mae'r newidiadau bach geneteg yma'n digwydd wrth i'r feirws wneud cop茂au newydd o'i hun i ledaenu a ffynnu.

Mae'r rhan fwyaf yn ddi-drafferth, a gall rhai hyd yn oed fod yn niweidiol i oroesiad y feirws, ond mae rhai amrywiolion yn gallu gwneud y feirws yn fwy heintiedig neu'n fwy bygythiol i bobl.

Erbyn hyn mae yna filoedd o amrywiolion o'r feirws yn mynd oddi amgylch. Ond mae arbenigwyr yn poeni am amrywiolyn De Affrica, neu 501.V2.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cymru "ar y trywydd cywir" i frechu pawb yn y pedwar gr诺p blaenoriaeth uchaf erbyn canol Chwefror

Ddydd Mercher fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi 50 yn rhagor o farwolaethau yn ymwneud 芒 Covid-19.

Mae 455 o achosion newydd hefyd wedi'u cofnodi yn y ffigyrau dyddiol diweddaraf.

Mae'n golygu fod 193,981 o achosion positif wedi'u cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, gyda 4,832 o farwolaethau'n gysylltiedig 芒'r haint.

Ond mae'r gyfradd achosion yma'n parhau i ostwng, gyda 127 achos ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth dros y saith diwrnod diwethaf.

'Dim newidiadau sylweddol i'r cyfyngiadau'

Cadarnhawyd hefyd ddydd Mercher bod 462,497 o bobl yng Nghymru bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn Covid-19, a 1,160 wedi derbyn y ddau ddos.

Dywedodd Mr Gething bod Cymru "ar y trywydd cywir" i frechu pawb yn y pedwar gr诺p blaenoriaeth uchaf erbyn canol Chwefror.

Er hyn dywedodd nad yw'n rhagweld y bydd newidiadau "radical a sylweddol" i'r cyfyngiadau Covid-19 fis yma.

Yn 么l y gweinidog mae angen i'r lefelau heintio ostwng ymhellach cyn bod modd llacio'r cyfyngiadau, ac mai ailagor ysgolion fydd y flaenoriaeth pan fydd modd gwneud hynny.