Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhaid i bawb 'chwarae rhan' wrth geisio atal llifogydd
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 成人快手 Cymru
Nid yw'r llywodraeth yn gallu atal llifogydd ym mhob achos ac mae angen sgwrs genedlaethol yngl欧n 芒'r hyn gall gymunedau wneud dros eu hunain i leihau'r risg, meddai'r gweinidog amgylchedd.
Dywedodd Lesley Griffiths ei bod am i bawb fod yn glir sut y gallan nhw "chwarae eu rhan".
Mae cyfathrebu'n well 芒'r cyhoedd yn rhan o strategaeth atal llifogydd ac erydu arfordirol newydd sydd wedi'i pharatoi ar gyfer y degawd nesaf.
Mae'n cynnwys cyhoeddi map ar-lein arloesol lle gall pobl weld yn union faint o fygythiad sydd i'w cartrefi.
Bydd yn cael ei ddiweddaru bob chwe mis, gan ddangos hefyd sut mae amddiffynfeydd yn gweithio, gyda'r nod o leihau cost yswiriant pobl a rhoi "tawelwch meddwl" i gymunedau sydd wedi dioddef yn y gorffennol.
Mae un o bob wyth cartref yng Nghymru - tua 245,000 o dai - mewn perygl o lifogydd neu erydu arfordirol.
Y gobaith yw y bydd y strategaeth yn annog pobl i ymuno 芒 gwasanaethau rhybuddio, siarad 芒 chymdogion a dylunio cynlluniau llifogydd cymunedol yn ogystal ag ystyried unrhyw newidiadau o amgylch y t欧 a allai eu gwneud yn fwy gwydn i wrthsefyll d诺r yn gorlifo - fel symud socedi trydan yn uwch neu fuddsoddi mewn lloriau cerrig neu bren yn hytrach na charped.
O ran adeiladu ar orlifdiroedd - rhywbeth y mae ymgyrchwyr am weld yn cael ei daclo - mae'r strategaeth yn rhybuddio rhag gwneud "camgymeriadau" allweddol allai arwain at "fwy o berygl i genedlaethau'r dyfodol".
Bydd canllawiau cynllunio newydd sydd i'w cyhoeddi y flwyddyn nesaf yn annog cymryd safiad llymach yn erbyn cynigion i adeiladu mewn ardaloedd lle mae perygl mawr neu ganolig o lifogydd, gan annog agwedd fwy "pragmatig" lle mae'r risg yn isel.
Cyfrifoldeb pawb
Dywedodd y llywodraeth hefyd ei bod hefyd yn buddsoddi symiau fyddai'n "torri record" mewn gwaith atal llifogydd.
Rhwng 2016 a 2021, gwariodd gyfanswm o 拢390m - gan leihau'r risg ar gyfer mwy na 45,000 o dai.
Dywedodd Ms Griffiths ei bod am i'r strategaeth "sbarduno sgwrs am sut rydym yn rheoli perygl llifogydd".
"Rydym yn cyflawni mwy nag erioed yn y gofod hwn, gyda'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, ond ni allwn atal pob llifogydd," meddai.
"Rwyf am wneud yn si诺r ein bod yn glir yn ein negeseuon ac yn cael yr effaith fwyaf posibl ar ein buddsoddiad.
"Bydd hyn yn helpu pawb ledled Cymru i ddeall sut y gallant chwarae eu rhan i leihau risg yn y blynyddoedd i ddod."
'Mae wedi bod yn anodd iawn - hunllef'
Ar ddechrau 2020 fe achosodd stormydd Ciara a Dennis y llifogydd gwaethaf a welodd Cymru ers dros 40 mlynedd.
Cafodd Stryd Sion - sy'n rhedeg ar hyd glannau Afon Taf ym Mhontypridd - ei boddi'n llwyr.
Collodd Kevin a Zsuzsanna Kidner eu holl eiddo o lawr gwaelod eu t欧, gyda phedair troedfedd o dd诺r yn yr ystafell fyw.
Mae wedi cymryd saith mis i adnewyddu'r t欧, gyda'r adeiladwyr yn symud allan yr wythnos ddiwethaf.
"Mae wedi bod yn anodd iawn - hunllef," meddai Zsuzsanna.
"Mae mor braf gallu eistedd a gwylio'r teledu eto a golchi'r llestri yn y gegin.
"Roeddwn i wedi bod yn defnyddio sinc yr ystafell ymolchi ac roeddem hyd yn oed yn coginio ar stofiau gwersylla yn yr ardd."
Yn ogystal 芒 dioddef llifogydd yn uniongyrchol o'r afon, dywedodd Kevin fod y d诺r wedi llenwi'r draeniau gan godi yng nghefn y t欧 hefyd.
Mae o'r farn bod angen glanhau'r draeniau'n fwy rheolaidd ac mae'n dweud y dylai'r awdurdodau hefyd fod yn archwilio ffosydd ar gyfer unrhyw ganghennau a sbwriel a allai fod yn eu blocio unwaith yr wythnos - "mae'n synnwyr cyffredin", meddai.
"Roedd pwmp d诺r ar y stryd nad oedd erioed wedi gweithio," honnodd Zsuzsanna. "Dylid treialu'r pethau hyn yn rheolaidd - dril t芒n."
Nid nepell o Stryd Sion yng Nghlwb y Bont, wnaeth hefyd gael ei ddifrodi o ganlyniad i'r storm, dywedodd y cadeirydd Geraint Day eu bod yn gwneud cais am arian grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwarchod yr adeilad rhag llifogydd yn y dyfodol.
"Ry'n ni'n edrych i weld sut y gallwn wneud y clwb yn fwy cyfeillgar i lifogydd os liciwch chi - ac os yw d诺r yn llwyddo i fynd i mewn nad yw'n cael yr un effaith yn y tymor hir," meddai.
"Er hynny, ma' 'da ni bryderon o hyd nad oes dim wedi newid hyd yn hyn yn y ffordd mae d诺r yn cael ei reoli [ym Mhontypridd]. Dydw i ddim yn gweld dim byd gwahanol yn ei le nawr nag oedd ym mis Chwefror.
"Byddai'n syniad da cael pwmp yn y rhan yma o'r dref, er enghraifft i daflu d诺r yn 么l i mewn i'r afon.
"Gallai rhywbeth fel hynny fod wedi helpu i atal y difrod welon ni."