Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
CBDC yn penodi cyn-bennaeth dadleuol Swyddfa'r Post
- Awdur, Gwyn Loader
- Swydd, Prif ohebydd, Newyddion
Mae 成人快手 Cymru ar ddeall bod un o gyn-gyfarwyddwyr Swyddfa'r Post, gafodd ei beirniadu gan farnwr am geisio camarwain llys barn mewn achos dadleuol, wedi ei phenodi yn 'bennaeth pobl' gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru.
Roedd Angela van den Bogerd yn gyfarwyddwraig gyda Swyddfa'r Post cyn iddi adael yn gynharach eleni.
Hi oedd y swyddog 芒'r statws uchaf i roi tystiolaeth mewn cyfres o achosion llys dadleuol rhwng Swyddfa'r Post a chyn is-bostfeistri gafodd eu hamau ar gam o ddwyn arian gan eu cyflogwyr.
Cafodd sawl cyn is-bostfeistr eu carcharu ar 么l cael eu cyhuddo o dwyll a cham-gyfrifo.
Yn 么l yr is-bostfeistri, nam yn system gyfrifiadurol Horizon, oedd yn gyfrifol am anghysonderau yng nghyfrifon rhai canghennau.
Yn y llys, fe feirniadodd y Barnwr Fraser dystion Swyddfa'r Post. Cafodd Mrs van den Bogerd ei henwi yn benodol gan y Barnwr, a'i beirniadu am y dystiolaeth a roddodd i'r llys.
Fe ddywedodd ei bod hi "heb roi tystiolaeth blaen imi, ac fe wnaeth hi geisio cymylu pethau, a fy nghamarwain".
Mae'n ymddangos bod Mrs van den Bogerd bellach wedi dechrau gweithio i Gymdeithas B锚l-droed Cymru.
Bu'r Gymdeithas yn hysbysebu am 'bennaeth pobl' drwy gwmni Goodson Thomas, sy'n arbenigo ar recriwtio swyddogion gweithredol i gleientiaid, ym mis Hydref.
Mae ffynonellau sydd 芒 chysylltiadau agos 芒'r gymdeithas wedi mynegi pryderon am r么l newydd Mrs van den Bogerd oherwydd ei chysylltiad gyda Swyddfa'r Post a'r achosion llys dadleuol.
'Dangoswch barch i bobl'
Cafodd Noel Thomas ei garcharu ar 么l cael ei gyhuddo o gyfrifo ffug yn 2006. Collodd ei gartref a mynd yn fethdalwr yn sgil y cyhuddiad.
Mae Mr Thomas yn apelio ac mae dyfarniad gan yr Uchel Lys yn gynharach eleni yn ei gwneud hi'n annhebygol iawn y bydd Swyddfa'r Post yn gwrthwynebu'r ap锚l yna.
Dywedodd wrth raglen Newyddion: "Mae 'di eistedd wrth ochr ei chadeirydd mewn parliamentary committee yn gwadu'r petha' ma' i gyd.
"Dy'n ni ddim wedi cael gw'bod yn iawn beth sydd 'di digwydd tan oedd y cwrt cases dwetha' ma' a beth oedd y barnwr wedi dweud.
"Mae ei ddyfarniad dros 800 tudalen. Os fysech chi'n darllen hwnna, mae o'n erchyll."
Ac roedd ganddo'r neges yma i'r Gymdeithas B锚l-droed: "Sb茂wch i fewn i bethau. Dangoswch barch i bobl.
"Ydyn nhw'n gwneud ymchwiliad iawn? Achos os fyswn i isho swydd, yn bendant fysa'r bobl sydd isho fy nghymryd i yn mynd i edrych i mewn i 'nghefndir i."
Fe ofynnwyd am ymateb y Gymdeithas B锚l-droed i'r pryderon am apwyntio Mrs van den Bogerd. "Does y Gymdeithas ddim sylw i'w wneud ar hyn," oedd eu hymateb.
Er gwaethaf sawl cais i gysylltu 芒 Mrs van den Bogerd, dyw hi heb ymateb i'r negeseuon eto.