Cyfyngiadau'n 'anodd' i gymunedau a busnesau'r ffin
- Cyhoeddwyd
Bydd atal teithio rhwng Cymru a Lloegr yn "anodd" i gymunedau ar hyd y ffin sy'n croesi ar gyfer gwaith, busnes neu ofal iechyd, meddai AS.
Dywedodd Craig Williams, aelod Ceidwadol Sir Drefaldwyn, bod un o bob tri o bobl yn ei ardal yn symud ar draws y ffin bob dydd.
Mae rheolau newydd yng Nghymru a Lloegr yn golygu nad oes modd teithio rhwng y ddwy wlad heb reswm da.
Daw wrth i berchennog gwesty yn y canolbarth ddweud bod "mwyafrif" ei gleientiaid yn dod o Loegr adeg yma'r flwyddyn, a bod y rheolau'n "broblem".
'Metrau, nid milltiroedd'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, na fydd cyfyngiadau ar deithio o fewn ffiniau Cymru pan ddaw'r cyfnod clo i ben yma ar 9 Tachwedd.
Ond gan fod Lloegr ar fin dechrau cyfnod clo ei hun, ni fydd teithio ar draws y ffin gyda Lloegr yn cael ei ganiat谩u heb reswm dilys.
Dywedodd Craig Williams AS bod sector lletygarwch tref fel Trefaldwyn "bron yn gwbl ddibynnol ar y llif dros y ffin".
"Nid yw Lloegr yn wlad dramor gyda ffin galed," meddai. "Mae drws nesaf yn fetrau, nid milltiroedd."
Does dim ffin galed rhwng y ddwy wlad, a dywedodd Mr Williams "nad dyna sut mae pobl yn byw eu bywydau".
Ychwanegodd bod angen i bobl barchu'r gyfraith ar bob cyfrif, ond dywedodd ei fod yn "pryderu am sut allwn ni weithredu yn y tymor hir".
Yn y cyfamser, mae perchennog gwesty yn Aberystwyth wedi dweud na fydd llacio'r rheolau teithio o fewn Cymru yn gwneud gwahaniaeth iddo, gan fod y mwyafrif o'i gleientiaid o Loegr.
"Mae gyda ni broblem", meddai Richard Griffiths o Westy'r Richmond.
"Mae'r mwyafrif o westai yn dod o Loegr i mewn i Gymru adeg yma'r flwyddyn...
"Dod i'r arfordir, cerdded y bryniau, neu feicio mynydd, y math yna o beth yn y gaeaf.
"Felly dy'n ni'n ddibynnol ar Loegr am westai adeg yma'r flwyddyn..."
'Cyd-destun gwahanol'
Yn siarad yn y gynhadledd newyddion ddydd Llun, dywedodd Mr Drakeford nad oes hawl teithio y tu allan i Gymru "heb reswm dilys" yn ystod y cyfnod clo yn Lloegr.
Ychwanegodd bod cyhoeddiad y cyfnod clo gan Lywodraeth y DU wedi creu "cyd-destun gwahanol" o ran busnesau a chymunedau ar hyd y ffin.
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried pa fesurau fydd ar fusnesau lletygarwch ar 么l 9 Tachwedd, a hynny'n rhannol oherwydd "risg y bydd pobl yn ceisio torri'r gyfraith" yn sgil clo Lloegr.
Wrth drafod lletygarwch yn benodol, ychwanegodd nad oedd am i'n "heddluoedd gael eu dargyfeirio i orfod plismona'r ffin" oherwydd sefyllfa "nad oeddem wedi rhagweld ac nid ydym wedi cael cyfle i feddwl drwyddo".
'Dim cyfyngiadau traffig' ar y ffin
Fore dydd Mawrth fe dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent wrth 成人快手 Radio Wales na fydd swyddogion ar batr么l na chyfyngiadau traffig fel rhan o fesurau i blismona ffin Cymru cyn i Loegr fynd i mewn i gyfnod clo.
Mae Mr Drakeford wedi dweud ei fod yn poeni am drigolion Lloegr yn "dianc" i Gymru er mwyn osgoi cyfyngiadau yno unwaith y bydd y mesurau yng Nghymru yn dod i ben ddydd Llun nesaf.
Dywedodd Pam Kelly, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, y bydd y gwasanaeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn cadw at y rheolau.
"Mae gennym gannoedd ar filoedd o gerbydau a phobl yn pasio dros y ffin bob dydd. Ac wrth gwrs, mae pobl yn gallu dod i mewn i Gymru a mynd allan o Gymru er mwyn gweithio.
"Yr anhawster efallai fydd pobl sy'n dod dros ffin i ymweld 芒 thafarndai a bwytai yng Nghymru."
Ychwanegodd y byddai swyddogion yn ymweld 芒 thafarndai a bwytai, "ac yn sicrhau ein bod i gyd yn cadw at y rheoliadau hynny, yn enwedig mewn perthynas 芒 theithio i Gymru".
Dywedodd fod 90% o'r gymuned yn cefnogi ymdrechion yr heddlu a'r hyn y maen nhw yn ceisio'i gyflawni, "ond fe fyddwn yn targedu y 10% arall gydag egni".
Ni fydd swyddogion yn stopio cerbydau er mwyn gwirio cyfeiriadau y gyrwyr meddai, ond fe fydd y llu yn ymgysylltu gyda phobl i sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau presennol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2020