Galw am hyblygrwydd ar daliadau cefnogaeth Covid-19

Disgrifiad o'r llun, Fel nifer sydd wedi bod yn hunangyflogedig am gyfnod cymharol fyr, nid yw Andy Stonely'n gymwys i gynllun grantiau Covid Llywodraeth y DU

Mae hyfforddwr gyrru sydd wedi bod yn byw ar Gredyd Cynhwysol ers dechrau'r pandemig wedi galw ar Lywodraeth y DU i fod yn "fwy hyblyg" gyda'i chynllun cefnogaeth ariannol.

Fel nifer sy'n hunangyflogedig ers cyfnod cymharol fyr, nid yw Andy Stonely o Gasnewydd yn cwrdd 芒'r meini prawf i dderbyn cefnogaeth.

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru hefyd wedi gofyn am newidiadau cyn i'r grantiau nesaf gael eu cyhoeddi.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys bod "cynllun SEISS yn un o'r mwyaf hael yn y byd ac wedi helpu mwy na 2.7m o bobl".

Mae'r Cynllun Cefnogaeth Incwm i'r Hunan-Gyflogedig (SEISS) yn gofyn i'r bobl sy'n ei hawlio ddangos eu cyfrifon am y flwyddyn 2018-19 yn ogystal 芒 2019-20.

Ond nid yw Mr Stonely - tad i dri o Gasnewydd - wedi bod yn hunangyflogedig am ddigon hir i fod yn gymwys.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd wrth raglen Politics Wales 成人快手 Cymru: "Rwy'n lwcus mewn ffordd oherwydd dwi wedi bod yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol, ond yn amlwg dyw hynny ddim llawer a dwi wedi bod yn ffodus i gael cymorth rhieni i gadw 'mhen uwchben y d诺r.

"Mae hi wedi bod yn anodd. Fe fyddai wedi bod yn ddelfrydol pe byddai'r llywodraeth ychydig bach yn fwy hyblyg."

Dywedodd Mr Stonely, sydd ddim wedi gallu gweithio am y rhan fwyaf o'r flwyddyn ddiwethaf oherwydd cyfyngiadau Covid, fod y credyd cynhwysol yn werth "llai na hanner" ei gyflog arferol.

Ar yr un pryd, fe wnaeth y pandemig orfodi ei wraig i roi'r gorau i'w gwaith hi am resymau gofal plant.

Ychwanegodd: "Fedrwn ni ddim cario 'mlaen am lot hirach [os fydd y cyfyngiadau presennol yn parhau]... ry'n ni'n mynd i fod mewn sefyllfa anodd dros ben."

Mae Mr Stonely yn rhan o ysgol yrru leol sy'n cael ei rheoli gan Gareth Denny, sy'n dweud fod 11 o'i 43 hyfforddwr yn yr un sefyllfa.

"Os allwch chi ddychmygu bod pobl yn byw eu bywydau i'w hincwm, ac yn sydyn does dim incwm i dalu eu morgais, eu biliau... dyw credyd cynhwysol ddim yn talu morgais y rhan fwyaf o bobl," meddai Mr Denny.

Ymchwil

Mae ymchwil diweddar gan undebau Community a Prospect, a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, yn awgrymu bod 53% o bobl hunangyflogedig ar draws y DU wedi colli mwy na 60% o'u hincwm ers dechrau'r pandemig.

Yn ogystal, roedd 64% bellach yn "ansicr" neu yn "llai tebygol" o fod eisiau bod yn hunangyflogedig neu lawrydd yn y dyfodol.

Dywedodd Ben Francis o'r ffederasiwn: "Mae'r rhain yn bobl gyffredin gyda morgeisi a theuluoedd i'w cynnal, ac sydd wedi gorfod talu am Nadolig i'w teuluoedd.

"Mae'r biliau yna'n tyfu, ac ar 么l 12 mis anodd iawn maen nhw nawr yn gorfod ceisio ymdopi gyda'r tri mis sydd i ddod.

"Ry'n ni'n gofyn i Lywodraeth y DU fod yn hyblyg wrth wirio statws busnesau hunangyflogedig newydd."

Disgrifiad o'r llun, "Dyw credyd cynhwysol ddim yn talu morgais y rhan fwyaf o bobl," meddai Gareth Denny

Dywedodd Kate Dearden o undeb Community: "Heb fusnesau bach sy'n mynd i geisio cael yn 么l ar eu traed bydd mwy a mwy o bobl yn gadael hunangyflogaeth.

"Bydd hynny'n drychineb i'n heconomi ac i econom茂au lleol, i'w bywoliaeth ac i'w teuluoedd, ac mae'r rhan yma o weithlu'r DU yn chwarae r么l hanfodol ac fe ddylen nhw gael y gefnogaeth ddigonol i barhau i wneud hynny."

Ymateb

Mae'r Trysorlys eisoes wedi ymrwymo i ymestyn y cynllun SEISS tan Ebrill 2021, ond dyw'r meini prawf i fod yn gymwys am y rownd nesaf o grantiau heb gael eu cyhoeddi hyd yma.

Dywedodd llefarydd: "Mae ein cynllun SEISS yn un o'r mwyaf hael yn y byd ac wedi helpu mwy na 2.7m o bobl sydd eisoes wedi hawlio mwy na 拢13.7bn.

"Mae'r cyllid wedi'i dargedu ar y rhai sydd ei angen fwyaf a gwarchod y trethdalwr rhag twyll a cham-drin y system. Gallai rhai sydd ddim yn gymwys fod yn medru cael mynediad i'n cynllun benthyciadau, gohirio treth, 'gwyliau' morgeisi a grantiau cymorth busnes.

"Ry'n ni hefyd wedi rhoi 12 mis yn rhagor i bobl hunangyflogedig i dalu eu treth oedd i fod i gael ei dalu yn Ionawr 2021."

Gallwch wylio mwy am y stori yma ar Politics Wales am 10:00 ar 成人快手 One Wales ddydd Sul, 10 Ionawr, ac ar iPlayer.