Byw drwy Covid: Llanbedr Pont Steffan

  • Awdur, Mari Grug
  • Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru

Mae Covid-19 wedi effeithio ar ardaloedd ar draws Cymru mewn amrywiol ffyrdd.

Yn ystod y misoedd nesaf bydd Cymru Fyw yn ceisio deall effaith Covid-19 ar bobl mewn sawl cymuned ac yn gofyn beth yw'r gobeithion a'r pryderon.

Mae'r daith yn dechrau yn Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion.

Effaith Covid ar Lanbed

Mae rhai yn poeni bod adfywiad pellach i stryd fawr Llanbedr Pont Steffan wedi ei atal, yn sgil effeithiau'r cyfnod clo ar economi wledig.

Cyn y cyfnod clo, roedd canol y dref yn ffynnu eto.

Ond, mae pryder am effeithiau'r misoedd diwethaf gyda rhai busnesau lletygarwch y dref yn dal ddim wedi ailagor.

Yn 么l busnesau lleol, maen anodd i Lanbed gystadlu gydag ardaloedd glan m么r cyfagos fel Aberaeron, Ceinewydd a Llangrannog.

Disgwyl blwyddyn brysur

Mae Tom Lewis yn berchennog ar fwyty yng nghanol y dref. Mae e hefyd yn cynhyrchu hufen i芒 Contis.

Disgrifiad o'r llun, 'Mae wedi bod yn flwyddyn galed," meddai Tom Lewis sy'n berchen bwyty

Dywedodd: "Ro'n i'n disgwyl i'r flwyddyn yma fod yr un fwyaf prysur ni wedi cael, ond jyst cyn Pasg, ma popeth wedi stopio.

"O'dd lot o siopau yn ailagor, o'dd llai o lefydd gwag achos blwyddyn cyn 'ny roedd hi'n eithaf diflas yn Llambed."

"Mae rhai o'r busnesau newydd dal ar gau, neu yn agor am lai o oriau, ac yn gweithio gyda llai o draffig o gwmpas y lle.

"Mae wedi bod yn galed i bawb fi'n credu," ychwanegodd Tom Lewis.

Llanbedr Pont Steffan

  • Tref farchnad gyda'r brifysgol yn chwarae r么l bwysig yn economaidd;
  • Myfyrwyr yw traean y boblogaeth, gyda nifer o bobl leol yn gweithio yn y byd addysg neu mewn siop, a llai yn gweithio mewn meysydd fel adeiladu a gweithgynhyrchu;
  • Yn 么l y cyfrifiad diwethaf yn 2011 roedd bron i hanner pobl Llanbed yn siarad Cymraeg.

Mae nifer o fusnesau lleol Llanbed yn rhai annibynnol bach. Maent wedi ymateb i'r cyfnod clo drwy addasu neu feddwl am syniadau newydd yngl欧n a sut i gyrraedd eu cwsmeriaid.

I berchennog siop flodau Cadi a Grace, Gabrielle Davies, mae'n anodd cynllunio pan fo'r sefyllfa'n "newid o hyd".

"Mae llai o footfall yn y dref ac mae fwy o bobl yn siopa ar-lein ac maen rhaid i ni jyst trio cadw lan da 'ny.

"Sai'n gwbo beth sy'n mynd i ddigwydd rhwng nawr a 'Dolig. Ydy bobl yn mynd i ddod 'n么l i browsan ar y stryd fawr, sai'n gwbo'."

"Fi'n gobeithio bydd bobl yn dod 'n么l i lefydd bach fel hyn, achos falle byddan nhw'n teimlo'n saffach, mewn ffordd, yn rhywle tawel."

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae'r brifysgol yn rhan annatod o economi Llanbed

Mae gwefan yn dangos bod gan Lanbedr Pont Steffan boblogaeth fach iawn - mae canran uchel o'r bobl sy'n byw yno dros 75 oed.

Dros y misoedd diwethaf, bu'n rhaid i'r boblogaeth h欧n aros yn eu cartrefi.

Mae'r Brifysgol a'i myfyrwyr hefyd yn cyfrannu'n fawr i'r economi - ond mae'r coleg wedi bod ynghau ers dechrau'r flwyddyn.

Disgrifiad o'r llun, 'Mae'n rhaid i ni gymryd un dydd ar y tro," meddai Bethan Portnow, rheolwraig Duet a Lan Lofft

Yn siop ddillad Duet a Lan Lofft, mae'r cyfryngau cymdeithasol yn bwysicach nag erioed.

Dywedodd y rheolwraig Bethan Portnow: "Mae wedi bod yn anodd ond ni wedi bod yn lwcus o'n cwsmeriaid.

"Dros lockdown o'n ni'n posto dillad mas pob dydd bron 芒 bod i bobl yn lleol oedd ddim mo'yn dod mas ac hefyd yn bellach.

"Mae'n anodd gweud beth sy'n mynd i ddigwydd gyda lockdown arall, mae'n rhaid ni gymryd un dydd ar y tro."

'Stryd dawel yn fantais'

Rob Phillips yw Maer Llanbedr Pont Steffan. Maen dweud y gallai tawelwch y stryd fawr fod yn fantais yng nghyfnod y pandemig.

"Mae wedi newid ein blaenoriaethau ni yn sicr a newid y ffordd ni'n gweithio," meddai.

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n bosib y bydd tawelwch Llanbed yn denu pobl," medd y maer Rob Phillips

"Ry ni'n awyddus i fanteisio ar y sefyllfa yma nawr. Ni eisiau bod yn barod i ymdopi ar realiti newydd yma, fel petai," ychwanega Rob Phillips.

"Mi fydd pobl falle yn llai parod i fynd i le prysur. Dyw Llambed ddim yn lle mor brysur a 'ny felly mae'n un pwynt gwerthu da i ni i ddenu pobl fewn i Llambed.

"Mae 'chydig yn fwy tawel, 'chydig yn fwy gwledig ac mae hynny yn un pwynt pwysig i werthu i bobl yn y cyfnod hyn."

Bydd Cymru Fyw yn ymweld eto 芒 Llanbedr Pont Steffan ymhen rhai misoedd er mwyn canfod sut mae'r dre a'i thrigolion yn ymdopi 芒 phandemig 2020.