Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cartref newydd i fad achub diolch i ddau Ferrari
- Awdur, Alun Rhys
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Bydd criw bad achub Pwllheli yn symud i gartref newydd yn y flwyddyn newydd, ond mae hanes sut y daeth yr adeilad i fodolaeth yn anarferol a dweud y lleia'.
Y llynedd cyhoeddodd Sefydliad y Badau Achub (RNLI) y byddai Pwllheli yn cael bad achub newydd sbon, dosbarth Shannon.
Gan nad ydi'r cwt presennol yn ddigon mawr i ddal y cwch newydd roedd rhaid cael adeilad newydd.
Aeth y pwyllgor lleol ati i godi arian a hyd yma mae pobol Pwllheli wedi codi 拢83,000. Ond mae eu hymdrechion i godi arian wedi cael hwb annisgwyl.
Maen nhw wedi derbyn rhodd o 拢2.8m mewn ewyllys g诺r o Northampton. Roedd Richard Colton yn cadw ceir clasurol ac mi adawodd ddau gar Ferrari i'r RNLI yn ei ewyllys.
Mi gawson nhw eu gwerthu yn Sothebys am 拢8.5m - y rhodd unigol mwyaf erioed i'r sefydliad ei dderbyn, ac mae Pwllheli wedi cael cyfran o'r arian yna.
Dywed Delyth Davies, cadeirydd pwyllgor noddi'r RNLI ym Mhwllheli, fod y rhodd wedi bod yn syndod ac yn fendith.
"Bythefnos yn 么l glywson ni ein bod ni yn cael y swm enfawr o dros 拢2.5m ar 么l Mr Richard Colton, g诺r oedd 芒 dim cysylltiad hefo Pwllheli na'r m么r ac yn dod o Northampton," meddai.
"Ei bleser o oedd classic cars ac yn ei ewyllys roedd o wedi gofyn i ddau o'i geir, dau Ferrari, gael eu gwerthu. Mi gawson nhw eu gwerthu am bron i 拢9m ac roedd o wedi gofyn am i'r pres yna gael ei roi i'r RNLI, a gan ein bod ni yn disgwyl cael cwt newydd mae o'n cael ei ddefnyddio at hynny.
"Mae'n diolch ni yn fawr iawn i Mr Colton, ac i bobol Pwllheli am godi 拢83,000 yn lleol."
Clive Moore ydi llywiwr y bad achub ym Mhwllheli. Hefyd, ag yntau'n bensaer, y fo sydd wedi cynllunio'r adeilad newydd. Er ei fod wedi cynllunio rhyw ddwsin o adeiladau tebyg, mae'n amlwg fod cynllunio adeilad i'r criw ym Mhwllheli wedi bod yn brofiad arbennig.
"Mae hi wedi bod yn fraint cael y cyfle i gynllunio'r adeilad yma," meddai.
"Wrth gwrs mae yna bwysau ofnadwy pan mae o'n adeilad i'r orsaf ym Mhwllheli. Dwi wedi trio fy ngorau a dwi'n meddwl fod pawb yn hapus iawn hefo'r canlyniad.
"Mae yna fwy o bwysau ar dechnoleg amgen, mae gynnon ni baneli solar, a hefyd rydan ni yn gwresogi'r lloriau hefo gwres tanddaearol, ac mae hynny yn helpu i gadw defnydd y carbon i lawr."
Mi fydd y criw yn symud i mewn i'r adeilad yn y flwyddyn newydd, ac mi fydd y bad achub newydd yn cyrraedd ym mis Ebrill, a dywed Tomos Moore, swyddog cyhoeddusrwydd y bad achub, fod yna gryn edrych ymlaen.
"Mae'r hen adeilad wedi bod yn sefyll yna ers dros 100 mlynedd ac erbyn hyn dydi'r cyfleusterau ddim i fyny i ofynion yr RNLI, felly mi fyddan ni yn symud drosodd yma yn y flwyddyn newydd," meddai.
"Erbyn r诺an dim ond un 'stafell fawr sydd gynnon ni yn yr orsaf ym Mhwllheli. Mae'r cwch, yr ystafell newid, y toiled ag ystafell y criw a'r swyddfa i gyd mewn ystafell fawr. Ond pan fyddwn ni yn symud i mewn i'r adeilad yma mi fydd gynnon ni lefydd i'r criw, lle i hyfforddi, lle i'r cwch a'r cwch bach, ac mae'n mynd i fod yn anhygoel i'r criw ac maen nhw i gyd yn edrych ymlaen."
Oherwydd y cyfyngiadau yn sgil y pandemig rhyw bymtheg galwad gafodd bad achub Pwllheli eleni, llai na hanner y nifer arferol. Ond wrth i'r rheolau gael eu llacio y flwyddyn nesa a rhagor o ymwelwyr yn cyrraedd Llyn, mi fydd yna fwy o alw am y gwasanaeth ac mi fydd y criw, yr adeilad a'r bad achub newydd yn barod am yr her.