Canu'r piano bob dydd i lenwi bwlch yn y cyfnod clo
- Cyhoeddwyd
Mae Meurig Thomas wedi bod yn diddanu miloedd o bobl gyda'i ddatganiadau ar y piano bob diwrnod am bedwar mis a hanner, ar dudalen Côr-ona ar Facebook.
Grŵp agored i bobl gyhoeddi fideos ohonyn nhw'n canu neu ganu offerynnau ydy Côr-ona a sefydlwyd gan Catrin Angharad Jones ar ddechrau'r cyfnod clo, ac erbyn hyn mae dros 46,000 o aelodau yn rhan o'r gymuned rhithiol.
Mae Meurig Thomas, sy'n wreiddiol o Langefni ac yn byw ger Caerfaddon yn dweud bod y cyfrwng wedi llenwi bwlch mawr iddo ef ac eraill yn ystod y cyfnod clo, ac wedi rhoi llawer o gyfleoedd newydd iddo.
Erbyn hyn, mae'r cyn athro Cerdd wedi rhoi'r gorau i'r datganiadau piano dyddiol, er ei fod yn parhau i gyhoeddi'n wythnosol, am fod ei waith fel arholwr Cerddoriaeth i'r ABRSM yn ail gychwyn wedi'r hunan-ynysu.
"Pan wnes i orffen perfformio bob dydd, ro'n i'n teimlo mod i wedi gallu chwarae soundtrack fy mywyd," meddai Meurig a fu'n perfformio darn gwahanol bob dydd ers mis Mawrth, gan ddenu cannoedd o sylwadau gan ei ddilynwyr a nifer o geisiadau.
"Rydw i wedi chwarae caneuon o'r 60au pan o'n i'n blentyn, a chaneuon y 40au a'r 50au oedd fy mam a nhad yn hoffi a nifer o ganeuon cyfoes a rhai clasurol. Dwi erioed 'di cael y cyfle i 'neud hynny o'r blaen."
Roedd y perfformiadau yn rhoi pwrpas iddo wrth aros yn y tÅ·, ac yn gyfle i Meurig hel atgofion am ei blentyndod, ac am ei rieni, yn ogystal ag amserau mwy tywyll ei fywyd, meddai.
"Fe golles i fy mhartner yn 2001, cymerodd ei fywyd ei hun, felly mae gen i lot o atgofion sydd ddim mor bleserus o'r cyfnod hynny.
"Oedd 'na bobl yn ymateb yn syth yn dweud am bobl oedden nhw wedi eu colli neu atgofion eraill o'u bywydau, rhai yn mynd trwy gyfnod anodd ac mi oedd y gerddoriaeth yn gysur iddyn nhw.
"Mae cerddoriaeth yn iaith heb eiriau ac mae'n gallu cyfleu negeseuon a dwi'n meddwl ei fod yn gyfrwng i ddangos cefnogaeth."
Eisteddfod heb rhagbrawf
Doedd Meurig Thomas ddim wedi disgwyl cymaint o ymateb i'w berfformiadau a doedd e ddim wedi bwriadu cyhoeddi yn ddyddiol pan gychwynodd fisoedd yn ôl.
"Wnaeth un neu ddau o fy ffrindiau ddweud wrtha i ar Facebook y dylwn i roi rhywbeth ar y grŵp. Mi oedd 'na lot o ddiddordeb yn syth a wnes i jyst cario mlaen a dysgu darn y dydd a'u cyhoeddi. Wnes i chwarae bob dydd am bedwar mis a hanner."
"Mae Côr-ona fel Eisteddfod heb rhagbrawf, mae pawb yn cael llwyfan. Mae wedi rhoi lot o hyder i bobl sydd erioed wedi perfformio yn gyhoeddus o'r blaen.
"Mae wedi bod yn le diogel ar hyd y misoedd i fwynhau a gwerthfawrogi a chefnogi a theimlo yn rhan o'r gymuned rhithiol."
Un o uchafbwyntiau Côr-ona i Meurig Thomas, meddai, ydy'r partneriaethau annisgwyl y mae wedi eu gwneud, gyda Andrew Angel sy'n wreiddiol o Gymru ond yn byw yn Awstralia, a gyda Tom o Flaenau Ffestiniog sy'n saith oed, trwy chwarae deuawdau gyda nhw dros y we.
"Mae Tom yn amazing, mae'n un o bleserau Côr-ona i mi."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Piano tegan
Mae Meurig Thomas wedi bod yn chwarae'r piano ers oedd yn dair oed, gan gychwyn ar chwarae emynau ar ei biano tegan, cyn symud ymlaen at ganeuon cyfoes y sioeau cerdd.
"O'n i'n clywed yr emynau yn y capel ac o'n i'n dod adre, ac yn gweithio'r emyn dôn allan ar y piano tegan oedd gen i.
"Pan o'n i'n blentyn oeddwn i wrth fy modd yn gwylio Liberace ar y teledu, oedd o'n fy nghyfareddu fi.
"A wedyn dwi'n cofio Mam yn mynd â fi i'r sinema i weld The Sound of Music. Er bod hynny'n swnio yn sentimental ofnadwy, mae'n hollol wir - yr eiliad glywais i'r Sound of Music pan i'n i tua chwech neu saith oed o'n i'n gwybod, this is it!"
Syniadau newydd
"Mae Côr-ona wedi bod yn gyfle i ddysgu stwff newydd a rhoi syniadau i mi am beth i wneud yn y dyfodol. Dwi 'di sgwennu at cruiseliners a hotels i weld os ydyn nhw eisiau cocktail pianist.
"Dwi wedi cael teithio'r byd gyda'r gwaith arholi, ar draws Ewrop, India, Japan, America, y Caribi, dwi'n freintiedig ofnadwy a dwi'n croesi fy mysedd fydd pethau'n dod nôl i normal rhywbryd i mi allu parhau.
"Yr uchelgais sydd gen i rŵan yn fwy na dim, ydy cael mynd i feirniadu yn Eisteddfod y Wladfa.
"Oherwydd y sefyllfa mae'n rhaid ffeindio syniadau newydd. Mae bob amser rhywbeth mae rhywun yn gallu 'neud os oes gen ti'r dyhead i wneud hynny."
Hefyd o ddiddordeb: