成人快手

Sbwriel ymwelwyr ger Llyn Padarn yn brawychu pobl leol

  • Cyhoeddwyd
Canran fach o'r sbwriel gafodd ei gasglu yn Llanberis wythnos yma
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Canran fach o'r sbwriel gafodd ei gasglu yn Llanberis wythnos yma

Mae 'na bryder cynyddol ym mhentref Llanberis yngl欧n 芒 faint o sbwriel sy'n cael ei adael gan ymwelwyr.

Yn 么l nifer o'r trigolion, mae mwy o bobl nag erioed wedi heidio i'r pentref yn ystod yr wythnosau diwethaf, a mae hynny wedi achosi nifer o broblemau.

Cafodd nifer o bobl y cylch eu brawychu wedi'r penwythnos ar 么l gweld y llanast adawyd gan bobl fu'n gwersylla ar Gae'r Dd么l ger Llyn Padarn.

Mae Eric Baylis yn un o d卯m o wirfoddolwyr sy'n casglu sbwriel o gwmpas y pentref pob wythnos.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae biniau'n llawn ac mae pobl yn gadael eu sbwriel wrth eu hymyl, medd Eric Baylis

"Mae o lot gwaeth eleni," meddai. "Mae o'n le mor boblogaidd."

Mae o'n teimlo fod angen mwy o finiau sbwriel, a dylid cadw toiledau cyhoeddus yn agored yn hirach er mwyn lleddfu'r broblem.

Yn 么l Emlyn Baylis o Gr诺p Datblygu Llanberis, mae'r pentref yn falch o weld twristiaid.

Ond mae'n dweud fod yn rhaid sicrhau fod economi'r cylch yn elwa, a na ddylai ymwelwyr gael aros mewn faniau dros nos yn rhad ac am ddim yn ardal y 'lagoons' ger y llyn.

"Mi ddyla'r lagoons fod werth ffortiwn i Lanberis," meddai. "Mae o fyny i'r cyngor i wneud eu gwaith yn iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ardal sy'n cael ei nabod fel y 'lagoons' yn aml yn brysur

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn cadw golwg ar y sefyllfa yn Llanberis a'u bod yn gwagio biniau sbwriel yn rheolaidd

"Yn ogystal, dylai'r rhai sy'n ymweld 芒'r sir mewn cartrefi symudol neu garafanau, neu unigolion sy'n bwriadu gwersylla, sicrhau eu bod yn gwneud trefniadau i aros mewn safleoedd carafanau a gwersylla trwyddedig cyn iddynt deithio," meddai llefarydd.