Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Penodi prif hyfforddwyr rygbi T卯m Merched Cymru
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi Warren Abrahams, cyn ddirprwy t卯m saith bob ochr yr UDA, fel prif hyfforddwr T卯m Merched Cymru.
Rachel Taylor, cyn-gapten Cymru, sydd wedi ei phenodi fel hyfforddwr sgiliau'r t卯m.
Abrahams yw hyfforddwr du cenedlaethol cyntaf Undeb Rygbi Cymru, a Taylor yw'r hyfforddwr proffesiynol benywaidd cyntaf.
"Mae hwn yn adeg gyffrous i fod yn rhan o raglen Cymru," meddai Abrahams.
Fe fydd y ddau yn cychwyn ar eu gwaith yn syth wrth i'r paratoadau fynd rhagddynt ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf.
"Mae gennym gyfle i wneud rhywbeth go arbennig yn y 12 mis nesaf a thu hwnt," meddai Abrahams.
Bydd Abrahams a Taylor yng ngofal t卯m wnaeth fethu a churo g锚m ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae'r garfan wedi bod yng ngofal dros dro Chris Horsman a Darren Edwards ers i Rowland Phillips adael fel prif hyfforddwr.