Jayne Ludlow yn gadael swydd rheolwr merched Cymru

Ffynhonnell y llun, cbdc

Mae rheolwr t卯m p锚l-droed merched Cymru, Jayne Ludlow, wedi gadael ei swydd.

Cadarnhaodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru ei bod wedi dod i gytundeb gyda Ludlow iddi adael swydd y rheolwr yn dilyn chwe blynedd wrth y llyw.

Mae Ludlow wedi arwain y t卯m cenedlaethol mewn tair ymgyrch ragbrofol, a sicrhau lle i Gymru yn 30 uchaf detholion y byd FIFA am y tro cyntaf.

Dywedodd Ludlow bod ei chyfnod "cyffrous a bythgofiadwy" yn y swydd wedi bod yn "anrhydedd enfawr".

'Heriau newydd'

Ychwanegodd: "Rydw i nawr yn edrych ymlaen at y dyfodol a heriau newydd, gan gynnwys bod yn rhan o d卯m technegol uwch yn FIFA."

Mae Ludlow wedi chwarae "rhan enfawr" wrth dyfu'r g锚m dros Gymru, meddai prif weithredwr CBDC, Jonathan Ford.

Diolchodd iddi am ei "gwaith diflino ac ymroddiad i b锚l-droed yng Nghymru ar ac oddi ar y cae".

Ychwanegodd CBDC y byddai'r gymdeithas yn dechrau proses recriwtio, gan edrych ymlaen at rownd ragbrofol Cwpan y Byd Merched 2023.