Galw am bartneriaeth rhwng Tata a Llywodraeth y DU

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Ysgrifennydd Cymru'n dweud bod angen "ymatal rhag damcaniaethu" ynghylch dyfodol Tata Steel ym Mhort Talbot wedi cyhoeddiad sydd wedi codi amheuon am ddyfodol y safle.

Daeth sylwadau Simon Hart wedi galwadau am gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i'w ddiogelu, wedi i'r perchnogion gyhoeddi bwriad ddydd Gwener i'r safle fod yn hunangynhaliol.

Mae'r cwmni eisiau rhedeg y busnes yn y DU heb gefnogaeth ariannol o India, ac mae'n bwriadu gwerthu ei gangen Ewropeaidd.

"Y ffaith yw bod Tata eisiau cynhyrchu dur yng Nghymru," meddai Mr Hart. "Mae hynny'n fan cychwyn da i ddechrau'r drafodaeth yma."

'Arwydd positif'

Ar Twitter nos Wener, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart fod e a'r Gweinidog Busnes a Diwydiant, Nadhim Zahawi wedi siarad gyda chynrychiolwyr Tata Ewrop yn gynharach yn y dydd.

Dywedodd ddydd Sadwrn: "Fe allwn ni fod mewn sefyllfa ble mae Tata'n dweud yn syml, 'edrychwch, dydyn ni ddim yn meddwl bod gyda ni ddyfodol yn y DU felly rydym am roi'r safle ar y farchnad'.

"Ni wnaethon nhw hynny. Yr hyn ddywedon nhw oedd eu bod eisiau presenoldeb cynhyrchu dur cynaliadwy yng Nghymru ac fe wnes innau a'r Gweinidog Busnes gymryd hynny fel arwydd positif."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywed Llywodraeth y DU eu bod mewn trafodaethau wrth i reolwyr Tata newid eu strategaeth fusnes

Ar 成人快手 Radio Wales ddydd Sadwrn dywedodd AS Llafur Aberafan, Stephen Kinnock, bod hi'n "bryd am bartneriaeth" rhwng Tata Steel a Llywodraeth y DU.

Mae'r cyhoeddiad, meddai "yn taflu'r goleuni'n gadarn ar Lywodraeth y DU, sydd nawr yn gorfod camu i'r adwy a rhoi cefnogaeth i ddiwydiant dur Prydain".

Mae'n dadlau y gallai'r busnes fod yn allweddol o ran yr ymdrechion i gyrraedd targedu carbon sero ac i "adeiladu capasiti'r wlad wedi Brexit".

Dywedodd Tom Hoyles, o undeb GMB Cymru, bod yna ddau opsiwn y dylid eu hystyried - cefnogaeth Llywodraeth y DU a'r posibilrwydd o wladoli'r busnes, pe bai angen.

"Mae Port Talbot a dur yn perthyn gyda'i gilydd fel pysgod a sglodion," meddai..

"Nid dim ond y swyddi yna fydd yn cael eu heffeithio ond y cadwyni cyflenwi... y busnesau llai a'r teuluoedd sy'n byw yn y dref, sydd hefyd yn pryderu."

"Sicrhau amodau deniadol a ffafriol'

Mewn ymateb i'r galwadau am gefnogaeth, dywedodd Mr Hart bod angen aros a gweld beth yw cynlluniau Tata ym Mhort Talbot, yn hytrach nag awgrymu y byddai gweinidogion San Steffan yn dod i'r adwy beth bynnag y gost.

"Dyw ceisio dyfalu beth yw syniad Tata o'r hyn sy'n gynaliadwy ddim yn mynd i helpu neb," dywedodd. "Rhaid i ni ymdrin 芒 ffeithiau."

Ychwanegodd fod Llywodraeth y DU "芒 record dda yng Nghymru" o ran helpu'r diwydiant dur trwy roi benthyciad brys i gwmni Celsa, yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf.

Disgrifiad o'r llun, Rhaid 'ymatal rhag damcaniaethu' ac 'ymdrin 芒 ffeithiau, medd Simon Hart

Mewn cysylltiad 芒'r posibilrwydd o wladoli'r cwmni, atebodd Mr Hart: "Rydym eisiau gwneud beth bynnag y gallwn i sicrhau amodau sy'n ddeniadol ac yn ffafriol i Tata ddymuno parhau 芒 phresenoldeb cynaliadwy.

"Unwaith y down nhw'n 么l atom a dweud 'dyma rydyn ni'n meddwl y galle hyn weithio'... dyna'r pryd i ddechrau trafod gwerth am arian a sut gallwn ni eu helpu i gyflawni'u newid."

Dywedodd Llywodraeth y DU ddydd Gwener eu bod am barhau i weithio gyda'r cwmni a phartneriaid eraill.

Mae Tata eisoes mewn trafodaethau gyda chwmni o Sweden, SSAB ynghylch prynu ei fusnes yn Yr Iseldiroedd.