成人快手

Mwy yn cael eu twyllo wedi perthynas ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Woman at a laptopFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae un gweddw wedi colli ei harbedion ariannol i gyd wedi iddi gael ei thwyllo

Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd wedi colli arian wedi iddynt gael perthynas ar y we yn ystod y cyfnod clo.

Ers mis Ionawr, mae dioddefwyr yng ngorllewin Cymru wedi colli 拢1.3m wedi iddynt gael eu twyllo gan bobl y maent wedi eu cyfarfod ar-lein.

Dywed un weddw ei bod wedi colli'r holl arian y mae hi wedi ei gynilo yn ystod ei bywyd a bod y cyfan wedi gwneud iddi deimlo "fel petai wedi colli un a oedd yn ei garu" eto.

Mae digwyddiadau o'r fath ar gynnydd, medd plismyn, yn ystod y cyfnod clo wrth i droseddwyr fanteisio ar bobl unig.

Yn 么l Rebecca Jones, swyddog atal twyll Heddlu Dyfed-Powys, mae menywod a dynion rhwng 18 ac 88 oed wedi cael eu targedu wrth iddynt chwilio am gariad ar-lein.

"Heb amheuaeth rydyn ni wedi gweld cynnydd ers y cyfnod clo cyntaf," meddai.

"Mae pobl wedi bod yn chwilio am berthynas yn ystod y cyfnod a nawr ry'n yn gweld canlyniadau hynny," meddai.

Ar draws Prydain rhwng Awst 2019 ac Awst 2020, fe wnaeth Action Fraud dderbyn 400 adroddiad y mis gan bobl oedd wedi cael eu twyllo drwy berthynas ar-lein gyda phob dioddefwr yn colli ar gyfartaledd oddeutu 拢10,000 yr un.

Ym misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst eleni derbyniodd y linell gymorth 600 o adroddiadau y mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd gwraig weddw sy'n byw yng ngorllewin Cymru, Carole - nid ei henw cywir - ei bod wedi cyfarfod 芒 dyn "serchog, hoffus a doniol" ar y we, a'i fod wedi dweud wrthi ei fod yntau hefyd yn 诺r gweddw ac fe gwympodd mewn cariad.

"Roedd e'n siarad am ein dyfodol gyda'n gilydd a'r amser gwych y bydden yn ei gael yn teithio'r byd," dywedodd.

Ond yn fuan dywed Carole fod y dyn wedi gofyn am fenthyciad arian gan ddweud bod ei gerdyn banc wedi'i rewi.

Chwe mis wedi iddi anfon yr arian, sylweddolodd ei fod yn defnyddio llun rhywun arall ar-lein a "chwalodd ei byd".

Ond fe lwyddodd i'w pherswadio nad oedd yn dwyllwr ac fe barhaodd hi anfon arian ato er gwaethaf ei hamheuon.

Yn ddiweddarach roedd e'n rhoi arian yn ei chyfrif ac yn gofyn iddi anfon yr arian i bobl yr oedd arno ef arian iddyn nhw yn Ewrop.

"Fe gollais lot fawr o arian," meddai, "ond yn fwy na dim roeddwn wedi cael fy nefnyddio i symud arian," meddai.

Fe wnaeth ei banc yna amau twyll ac wedi i blismyn gael gwybod, cafodd ei chyfrifon eu rhewi ond roedd hi wedi colli ei chynilion i gyd.

"Fy mai i yw e," meddai, "am fod mor ff么l, caredig ac am roi fy ymddiriedaeth ynddo."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Gareth Jordan, swyddog atal troseddau seiber, bod rhai arwyddion y gellid edrych amdanynt

Dywed y swyddog atal troseddau seibr, Gareth Jordan, bod y sawl sy'n trosglwyddo arian ar ran eraill, yn aml, yn delio 芒 chyfrifon troseddwr heb yn wybod iddynt ac yn aml maent yn cael cais i gadw'r arian am gyfnod.

"Mae'n syndod pa mor glyfar yw'r troseddwyr yma yn denu pobl i berthynas cyn eu defnyddio," ychwanegodd.

Dywed plismyn, wrth i gyfnodau clo pellach fod yn bosib, y gall mwy o bobl fel Carole gael eu twyllo ac maent yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus wrth weld lluniau proffil perffaith.

Y cyngor yw i lynu at wefannau ac apiau dibynadwy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Carole bod ganddi gywilydd am yr hyn sydd wedi digwydd

Dywed Carole ei bod "mewn cywilydd, yn euog, heb s么n am deimlo'n dwp" ac oherwydd hynny nad oedd hi am ddweud wrth unrhyw un arall beth oedd wedi digwydd.

Ond mae hi bellach wedi rhannu ei stori gan obeithio y bydd hynny o gymorth i eraill.

"Roedd fy nghariad yn real," meddai, "a nawr dwi'n teimlo galar eto - ac mae'r profiad wedi dod 芒'r atgofion chwerw o golli fy ng诺r yn 么l.

"Does gen i ddim hunan-hyder a bydd hi'n anodd iawn ymddiried yn rhywun eto."