Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Addysg ar-lein ysgolion yn 'fratiog ac anghyson'
Mae dysgu ar-lein ysgolion Cymru yn "fratiog ac anghyson" ac mae angen strategaeth cenedlaethol gliriach, yn 么l Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dywed Sophie Howe y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau cysondeb dysgu ledled Cymru.
Fe gyhoeddwyd wythnos diwethaf bod ysgolion yn debygol o aros ynghau tan o leiaf ddiwedd mis Ionawr ac mae'r addysgu wedi symud ar-lein.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod wedi cael ei chanmol am y ffordd yr oedd wedi darparu dyfeisiau i gael mynediad at wersi ar-lein.
Mae Ms Howe hefyd wedi dweud bod angen Prif Swyddog Digidol dros Addysg, ac yn 么l Jacob Ellis o swyddfa'r comisiynydd, mae angen mwy o arweiniad gan Lywodraeth Cymru.
Byddai hyn meddai yn "gwneud yn si诺r bod 'na gysondeb o ran darpariaeth a bod yr offer ar gael i bawb yng Nghymru".
"'Da ni'n gofyn i athrawon newid y ffordd ma' nhw'n cynllunio, y ffordd ma' nhw'n dysgu o wythnos i wythnos bron a 'da ni'n disgwyl i rieni ddeall y newid byd yma wrth jyglo'r holl gyfrifoldebau gwaith sy' gyda nhw hefyd," meddai Jacob Ellis.
Yn ogystal 芒 rhedeg cwmni arlwyo, mae Rhian Owens o Faenclochog wedi troi ei llaw at addysgu ei mab 11 oed, Jac, dros y misoedd diwetha' ac mae'n ddiolchgar o'r cysylltiad gyda'r ysgol.
"'Da ni ddim wedi bod yn gwneud gwersi byw, wyneb yn wyneb gyda'r ysgol ond wrth gwrs ma' 'na dal gysylltiad ar Hwb drwy e-bost, ma' 'na gyswllt o ddydd i ddydd yn ysgrifenedig wrth gwrs ac mae'r opsiwn hefyd o godi'r ff么n os oes angen," meddai.
"Hefyd yn ystod y cyfnod clo diwetha', rodd yr athrawon yn ffonio'r disgyblion er mwyn 'neud yn si诺r bo' nhw'n ymdopi ac er mwyn cael y cysylltiad mwy personol gyda'r athro neu athrawes."
"Dwi mewn sefyllfa ffodus falle er yn y misoedd sydd wedi bod dwi ddim wedi gallu rhoi unrhyw sylw i Jac oherwydd y busnes - o'dd hwnna'n anodd iawn.
"O'n i'n teimlo ar adegau wrth weld pobl falle yn rhoi lluniau o weithgareddau addysgol oedden nhw wedi gwneud gyda'i plant ar y cyfryngau cymdeithasol - o'dd hwnna'n bwrw gartref weithau ac o'n i'n teimlo'n eitha' negyddol," ychwanegodd.
Mae ysgolion cynradd Glan yr afon a Bryn Hafod yn Llanrhymni yn y brifddinas yn darparu ystod o wersi i'w plant tra bod stafelloedd dosbarth ar gau.
Yn 么l prifathrawes y ddwy ysgol, Rhian Lundrigan, mae angen mwy o gydweithio er mwyn hybu cysondeb a rheoli llwyth gwaith athrawon.
"Ar hyn o bryd ma' pob ysgol yng Nghymru yn gwneud pethe gwahanol - os fydde pob ysgol yng Nghymru yn gwneud yr un thema ac yn rhannu'r adnoddau, wedyn gall pob athro rhannu nhw a'u rhoi nhw ar-lein hefyd," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi llwyddo i ddarparu gliniaduron a dyfeisiau MiFi i deuluoedd a oedd yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at ddysgu ar-lein, ac arweiniad a hyfforddiant i athrawon.
Ychwanegodd nad oes dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion yng Nghymru i ddarparu isafswm o addysgu ar-lein ar 么l i ysgolion yn Lloegr gael gwybod y byddai'n orfodol darparu tair i bum awr o ddysgu o bell y dydd - dyletswydd sy'n cael ei oruchwylio gan arolygwyr ysgolion.
Yn ogystal dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r corff arolygu Estyn, yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu dysgu o bell yng Nghymru yn ffurfiol ond mae wedi bod yn rhan o'r Gweithgor Dysgu Cyfunol sydd hefyd yn cynnwys y consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol.