Hitachi'n tynnu'n 么l o gynllun codi Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor M么n wedi gofyn am gyfarfod gyda llywodraethau Cymru a'r DU wedi i gwmni Hitachi roi gwybod iddi nad ydyn nhw am fwrw ymlaen gyda chynllun adeiladu atomfa Wylfa Newydd.
Mae'r Cynghorydd Llinos Medi wedi cadarnhau wrth 成人快手 Cymru ei bod wedi derbyn llythyr gan y cwmni sy'n cadarnhau eu bod yn tynnu'n 么l o'r cynllun.
Dywedodd: "Mae hyn yn newyddion siomedig, yn enwedig ar adeg mor anodd yn economaidd."
Doedd Horizon Nuclear Power, yr is-gwmni a fyddai wedi bod yn gyfrifol am y datblygiad, ddim am ymateb i adroddiadau yn Japan fod Hitachi wedi dod i'r casgliad fod hi'n amhosib ailgydio yn y cynllun.
'Pryder enfawr am ein pobl ifanc'
Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar 成人快手 Radio Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Llinos Medi: "Dwi'n meddwl bod rhaid i'r llywodraeth ddangos be' maen nhw'n bwriadu 'neud o ran cynhyrchu ynni - dim fi sydd yn creu polisi ynni'r wlad, mae hynny yn dod o'r llywodraeth yn Llundain ac mae'n bwysig r诺an iddyn nhw ddweud beth ydy eu bwriad.
"Achos ar ddiwedd y dydd mae pobl ifanc yr ynys, da ni'n colli nhw, mae'n ardaloedd Cymreig ni'n colli a'n cryfderau ni'n mynd oddi yma, achos does ganddom ni ddim economi i'w cadw nhw yma.
"Mae economi Ynys M么n angen unrhyw fath o ddatblygiad sydd yn cynhyrchu swyddi da sydd yn rhoi ansawdd bywyd da."
Ychwanegodd: "Mae gen i bryder enfawr am ein pobl ifanc ni, ac mae'n ddyletswydd arnom ni gyd i sicrhau bod 'na swyddi yma, a swyddi o ansawdd. Tydi pobl Ynys M么n ddim yn haeddu llai o gyflog na unrhyw ardal arall o Gymru."
Cyhoeddodd Hitachi yn Ionawr 2019 i atal yr holl waith ar y cynllun, a fyddai wedi costio hyd at 拢20bn, wedi methiant i ddod i gytundeb ariannol.
Dyw Hitachi heb wneud sylw ychwaith wedi i adroddiadau dros nos awgrymu y bydd bwrdd y cwmni'n cadarnhau eu penderfyniad terfynol ddydd Mercher.
Mae'r cwmni wedi bod mewn trafodaethau ynghylch ariannu prosiectau ynni niwclear gyda Llywodraeth y DU.
Cafodd penderfyniad o ran caniat谩u adeiladu'r atomfa newydd ei ohirio yn gynharach eleni gan Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Alok Sharma, tan 30 Medi eleni.
Ymateb cymysg
Yn 么l y datblygwyr, fe fyddai'r atomfa wedi cyflenwi trydan ar gyfer hyd at bum miliwn o gartrefi a chyflogi 9,000 o weithwyr yn ystod y cyfnod adeiladu.
Daw'r "newyddion drwg ofnadwy" fod Hitachi'n tynnu'n 么l o'r cynllun ar adeg pan fo disgwyl i ddiweithdra gynyddu, yn 么l Dr Edward Jones, darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor.
"Os oeddan nhw am ddod i Ynys M么n, roeddan nhw am ddod 芒 swyddi a rhyw fath o fwrlwm yn yr economi leol," meddai. "Ond mae hyn yn golygu bod nhw ddim yn d诺ad a bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar yr economi leol.
"Mi oedd 'na lot wedi buddsoddi - pobl ifanc wedi buddsoddi amser wrth astudio graddau a dulliau newydd o weithio. Yr her r诺an ydi darganfod prosiectau eraill i ddefnyddio'r sgiliau yma."
Bydd ceisio denu cyflogwyr eraill i'r ardal yn cymryd amser, meddai, yn enwedig gan fod "cwmn茂au mawr ddim yn licio neud penderfyniadau mawr mewn cyfnodau [o ansicrwydd]".
Ychwanegodd: "Mae cwmn茂au isio buddsoddi amser mewn prosiectau sy'n dda i'r amgylchedd - mae'n anodd gwybod lle mae niwclear yn ffitio mewn i hynna."
Mae'r gr诺p gwrth-niwclear Pobol Atal Wylfa B (PAWB) wedi croesawu'r ffaith na fydd y cynllun yn mynd yn ei flaen.
Dywedodd un o lefarwyr y gr诺p, Robat Idris ar Twitter ei fod yn "newyddion da iawn" i'r mudiad "ac i Gymru gyfan".
Ychwanegodd: "Edrychwch ar waith cynaliadwy gwyrdd o hyn ymlaen. Collwyd cyfleon di-ri wrth ddilyn y freuddwyd niwclear ff么l am flynyddoedd."
Dadansoddiad Gohebydd Busnes 成人快手 Cymru, Brian Meechan
Mae prosiect Wylfa Newydd, un o brosiectau adeiladau arfaethedig mwyaf Cymru, wedi bod yn un cythryblus.
Mae cost codi atomfa newydd wastad wedi bod yn destun pryder i'r cwmni y tu 么l i'r datblygiad, Hitachi.
Aeth Llywodraeth y DU beth ffordd at gynnig cefnogaeth ariannol i'r cynllun ond doedd hynny ddim yn ddigon i liniaru pryderon Hitachi ynghylch y risgiau ariannol.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU hefyd ymgynghori ar gynlluniau a fyddai wedi gweld cwsmeriaid ynni'n talu o flaen llaw, gan gyfrannu at y costau adeiladu.
Mae'r diwydiant yn aros ers misoedd am ganlyniadau'r trafodaethau a'r cynigion.
Pan ddywedodd Llywodraeth San Steffan fod cynlluniau niwclear yn rhan o'r ymdrechion i hybu ynni gwyrdd, fe welodd y diwydiant hynny fel arwydd calonogol i gynllun Wylfa Newydd.
Ond mae gwrthwynebwyr yn amheus ynghylch pa mor wyrdd yw ynni niwclear mewn gwirionedd - heb s么n am ba mor ddiogel ydyw.
Mae rhai wedi cyfeirio at Gymru fel 'gwlad y lluniau artist' gan fod gymaint o gynlluniau mawr wedi'u datblygu ond heb eu gwireddu.
Bydd cefnogwyr Wylfa Newydd yn bryderus bod hwn yn enghraifft eto fyth o hynny, tra bydd gwrthwynebwyr yn falch o weld terfyn ar y cynlluniau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019