成人快手

Dr Ioan: Iechyd meddwl a Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Dr Ioan ReesFfynhonnell y llun, ffotoNant

"Rwy'n gobeithio y byddwn yn fwy gwydn o ganlyniad i Covid, ac y byddwn yn fwy diolchgar, goddefgar, gofalgar, tosturiol, graslon a chariadus."

Dyma eiriau'r seicolegydd Dr Ioan Rees o raglen FFIT Cymru wrth iddo drafod iechyd meddwl y genedl yn sgil pandemig Covid-19. Yma mae e'n rhannu ei brofiad o effaith ysgytwol y feirws ar iechyd meddwl yng Nghymru a'i gyngor am sut i ddelio gyda'r straen o fyw gyda'r 'normal' newydd.

Effaith y pandemig

Mae mwy na dwy ran o dair o oedolion yn y DU (69%) yn nodi eu bod yn poeni rhywfaint neu'n bryderus iawn am yr effaith y mae Covid-19 wedi cael ar eu bywyd.

Mae Covid-19, a'r ymateb i'r pandemig, wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl y genedl trwy'r amlygiad cynyddol i straen.

Yn ogystal, collodd llawer o bobl oedd 芒 chyflyrau a oedd yn bodoli eisoes, eu ffyrdd arferol o ymdopi, megis cwmni ffrindiau a theulu a lleihad mewn mynediad at gynhaliaeth a thriniaeth iechyd meddwl.

Ansicrwydd a gofid

Mae'r pandemig wedi cynyddu ansicrwydd ynghylch yr economi, cyflogaeth, cyllid, perthnasoedd, ac wrth gwrs, iechyd corfforol a meddyliol. Mae pob un ohonom yn dyheu am ddiogelwch a sicrwydd.

Rydyn ni eisiau teimlo'n ddiogel a chael ymdeimlad o reolaeth dros ein bywydau a'n lles. Felly, gall ofn ac ansicrwydd arwain at straen, gor-bryder a theimlo'n ddi-rym dros gyfeiriad eich bywyd.

Yng nghyd-destun iechyd meddwl, o ganlyniad i Covid mae pobl yn poeni am y dyfodol fwy (63%), teimlo fwy dan straen, ac yn profi pryder (56%) a theimlo'n isel fwy (49%).

Gwytnwch

Mae meithrin gwytnwch yn bwysig. Ond, rhaid pwyso a mesur y cynnydd tebygol o broblemau salwch iechyd meddwl - oherwydd Covid-19 - yn erbyn y risg o batholegeiddio ymatebion emosiynol sy'n normal mewn ymateb i brofiadau ddigynsail, llawn straen.

Sut i ymdopi

Mae gan bob un ohonom derfyn ar faint y gallwn ei gymryd o straen a phryder.

Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch llethu gan ansicrwydd a phryder, mae'n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun; mae llawer yn profi'r un peth ar yr adeg hon.

Mae hefyd yn bwysig sylweddoli, waeth pa mor ddiymadferth ac anobeithiol rydych chi'n teimlo, mae yna gamau y gallwch chi eu cymryd i ddelio yn well ag amgylchiadau na ellir eu rheoli, lleddfu'ch pryder, ac wynebu'r anhysbys gyda mwy o hyder.

Addasu eich meddylfryd

Er mwyn ymdopi 芒'r holl ansicrwydd hwn, mae llawer yn gor-feddwl fel ffordd o geisio rhagweld y dyfodol ac osgoi problemau.

Fodd bynnag, ni all gor-feddwl roi mwy o reolaeth i chi dros ddigwyddiadau na ellir eu rheoli; mae'n eich dwyn o fwynhad yn y presennol, yn lleihau ar eich egni, ac yn effeithio ar ansawdd eich cwsg.

Help ymarferol

Canolbwyntiwch ar reoli'r pethau hynny sydd o dan eich rheolaeth - newid o boeni a chnoi cil i ddatrys problemau yn ymarferol.

  • Derbyn yr hyn na allwch ei newid.

  • Herio eich angen am sicrwydd am bopeth.

  • Canolbwyntio ar y foment / y presennol.

Hunan-ofal

Mae hunan-ofal yn bwysig iawn - mae yna lawer o bethau y gallwn ni eu gwneud i geisio aros yn iach, yn gorfforol ac yn feddyliol. Gall gymryd camau i gynnal lles eich helpu chi i ymdopi 芒'r heriau a achoswyd gan Covid, gan gynnwys:

Sylwi ar y positif

Ysgrifennwch restr fer ddyddiol o bethau positif yn eich bywyd neu'r hyn yr ydych yn ddiolchgar amdano.

Gwerthfawrogi natur

Mae natur yn cyflawni rhai gwyrthiau mawr i ni. Rhowch hwb i'ch ysbryd trwy fynd tu allan, agor eich ffenestr neu wrando ar s诺n melys caneuon adar ar-lein. Mae rhywbeth mor syml 芒 gofalu am blanhigyn pot dan do yn gallu bod yn ffynnon o bleser.

Cyfyngu eich amser ar y cyfryngau cymdeithasol

Gall y cyfryngau cymdeithasol eich helpu i gadw mewn cysylltiad 芒 phobl, ond gallent hefyd wneud i chi deimlo'n bryderus os yw pobl yn rhannu straeon newyddion neu'n postio am eu pryderon. Os hynny, ceisiwch reoli'r amser rydych chi'n ei dreulio ar y cyfryngau.

Cadw cysylltiad cymdeithasol rheolaidd

Mae llawer ohonom wedi mynd heb gyswllt wyneb yn wyneb 芒'n hanwyliaid ers sawl mis. Mae cyswllt cymdeithasol yn bwysig iawn ar gyfer cadw'n iach. Mae Covid-19 wedi bod yn arbennig o heriol i'r rhai sydd 芒 phryderon iechyd meddwl oherwydd aflonyddwch / unigrwydd cynyddol / diffyg system gymorth - felly, cadwch gysylltiad ag eraill yn rheolaidd.

Gofyn am help pan fydd ei angen arnoch

Mae gofyn am help yn arwydd o gryfder a dewrder, nid gwendid. Felly peidiwch 芒 bod ofn gofyn am gymorth gan eraill neu arbenigwyr.

Edrych ymlaen i'r dyfodol

Mae angen i ni gefnogi ein gilydd dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf - nid yn unig i ddelio ag effeithiau'r trawma ond hefyd i helpu ein gilydd i adeiladu gwytnwch fel pobl a chymdeithas.

Mae'r pandemig wedi dangos i ni faint rydyn ni'n dibynnu ar ein gilydd, ond mae hefyd wedi ein hatgoffa o'n cyfrifoldebau personol i feithrin bywyd boddhaol a all wrthsefyll profiadau bywyd.

Efallai i rai, bydd y profiad hwn wedi rhoi cyfle i wneud penderfyniadau pwysig ynghylch sut y maent yn dymuno gwella eu bywyd.

Rwy'n gobeithio y byddwn yn fwy gwydn o ganlyniad i Covid, ac y byddwn yn fwy diolchgar, goddefgar, gofalgar, tosturiol, graslon a chariadus.

Gobeithio ein bod wedi dysgu i roi eraill o flaen eu hunain, ac am bwysigrwydd parchu'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Ioan a th卯m FFIT Cymru

Gwyliwch Dr Ioan a'r arbenigwyr eraill yn dal i fyny gydag arweinwyr cyfres 2020 ar FFIT Cymru: 6 Mis Wedyn ar S4C ar nos Iau 10 Rhagfyr am 9pm.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig