Ymchwiliad llofruddiaeth ar 么l canfod corff ar stryd

Disgrifiad o'r llun, Bu Westville Street yn ardal Penylan ar gau wrth i'r heddlu ymchwilio

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth ar 么l i gorff gael ei ganfod yng Nghaerdydd.

Cafodd y dyn, sydd heb ei adnabod eto, ei ganfod gan aelod o'r cyhoedd yn Westville Road, Penylan, ddydd Iau tua 23:30.

Mae Heddlu De Cymru wedi sefydlu ystafell ddigwyddiadau yng Ngorsaf Heddlu Ganolog Caerdydd.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un, neu unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Ffordd Casnewydd a'i gyffordd 芒 Albany Road, neu yn Broadway, rhwng 22:15 ddydd Iau a 01:00 ddydd Gwener.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George: "Waeth pa mor ddibwys y gall y wybodaeth ymddangos, byddai'n well gennym pe baech yn gwneud ein galwad i'n hystafell ddigwyddiadau i siarad ag un o'n swyddogion.

"Byddwn yn gofyn, os oes unrhyw un a oedd yn yr ardal o gwmpas yr amseroedd hyn, sydd ag unrhyw luniau dashcam neu deledu cylch cyfyng, i gysylltu 芒'r ystafell ddigwyddiadau yng ngorsaf heddlu Canol Caerdydd."