成人快手

Realiti bod yn berchen ar dafarn yn 2020

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Teulu Butchers ArmsFfynhonnell y llun, Lynwen Jones

Mae Lynwen Jones a'i g诺r Dafydd wedi bod yn rhedeg Y Butchers yn Llanddarog, Sir G芒r ers tair blynedd a hanner, ond mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i'r busnes.

Yn dilyn y cyfyngiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru ar fwytai a thafarndai, fe wnaeth y teulu y penderfyniad anodd o gau'r dafarn dros dro. Bellach, 芒'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cyfyngiadau Lefel 4, a fydd yn gorfodi lleoedd lletygarwch i gau o 18.00 noson Nadolig, mae dyfodol y diwydiant hyd yn oed yn fwy ansicr.

"Dim y gwahardd gwerthu alcohol falle oedd yr unig broblem," eglurodd Lynwen yngl欧n 芒'r rheolau a gafodd eu cyhoeddi ar 30 Tachwedd, "ond cau am 6pm. Fel busnes, ni 'di gorfod cau dair gwaith nawr, a ni dal heb ail-agor amseroedd cinio, felly dim ond gweini nos Fercher tan nos Sadwrn, a chinio dydd Sul o'n ni.

"Rhywbeth newydd i'r busnes ers y cyfnod clo oedd i agor amser cinio dydd Sul - o'dd hwnnw'n rhywbeth oedden ni byth wedi ei 'neud yn y gorffennol, ond o'dden ni jest yn teimlo bod galw wedi bod.

"Yn amlwg ar y dechre, o'dd pawb yn falch i ddod mas a phawb yn falch o gael take-away, ond o'ch chi'n gallu gweld fod y patrwm yn newid eto. O'dd pobl yn canslo munud ola' achos bod Track and Trace wedi bod mewn cysylltiad, a bod nhw'n gorfod hunan-ynysu. Gawson ni lot o hynny yn yr wythnose diwetha', lle o'dd e'n rili anodd.

"O'dden ni'n meddwl ei fod e'n ormod o risg, gyda nifer yr achosion yn lleol hefyd - ma' fe bobman. O'n i jest yn gweld yr unig ymateb i ni fel busnes bach oedd i gau yn gyfan gwbl."

Cyfnodau clo

Felly mae'r dafarn a'r t欧 bwyta gwledig ar gau unwaith eto, a hynny am y trydydd tro eleni. Mae pob cyhoeddiad newydd gan y Llywodraeth am gyfyngiadau wedi dod 芒'i her ei hun, meddai Lynwen.

"Dda'th y cyfnod clo cynta' fel sioc mawr i ni. O'dd rhaid i ni gau yn syth, y diwrnod 'na, ac o'dd hwnna'n rili anodd.

"Beth o'dd yn waeth pryd 'ny oedd o'ch chi wedi prynu'r cynnyrch mewn; o'dd y stoc i gyd gyda chi, ac o'dd trio delio gyda 'na yn rili torcalonnus, a gweld yr holl wastraff bwyd.

Ffynhonnell y llun, Lynwen Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yn rhaid i'r Butchers wneud newidiadau cyn ail-agor ddechrau mis Awst, er mwyn sicrhau diogelwch y cwsmeriaid a'r staff

"Erbyn yr ail un, gawson ni rybudd, felly o'dd hwnna bach yn rhwyddach. Ond gyda'r un hyn, o'dd hyd yn oed pump neu chwech diwrnod o rybudd ddim yn ddigon.

"Ar hyn o bryd mae gennym ni 10 keg o gwrw sy'n eistedd 'na'n llawn. Gallen ni fod wedi prynu popeth mewn ar gyfer y Nadolig, ond yn lwcus, o'dden ni'n gallu gweld fod pethau ddim yn mynd i fynd n么l i normal, a doedd dim bwydlen Nadolig yn barod gennym ni."

'Torcalonnus'

Gyda'r busnes wedi bod ar gau bron fwy na mae wedi bod ar agor eleni, mae yna straen ariannol aruthrol wedi bod ar y busnes, ac nid yw Lynwen yn credu fod yna ddigon o gefnogaeth wedi cael ei ddarparu.

"Dwi jest yn teimlo ein bod ni wedi cael ein cosbi, yn enwedig fel busnes bach," meddai Lynwen. "O'dd y system ffyrlo yn ei le, o'dd yn ffantastig i'r staff, ond fel perchnogion busnes, dy'n ni ddim wedi cael cefnogaeth o gwbl. O'dd dim hawl gyda fi fynd am y ffyrlo, achos dwi ddim ar y llyfrau er bo' ni'n berchen y busnes.

"Aethon ni am tua 4-5 mis heb gyflog nag incwm, ac mae e'n rili anodd i wynebu'r ffaith mai hwn yw realiti'r sefyllfa a mae e'n parhau nawr eto. Fi'n credu be' sy'n anodd hefyd yw, chi'n clywed am rhyw grant newydd a chi'n trial mynd am y grantiau 'ma, ond os nad y'ch chi'n ticio'r bocsys yn gywir, chi ffili cael e.

"Does dim byd yn rhwydd, a 'sa i'n teimlo ein bod ni wedi cael cefnogaeth, yn enwedig busnesau bach unigol.

"Fi'n credu mae e'n bwrw chi hefyd - teimlo'n ddi-waith - a wynebu'r ffaith doedd 'na ddim un opsiwn gallen i fynd amdano o ran cefnogaeth ariannol i helpu i dalu'r biliau. Roedd hyn yn eitha' torcalonnus, achos dwi wastad wedi gweithio'n galed - o'n i'n athrawes a nes i orffen yn y swydd dysgu, swydd o'dd yn ddiogel, a mentro yn y byd busnes.

"Wedyn chi'n teimlo eich bod chi wedi cael eich gadael i lawr ar 么l popeth ry'ch chi wedi ei 'neud. Mae hynny wedi bod yn anodd i'w wynebu."

Ffynhonnell y llun, Lynwen Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lynwen yn gobeithio y byddan nhw'n gallu ail-agor rhywbryd, ond mae hi'n anodd gwybod pryd, yn enwedig yn sgil y cyfyngiadau diweddaraf

Methu paratoi ar gyfer ail-agor

Gobaith y teulu yw i ail-agor yn y flwyddyn newydd, ond wrth gwrs, gyda'r cyhoeddiad diweddaraf am gyfnod clo, nid oes ganddi, nag unrhyw un arall, syniad pryd fydd hynny yn gallu digwydd. Dydy Lynwen ddim yn rhagweld y bydd pethau yn gwella am fisoedd, ac mae hi'n cwestiynu a fydd arferion pobl wedi newid o ran mynd allan i gael bwyd, pan fydd y cyfyngiadau yn codi.

"Fel arfer mae pobl yn dod aton ni i ymlacio, bydden nhw'n cael pryd mawr, falle pwdin, a bydden nhw 'na am gwpwl o orie. 'Sai'n gallu gweld bod hwnna yn mynd i ddigwydd rhagor - dwi'n gweld fydd pobl jest mewn a mas.

"Bydd rhaid i ni ail-edrych ar y fwydlen a meddwl os ni'n gallu cynnig rhywbeth gwahanol i'w denu nhw i ddod aton ni yn hytrach nag aros yn y dre falle i gael cinio.

"Achos dyna'r broblem 'da ni, 'dyn ni ddim ynghanol y dre. Os ewch chi i'r trefi, mae'r caffis a'r tafarndai'n llawn amser cinio, ond eto, a fydd e'r un peth iddyn nhw ym mis Ionawr pan dyw pobl ddim yn mynd mas i siopa rhagor? Si诺r o fod ddim.

"Chi ffili hyd yn oed paratoi ar gyfer ail-agor. Os nag yw pethau wedi gwella, chi bron 芒 bod yn edrych ar fis Ebrill. A 'na realiti'r sefyllfa.

"Mae'n rhaid trial aros yn bositif, ond mae e'n ofid nawr i feddwl bod ni mewn sefyllfa waeth na beth oedden ni'n ei ddisgwyl. Ond mae'n rhaid i ni roi iechyd pawb gynta' ac mae'n rhaid i bawb ddiogelu ei gilydd."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig