成人快手

Y dyfarnwr Nigel Owens yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
Nigel OwensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe basiodd Nigel Owens record Jonathan Kaplan fel y dyfarnwr a oedd wedi bod yn gyfrifol am y mwyaf o gemau rhyngwladol yn 2016

Mae dyfarnwr rygbi mwyaf profiadol y byd, Nigel Owens, wedi dod a'i yrfa ryngwladol i ben.

Mewn neges ar wefannau cymdeithasol dywedodd ei fod yn gwneud y cyhoeddiad "gyda chalon drom".

Fe gymrodd y Cymro ofal o'i 100fed g锚m ryngwladol fis diwethaf - g锚m Cwpan Cenhedloedd yr Hydref rhwng Ffrainc a'r Eidal - ac mae wedi cyhoeddi mai'r g锚m honno fydd ei olaf.

Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Rob Butcher, wedi disgrifio Owens fel ysbrydoliaeth "nid yn unig am ei ddyfarnu ond am ei gyfathrebu a'r ffordd y mae'n cynnal pob agwedd ar ei fywyd".

Dechreuodd Owens ei yrfa ryngwladol pan gymrodd yr awenau wrth i Bortiwgal gwrdd 芒 Georgia yn 2003.

"Nid oes gan neb hawl ddwyfol i fynd ymlaen am byth," meddai Owens.

"Daw amser lle mae'n bryd symud ymlaen, felly bydd dyfarnu rhyngwladol yn dod i ben nawr, ac felly y g锚m rhwng Ffrainc a'r Eidal oedd fy ng锚m brawf ddiwethaf."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nigel Owens y dyfarnu rownd derfynol Cwpan y Byd 2015

Mae'r Cymro 49 mlwydd oed wedi profi gyrfa hir a thrawiadol, ac mae'n cael ei barchu ar draws rygbi'r undeb fel un o ddyfarnwyr gorau'r byd.

Roedd wrth y llyw yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd 2015 yn ogystal 芒 sawl rownd derfynol cystadlaethau Ewropeaidd, ac mae wedi dod yn enw amlwg oherwydd ei berthynas 芒 chwaraewyr ar y cae a'i ymddangosiadau yn y cyfryngau.

Dywed Owens ei fod yn gobeithio parhau i ddyfarnu yn y Pro14 yn ogystal ag yn lleol yng Nghymru y tymor hwn, ac o bosib yn ymgyrch 2021-22.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Nigel Owens MBE

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Nigel Owens MBE

"Byddaf yn sicr yn parhau i ddyfarnu yn y g锚m gymunedol oherwydd pan fyddwch chi'n ffodus iawn i gael cymaint o fudd o rywbeth, rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig eich bod chi'n rhoi rhywbeth yn 么l iddo hefyd," ychwanegodd.

"Byddaf hefyd yn ymgymryd 芒 r么l hyfforddi gydag Undeb Rygbi Cymru, gan helpu rhai o'n dyfarnwyr ifanc talentog sydd gennym yma yng Nghymru, felly mae hynny'n rhywbeth rwy'n eithaf cyffrous amdano.

"Ar hyn o bryd mae gennym ni bum dyfarnwr gan gynnwys fy hun yn dyfarnu ar lefel Pro14, felly bydd yn gyffrous i'w helpu i wneud cynnydd pellach, yn ogystal 芒'n dyfarnwyr gwrywaidd a benywaidd eraill sydd ar ddod."

Dywedodd cadeirydd URC, Rob Butcher, fod y Cymro'n ysbrydoliaeth "nid yn unig am ei ddyfarnu ond am ei gyfathrebu a'r ffordd y mae'n cynnal pob agwedd ar ei fywyd".

"Mae'n gyflawniad gwirioneddol wych i ddyfarnwr gyrraedd 100 cap," meddai Butcher.

"Ar ben hynny, mae Nigel wedi bod, ac yn dal i fod, yn llysgennad gwych i rygbi Cymru ledled y byd."