成人快手

Cerddorion a Covid: Blwyddyn anodd

  • Cyhoeddwyd

Gydag ail gyfnod clo ar droed, sut mae cerddorion Cymru wedi bod yn ymdopi? Daeth Al Lewis, Kizzy Crawford a Gwilym Bowen Rhys at ei gilydd am sgwrs efo'r darlledwr Huw Stephens i drafod yr heriau hyd yma, beth sydd ganddyn nhw ar y gweill a beth mae'n nhw'n ei feddwl o'r drafodaeth ddiweddar am 'ailhyfforddi'.

Ffynhonnell y llun, FRANCESCA JONES
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu rhaid i Al Lewis ganslo taith oedd wedi gwerthu allan oherwydd Covid-19

Huw Stephens: Croeso i chi gyd. Nawr, Al, ti wedi bod adref yng Nghaerdydd ac un o'r pethau wnes di dros y cyfnod clo oedd gig ar y stryd. Wnaeth hwnna ddechrau fel rhywbeth cymunedol, do fe?

Al Lewis: Do. Felly roedd cymydog i mi, Eoghan Walsh, neu Wally mae pobl yn ei alw fo, wedi dod i fyny efo'r syniad 'ma o jest canu cwpl o ganeuon bob nos Wener am tua 6:30 a'i roi o ar y we fel bod pobl yr ardal yn medru ymuno. Agor eu ffenestri, agor eu drysau cefn a chyd-ganu. Roedden ni gyd yn dewis caneuon adnabyddus iawn fel fod pawb yn eu adnabod nhw. Jest ein bod ni'n gallu gwneud rhywbeth efo'n gilydd ymysg diflastod y lockdown a rhoi gw锚n ar wynebau pobl.

A dyna'r peth, ife, Kizzy? Ni ym mis Hydref nawr ac mae'n teimlo fel bod popeth wedi bod yn mynd ymlaen mor hir. Ond i edrych am yr ochr bositif i ddechre'r sgwrs heddiw roedd Al yn s么n am y gymuned yn dod at ei gilydd. Beth mae e fel, yn Aberfan, lle ti'n byw?

Kizzy Crawford: Fi'n lwcus, fi'n gweithio ar hyn o bryd, ar brosiect 'da gr诺p o fenywod yng Nghaerdydd. Mae popeth ar-lein obviously ar draws Zoom a WhatsApp a pethe. Felly fi'n teimlo fel bo' fi dal yn rhan o bethe fel pan doedd hi ddim yn Covid. 'Sdim lot o bethe difyr yn Aberfan ei hun ond mae teulu fi'n byw fan hyn. Mae chwaer fi, Eady, yma a ni'n gweithio gyda'n gilydd.

Mae'r cysylltiad na gyda phobl a gweld pobl yn rheolaidd, Gwilym, yn bwysig i chi fel cerddorion dw i'n cymryd? Achos fel arfer fysech chi'n cwrdd lan mewn gigs neu mewn digwyddiadau byw o ryw fath? Dydy rheiny ddim yn digwydd felly wyt ti'n gallu uniaethu gyda be' mae Kizzy yn dweud o ran bod dal bod yn rhan o brosiectau ac o groups a gwneud pethe ar Zoom?

Gwilym Bowen Rhys: Bendant. Wel, dydy o byth yn mynd i fod mor neis 芒 gwneud petha' wyneb yn wyneb. Wnaethon ni filmio rhyw raglen jest dros fis yn 么l i S4C, a bob dim yn amlwg wedi'i space-io allan a dyna'r tro cynta' i ni weld lot o bobl yn y cnawd. Ac 'roedd o mor neis jest cael chat efo pobl. Ond fel ti'n dweud, mae 'na lot o betha' yn bosib ar y we.

Ffynhonnell y llun, Gwilym Bowen Rhys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwilym yn adnabyddus fel cerddor gwerin yn ogystal ag fel aelod o'r bandiau Plu ac Y Bandana.

Mae'n ddiddorol clywed eich tri ohonoch yn siarad am sut chi wedi addasu. Ydy hynny'n meddwl felly bo chi ddim yn cymryd 'cyngor' y llywodraeth Prydeinig ac yn bwriadu ailddysgu crefft wahanol. O be fi'n ddeall chi ddim yn mynd i roi lan cerddoriaeth a dysgu sut i fod yn astrophysicists? Cywirwch fi os fi'n wrong! Gwilym?

Gwilym: Ti yn wrong! Dw i wedi arallgyfeirio... ha ha! Wel, un o'r pethau dw i wedi bod yn ei wneud yn ystod lockdown ydy dysgu ieithoedd a ballu. Ac mae o wedi rhoi amser i mi feddwl "Reit, sut fedra i helpu?" So, dw i wedi dechrau, wel, ar ddyddiau cynnar iawn iawn gwneud fideos i bobl sy'n dysgu Cymraeg. Ond cerddoriaeth ydy fy mhrif alwad i a fyswn i'm isio fo unrhyw ffordd arall.

A beth amdanat ti, Kizzy? Mae'n si诺r bo' ti wedi gweld pobl yn ystyried eu opsiynau yn y diwydiant creadigol. Beth oeddet ti'n meddwl pan nes di weld yr awgrym yma bod angen i bobl creadigol, fel ti, i newid eich trywydd?

Kizzy: Na, sai'n cytuno 'da fe. Dw i'n credu mewn dilyn dy galon a beth ti'n meddwl ti'n dda yn gwneud. Dw i'n gwybod bo' fi'n gallu creu cerddoriaeth. Fi'n gallu cynhyrchu, perfformio - dyna be' fi mo'yn gwneud. So, fi'n mynd i barhau i wneud hynna. 'Sneb yn mynd i ddweud wrtha' i 'mod i methu gwneud hwnna.

Wyt ti'n teimlo fod 'na gefnogaeth wedi bod i ti te, Kizzy? Fel rhywun sy'n barod wedi gwneud enw i ti dy hun ac yn rhyddhau cerddoriaeth ac yn ei wneud yn broffesiynol ac yn llwyddiannus. Wyt ti'n teimlo bod 'na gefnogaeth wedi bod gan yr awdurdodau?

Kizzy: Ie, dw i'n meddwl fi wedi cael cefnogaeth.

Ga' i ofyn gan bwy? Achos yn aml ry'n ni'n s么n am y pethau 'ma ac mae'n gallu bod yn vague. Fydde hi'n ddiddorol clywed gan y tri ohonoch chi o le mae'r grants a'r arian wedi dod?

Kizzy: O ran pobl self-employed, fi'n gwybod bod 'na grants yn dod gan HMRC. Mae hwnna wedi bod yn help mawr. A wedyn jest cefnogaeth sydd ddim i'w wneud gydag arian. Fi wedi cael cefnogaeth o'r teulu, gan fy asiant, o bobl mewn cwmn茂au fi'n gweithio gyda mewn awtistiaeth. So mae 'na gefnogaeth mas yna. Y challenge weithiau yw jest edrych amdano fe ac i gysylltu gyda'r bobl yna.

Ffynhonnell y llun, Kizzy Crawford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Kizzy Crawford wedi defnyddio'r cyfnod clo i greu albwm cyfangwbl Gymraeg am y tro cyntaf.

Fel cerddorion, yn amlwg, chi wedi arfer gweithio mewn meysydd eraill a gyda'ch talentau eraill. Al, beth oedd dy ymateb di i'r awgrym fod pobl creadigol yn edrych ar bosibiliadau o ennill eu bywoliaeth mewn meysydd eraill? Sut oedd hwnna'n gwneud i ti deimlo fel rhywun sydd wedi adeiladu dros flynyddoedd dy grefft?

Al: Dw i'n meddwl ei fod o'n eitha hurt i beidio sylweddoli ein bod ni fel cerddorion yn gorfod bod yn i greu'r celf 'dan ni'n greu. Dydy o ddim yn fater o jest sgwennu c芒n a'i chanu hi. Mae 'na gymaint o elfennau gwahanol: ei chynhyrchu hi, ei recordio hi, a wedyn ei hyrwyddo hi a'i hysbysebu hi a wedyn mynd allan a'i pherfformio hi. Dydy o ddim fel mai 'mond un dimensiwn sydd i'r hyn 'dan ni'n wneud. 'Dan ni'n barod yn aml-dalentog. 'Dan ni'n barod yn bobl hyblyg yn y ffaith ein bod ni'n gorfod addasu ein sgiliau ni. Felly dw i'n meddwl roedd o bach yn hurt i weld hynny yn y cyfryngau oherwydd dw i'n meddwl 'dan ni fel diwydiant yn rhai o'r bobl efo'r mwyaf o sgiliau gwahanol sy'n bodoli.

Ydy e'n pryderu ti pan ti'n gweld pethe fel 'na yn dod gan Lywodraeth Prydain? Ydy e'n 'neud i ti bryderu am ddyfodol y diwydiant? Achos mae 'di bod yn flwyddyn hir heb eich proffesiwn chi yn gwneud be' chi fel arfer yn 'neud. Sut ti'n teimlo am flwyddyn nesa?

Al: Dw i'n meddwl, fel pobl, mae pobl yn y celfyddydau yn bobl gobeithiol. Dw i'n berson gobeithiol a dw i'n gobeithio bod flwyddyn nesa yn mynd i fod yn flwyddyn llewyrchus i ni. Oherwydd bydd gymaint o bobl a fydd wedi colli y celfyddydau yn gyffredinol a cherddoriaeth byw y byddan nhw'n dod allan i'n cefnogi ni.

Gwilym: O'n i'n meddwl hynna de, os fysa'r artistiaid 'ma i gyd wedi dilyn y cyngor 'ma a chwilio am rywbeth arall. Be' fyddai gwleidyddion yn ei wneud yn eu amser sb芒r? 'Sa 'na ddim miwsig i'w fwynhau, 'sa 'na ddim ffilms a theledu, 'sa actorion i gyd tu 么l i sgrins. Mae bob dim mae pobl yn gwneud pan dydyn nhw ddim yn gweithio yn ddibynol ar bobl greadigol. Beth sy'n cyfoethogi bywyd de? Y pethau creadigol.

Gallwch wrando ar y sgwrs gyfan ar raglen Byd Huw Stephens ar 成人快手 Radio Cymru.

Disgrifiad,

Sut mae Kizzy Crawford, Al Lewis a Gwilym Bowen Rhys wedi ymdopi 芒 Covid-19?