Llety gwyliau Ynys M么n am gadw enw Cymraeg y safle
- Cyhoeddwyd
Mae datblygwyr sy'n trawsnewid hen westy ar Ynys M么n i fod yn llety gwyliau yn dweud y bydd yr enw Cymraeg hanesyddol ar y safle yn cael ei barchu.
Mae safle Glynllifon ym Marian-glas - rhwng Moelfre a Benllech - yn cael ei farchnata dan yr enw Traeth Bychan Heights.
Fe wnaeth hynny arwain at gynghorwyr yn annog y datblygwyr i "barchu hanes lleol" a chadw'r enw Cymraeg.
Ond mae'r datblygwyr bellach yn dweud mai ar gyfer marchnata yn unig mae'r enw Traeth Bychan Heights yn cael ei ddefnyddio, a'u bod wastad yn bwriadu defnyddio'r enw Glynllifon unwaith y bydd yn cael ei gwblhau.
'Achosi dryswch gyda phlasty ger Caernarfon'
Cafodd safle Glynllifon ei adeiladu fel t欧 preifat yng nghanol yr 1800au cyn cael ei droi'n westy - oedd 芒'r enw Beauchelles am gyfnod.
Ond ar 么l adfeilio dros yr 20 mlynedd ddiwethaf mae'r safle nawr yn cael ei droi'n "dai moethus" rhwng 拢285,000 a 拢500,000 fel ail gartrefi neu gyfleoedd i fuddsoddi.
Dywedodd y datblygwyr eu bod wedi penderfynu peidio defnyddio'r enw Glynllifon wrth farchnata'r safle oherwydd y gallai achosi dryswch gyda phlasty ger Caernarfon sydd 芒'r un enw.
Mae Plas Glynllifon yn Llandwrog yn nwylo'r gweinyddwyr ar hyn o bryd yn dilyn sawl ymdrech fethedig i'w adnewyddu dros y blynyddoedd.
"Rydyn ni'n cytuno'n llwyr y dylai'r safle adlewyrchu ei enw gwreiddiol a gallwn gadarnhau mai dyma'r bwriad," meddai asiant ar ran y datblygwyr.
"Yn dilyn trafodaethau cafodd y datblygwyr eu cynghori i ddefnyddio enw gwahanol ar gyfer pwrpasau marchnata oherwydd y saga gyda safle Plas Glynllifon ar gyrion Caernarfon, am y gallai achosi dryswch a rhwystro prynwyr posib.
"Mae'r datblygwyr wedi cadarnhau bod yr enw wedi cael ei newid i Uchelion Traeth Bychan Heights am y tro, ond y bydd yn cael ei alw'n Glynllifon unwaith y bydd y datblygiad wedi'i gwblhau."
'Ymgynghoriad lleol ydy'r ffordd ymlaen'
Roedd Cyngor Ynys M么n wedi dweud ei fod mewn trafodaethau gyda'r datblygwyr yngl欧n 芒'r enw.
Ychwanegodd, er nad yw'n gallu atal datblygwyr rhag newid enw safleoedd, ei fod yn annog pawb i ddefnyddio enwau Cymraeg.
Yn ymateb i'r datblygiad diweddaraf dywedodd y Cynghorydd Margaret Murley Roberts - un o'r rheiny oedd wedi galw am beidio 芒 chefnu ar yr enw Glynllifon - ei bod yn "falch eu bod wedi deall pwysigrwydd cadw enwau lleol a hanes lleol".
"Efallai bod hyn yn dangos mai ymgynghoriad lleol ydy'r ffordd ymlaen," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2020
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018