Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Steve Backshall: 'Y Gymraeg yn hardd ac yn bwysig'
Mae Steve Backshall yn naturiaethwr, anturiaethwr, teithiwr a chyflwynydd sy'n wyneb cyfarwydd ar y ³ÉÈË¿ìÊÖ a sianeli teledu o amgylch y byd.
Mae wedi ennill sawl BAFTA ac fe enillodd ei raglen ar y Discovery Channel, 'Expedition Borneo', Emmy yn yr Unol Daleithiau. Mae wedi ysgrifennu llyfrau teithio ac wedi gwneud llawer o heriau gwahanol fel arwain teithiau i fynyddoedd yr Himalayas a De America, a rhedeg marathon ultra 'Marathon des Sables' yn yr anialwch.
Ond her wahanol iawn mae Steve yn ei wneud ar hyn o bryd, sef dysgu Cymraeg. Esboniodd pam ei fod wedi dewis dysgu'r iaith a faint mae'n mwynhau'r profiad.
Wrth imi fynd yn hÅ·n dwi'n dyheu mwy am etifeddiaeth, y teimlad o berthyn ac o ddod o rywle. Mae fy ngwraig Helen yn dod o Gernyw, ac mae o leiaf deuddeg cenhedlaeth o'i theulu hi, ar y ddwy ochr, yn dod oddi yno hefyd. Dwi'n genfigennus o hynny, ac eisiau fo'n ofnadwy i fy mhlant.
Dwi'n dod o ardal yn ne Lloegr lle mae popeth yn union yr un fath. Mae holl hanes lle dwi'n dod yn ymwneud â gwrogaeth a'r frenhiniaeth, a dydi hynny ddim yn golygu dim i mi. Does gen i ddim gwreiddiau, ac mae gen i hoffter mawr o lefydd sydd gyda rhai.
Fy hoff air Cymraeg, felly, yw 'hiraeth', sy'n codi'r felan arna i, a sydd heb gyfieithiad llythrennol ond sy'n teimlo i mi fel tasai'n golygu; 'perthyn a dyhead am gartref'.
Mae Cymru, yn arbennig y llefydd Cymreig mwyaf gwyllt, wedi bod yn rhan anferth o fy mywyd. Mae gen i frith atgofion o fy mhlentyndod o gael fy llusgo i fyny'r Glyderau a'r Carneddau gan fy rhieni hyper-active; ac o arnofio i ffwrdd ar fy ngwely awyr yn ystod rhyw noson stormus.
'Cymru wedi bod yn dda iawn i mi'
Yn hwyrach ymlaen pan 'nes i ddechrau rhedeg mynyddoedd, fyddwn i'n troi at fynyddoedd y Bannau Brycheiniog, dringo yn Llanberis, yn y caiac yn y Gŵyr, a chrwydro Ynys Sgomer ac Ynys Môn.
Pan oeddwn i'n paratoi ar gyfer fy her ddiweddara' - y daith gyntaf i lawr afon dŵr gwyn yn Rwsia - fe es i ar y Dyfrdwy, i'r Bala ac i Blas y Brenin i ymarfer. A dwi newydd dderbyn darlithyddiaeth er anrhydedd o Brifysgol Bangor (y brifysgol orau yn y wlad i astudio gwyddorau naturiol!).
Mae Cymru wedi bod yn dda iawn i mi, ond mae rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i wedi meddwl dysgu unrhyw Gymraeg. Mae hynny yn hollol wallgo'!
Dwi wedi bod yn teithio ers canol yr 1990au; yn gyntaf fel awdur teithio, yna fel Anturiaethwr Preswyl efo'r National Geographic.
Pan fydd rhywun yn gofyn i mi am unrhyw gyngor ar sut i fod yn awdur teithio da, dwi'n ateb 'dysgwch yr iaith; does 'na ddim byd yn trawsnewid y croeso 'da chi'n derbyn mwy na'r ffaith eich bod yn fodlon cyfathrebu gan ddefnyddio'r iaith leol'.
Ond eto, gyda Chymraeg...
Fis Hydref eleni fe wnaeth S4C gysylltu efo fi i ofyn a fyddwn i'n hoffi cymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith. 'Naethon nhw yrru dolen i mi a oedd yn dangos siwrne Adrian Chiles a Scott Quinnell yn dysgu Cymraeg.
Roeddwn yn meddwl bod y rhaglenni'n wych, ac o'n i wedi cael braw cyn lleied o'n i'n ei wybod.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 1
Sut oeddwn i wedi gallu treulio gymaint o amser yng Nghymru ond ddim yn gwybod beth oedd 'helo' a 'diolch'? Dwi'n cario dipyn o gywilydd hefyd o'r ffaith mai Saeson yw'r gwaethaf am ddysgu ieithoedd eraill (mae hyd yn oed yr Americanwyr yn dysgu ail iaith mwy na ni!).
'Fy arwr, Iolo'
Apêl arall oedd mai Iolo Williams, Godfather bywyd gwyllt Cymru, fyddai'n fy helpu ar y siwrne - mae'n arwr personol i mi.
A'r hyn a sicrhaodd fy mod i'n cymryd rhan, oedd fy mod i ar fin treulio pythefnos ar gwch deifio yng nghanol y Môr Tawel. Wrth ffilmio Liveaboard Dive ydi'r unig adeg lle mae gen i dipyn o amser rhydd yn ystod y dydd (mae gen i blentyn dwy oed ac efeilliaid sy'n fabis!)... felly, amdani!
I ddechrau 'nes i ddysgu gyda'r app 'Say something in Welsh', gan wneud tua 30 awr o ddysgu yn ystod fy mhythefnos ar y môr. Roedd hyn yn sylfaen dda, ond ar y ffordd gyda Iolo a'r criw oedd yn siarad Cymraeg yw lle y dechreuodd bethau ddisgyn i'w lle o ddifri.
Roedd fy rhagdybiaethau am y Gymraeg i gyd yn anghywir. Mae gymaint o bobl yn trio pardduo'r iaith a dweud ei bod hi'n hyll; yn gras, yn Almaenaidd, gyda'r siaradwr yn poeri ar draws y lle.
Mae hyn i gyd yn nonsens.
'Braf i'r glust'
Mae'r Gymraeg yn iaith sydd fel cân delynegol sy'n dawnsio'n hapus ac yn braf iawn i'r glust. Ac mae'r iaith mor wahanol yn dibynnu ar eich lleoliad; roedd gan bob aelod o'r tîm dafodiaith wahanol a gwahanol dôn wrth siarad, rhai yn anadlog a Nordig, ac eraill yn gynnes a chadarn.
A'r geiriau! Sbigoglys, sboncen, bendigedig, chwyrligwgan... sut alla i fyth fynd nôl i ddefnyddio'r geiriau Saesneg yn lle rhain?!
Mae gan yr enwau ar gyfer anifeiliaid ac adar rinweddau disgrifiadol gwych; cnocell y coed, glas y dorlan, pili pala, gwdihŵ... doedd o ddim yn teimlo fel tasg i orfod eu dysgu nhw achos mae pob gair newydd fel neithdar i'r geg!
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 2
Ond y peth gorau am yr holl brofiad ydy'r ymateb dwi wedi ei gael gan y cyhoedd yng Nghymru, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Disgwyl ymateb sinigaidd
Ers fy nyddiau ar dripiau rygbi i Ben-y-bont a Merthyr Tydfil pan o'n i'n fachgen bach ac yn ddyn ifanc, rwyf wedi dysgu y ffordd anodd am y gystadleuaeth rhwng Cymru a Lloegr. Dwi'n cofio sŵn y dorf ym Mharc yr Arfau y tro cyntaf i mi fynd yno yn ystod Pencampwriaeth y Pum Gwlad, ac o'n i eisiau i fy sedd fy llyncu!
Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg o'n i wir yn disgwyl ymateb sinigaidd, falle hyd yn oed cas, gan rai. Ond dydi hynny heb ddigwydd.
Mae siaradwyr Cymraeg wrth eu boddau os oes gennych chi hyd yn oed y parch i ddweud 'helo' yn Gymraeg. Ond os drïwch chi gynnal sgwrs... mae pobl yn gwenu, yn eich canmol, siarad yn araf gyda chi, yn dal eich llaw drwy'r holl broses.
A dydi'r iaith ei hun ddim mor anodd â be' o'n i'n disgwyl. Wrth gwrs roedd gen i fantais achos o'n i wedi astudio llawer o ieithoedd eraill o'r blaen, ond mae lot o'r pethau bach 'od' yn dechrau dod yn naturiol unwaith 'dych chi'n dechrau siarad; yn union fel sy'n digwydd pan 'dych chi'n dysgu iaith pan 'dych chi'n fabi.
Mae jest angen i chi siarad yr iaith mor aml â phosib. Ar ddiwedd fy mhedwar diwrnod yn teithio gyda Iolo o'n i'n gallu cynnal rhywfath o sgwrs. Dwi'n gwybod bydda i'n colli rhywfaint ohono gan mod i rŵan wedi gadael fy nghriw Cymraeg, a dwi'n drist iawn achos dwi isho parhau i siarad Cymraeg!
Mae'r iaith yn hardd, yn bwysig a pherffaith. Diolch yn fawr pobl Cymru am helpu fi!
Hefyd o ddiddordeb: