成人快手

Lle oeddwn i: Delwyn Si么n ac Un Seren

  • Cyhoeddwyd
Delwyn Si么nFfynhonnell y llun, Delwyn Si么n

Mae'r Nadolig yn nes脿u a chaneuon yr 诺yl yn adleisio yn y siopau ond i nifer, un g芒n sy'n nodi dyfodiad ac ystyr y Nadolig sef Un Seren gan Delwyn Si么n. Ers ei berfformiad ef o'r g芒n, mae nifer eraill wedi ei chanu ond nid Delwyn Si么n a'i chanodd gyntaf, er mai fe 芒'i chyfansoddodd.

Beth yw'r hanes y tu 么l i'r g芒n sydd bellach yn anthem y Nadolig yng Nghymru? Delwyn Si么n fu'n dweud mwy am y cefndir wrth Cymru Fyw:

1982 oedd y flwyddyn ac roedd hi'n brynhawn Iau gwlyb ym Mangor Uchaf. Yn digwydd bod roeddwn i'n gweithio i raglen ddychan ar Radio Cymru sef Pupur a Halen ac wrth fynd drwy'r papurau dyma ddod ar draws dwy stori. Un oedd yn dweud nad oedd henoed yn cael tegwch a'r llall yn dweud bod gwyddonwyr wedi dod o hyd i s锚r y tu 么l i s锚r - ryw nebulae nad oedd gwyddonwyr erioed wedi'u gweld o'r blaen.

O'dd y ddwy stori 'ma yn mynd rownd a rownd yn fy mhen i a dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio un g芒n.

Ffynhonnell y llun, Delwyn Si么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Delwyn a'i rieni yn mwynhau'r Nadolig yn Aberd芒r

Yn gefndir i hyn i gyd roedd fy magwraeth i adref yn Aberd芒r a'r atgofion am Dad-cu a Mam-gu yng Nghwm Nedd - dyma feddwl am y Nadolig a chofio mai un seren oedd yn bwysig i ni gyd fel teulu, sef seren Bethlehem.

Fe gollais i fy Nhad-cu a'm Mam-gu pan yn saith a 10 oed ond fe gawson nhw ddylanwad aruthrol arna i heb iddynt sylweddoli hynny.

Gwraig t欧 oedd Mam-gu ac roedd fy Nhad-cu yn l枚wr ac roedden nhw'n bobl dda a oedd wedi meithrin y gwerthoedd gorau. Ro'dd yna wastad deimlad o gariad a chynhesrwydd ar yr aelwyd ac roedd hi'n aelwyd Gristnogol, wrth gwrs.

Felly hefyd ein cartref ni yn Aberd芒r - a phan dwi'n canu Un Seren rwy'n cofio'r darlun o Mam a Dad yn canu Dawel Nos yn y parlwr o amgylch y piano a fi yn blentyn bach yn y gwely.

Roeddwn i gyda llaw, pan yn blentyn, yn hoff iawn o orwedd yn fflat ar y palmant yn edrych drwy'r telesgop ar y s锚r ac yn cofio gweld y lleuad a'r blaned Gwener a weithiau Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Delwyn Si么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tad-cu a Mam-gu Delwyn, sy'n rhan bwysig o eiriau'r g芒n adnabyddus

"Pe bawn i'n gallu dweud wrth dad-cu..."

Byddai Dad-cu wedi rhyfeddu bod dyn yn gallu cerdded ar y lleuad a byddai Mam-gu wedi rhyfeddu bod rhywun yn gallu gweld yn bellach na'r s锚r oedd hi'n gallu eu gweld, ond diwedd y g芒n sy'n bwysig sef y gobaith y mae genedigaeth plentyn bach mewn tlodi yn ei gynnig i ni.

Rhyfeddod genedigaeth y plentyn bach 'ma yw'r Nadolig i fi, nid ffaldir谩l y masnachu - ac mae'r hyn roedd gyda'r babi bach i'w ddweud yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear wedi hynny mor werthfawr.

Felly chafodd Un Seren ddim mo'i chyfansoddi yn arbennig ar gyfer y Nadolig - datblygu o ddwy stori mundane wnaeth hi. Fe gafodd ei chyfansoddi yng nghanol bwrlwm stiwdio - roedd yna s诺n papurau, s诺n gweiddi a lot o fynd a dod ac nid fi a'i chanodd hi ond Dyfan Roberts.

Mae yna beth tacluso wedi bod ar bethe ers hynny ond dim llawer. Ydi, mae hi bron yn ddeugain oed ac rwy'n diolch i bobl ar hyd y blynyddoedd am eu geiriau caredig amdani.

Mae wedi datblygu yn g芒n Nadolig ond yn y b么n mae hi'n rhan o pwy ydw i a be' dwi'n gredu ac yn bortread o werthoedd cynnar fy magwraeth.

Mae'r telesgop 'na dal gen i - efallai ddylwn i ail-ddechrau edrych ar y s锚r, ond fi'n credu bo fi'n rhy hen i orwedd ar y palmant erbyn hyn!

Ffynhonnell y llun, Delwyn Si么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Delwyn Si么n yn blentyn

Bydd yr oedfa ddydd Sul yn sgwrs rhwng Delwyn Si么n a John Roberts - am 12 ar Radio Cymru a bydd Delwyn Si么n yn s么n mwy am 'Un Seren' mewn sgwrs gydag Elin Fflur mewn rhaglen nos Fawrth, 22 Rhagfyr.

Hefyd o ddiddordeb: