成人快手

Yr Urdd wedi colli hanner ei staff yn sgil Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

P锚l-droedwyr Cymru a'u 'profiadau gwych' gyda'r Urdd

Mae mudiad yr Urdd yn lansio ymgyrch hel arian newydd, a hynny wedi iddo golli 49% o'i weithlu o achos pandemig coronafeirws.

Dywed y mudiad mai dyma'r "cyfnod mwyaf heriol yn ei 98 mlynedd o hanes" gyda dros 160 wedi gadael allan o gyfanswm o 328 o aelodau staff.

Mae'r rhagolwg ariannol am y ddwy flynedd nesaf hefyd "yn dangos gostyngiad incwm sylweddol o 拢14m a cholledion o dros 拢3.4m" i'r mudiad.

Yn wyneb y fath heriau, ac mewn ymdrech i "droi Cymru yn goch, gwyn a gwyrdd" bydd cyfle i gefnogi'r mudiad drwy ymgyrch i brynu nifer cyfyngedig o hetiau arbennig.

Yn 么l ym mis Gorffennaf clywodd staff y mudiad y byddai angen addasu er mwyn "diogelu parhad i'r mudiad yn yr hirdymor".

Bryd hynny dywedodd y prif weithredwr y byddai angen edrych "ar bob ffynhonnell posib" i achub swyddi.

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rabbi Matondo a David Brooks yn cefnogi ymgyrch 'Het i Helpu' yr Urdd

Ymysg cyn-aelodau enwog y mudiad sydd yn cefnogi'r ymgyrch newydd mae arwyr p锚l-droed Cymru Aaron Ramsey, Natasha Harding a Daniel James.

Mewn fideo sy'n cynnwys cyfraniadau gan enwogion Ymddiriedolaeth B锚l-droed Cymru, mae Aaron Ramsey, Ben Davies ac Owain F么n Williams yn diolch i'r mudiad am y profiadau a gafwyd pan yn aelodau o'r Urdd.

"Fel cymaint o sefydliadau, busnesau ac elusennau eraill ledled y wlad, mae hon wedi bod yn flwyddyn ddinistriol i ni," meddai Prif Weithredwr yr Urdd, Si芒n Lewis.

"Rydym wedi'n taro'n galed gan effeithiau'r pandemig ac yn rhagweld bod cyfnod anodd o'n blaenau.

"Serch hynny, mae'r Urdd wedi addasu i'r 'normal newydd', wedi arallgyfeirio ein gwasanaethau ble'n bosib i gynnig gweithgareddau rhithiol a chymunedol ac rydym yn hyderus y dawn drwyddi gyda'n gilydd."

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o'r hetiau y mae'r Urdd yn ei werthu fel rhan o'r ymgyrch godi arian

Mewn ymateb i gyfyngiadau Covid, mae adrannau'r Urdd wedi parhau i drefnu amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer eu haelodau, gan gynnwys sesiynau ieuenctid ar-lein, cyfleoedd chwaraeon mewn rhai rhanbarthau ar draws Cymru, gweithdai celfyddydol rhithiol a gwasanaethau Awyr Agored i bobl ifanc bregus.

Ychwanegodd Si芒n Lewis bod y mudiad yn "parhau i roi ein haelodau gyntaf ac i flaenoriaethu ein gwaith gydag ieuenctid Cymru".

"Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth B锚l-droed Cymru am ddangos eu cefnogaeth unwaith eto i'r Urdd.

"Ers blynyddoedd, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ar brosiectau a digwyddiadau ond rydym yn gwerthfawrogi eu cyfeillgarwch nawr yn fwy nag erioed."