成人快手

Siopau gwag Caerfyrddin yn bryder i fusnesau lleol

  • Cyhoeddwyd
Siopau gwag yng nghanolfan siopa Rhodfa Santes Catrin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Siopau gwag yng nghanolfan siopa Rhodfa Santes Catrin

Mae 'na bryder y bydd canol tref Caerfyrddin yn dioddef wrth i fwy o siopau orfod cau eu drysau am y tro olaf.

Yn un o rannau mwyaf newydd y dref, mae o leiaf chwe chwmni mawr wedi gadael ac mae busnesau bach yr ardal yn poeni bod llai o bobol yn mynd i gael eu denu i ganol y dref o ganlyniad.

Wrth siarad 芒 rhaglen Newyddion S4C, dywedodd maer y dref bod cynlluniau ar y gweill i sicrhau bod canol y dref yn dod dros gyfnod anodd y coronafeirws.

Dywed Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod yn gweithio'n agos gyda'r sector preifat ac wedi cymryd sawl cam "i gefnogi, annog ac ysgogi canol ein trefi".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl yn dychwelyd yn raddol i'r siopau wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws godi

Ar hyd strydoedd Caerfyrddin, mae 'na fywiogrwydd wedi tawelwch y cyfnod clo.

Ond mae nifer y siopau wedi gorfod cau, ac mae hynny'n fwyaf amlwg yng nghanolfan siopa Rhodfa Santes Catrin, a gafodd ei hagor am y tro cyntaf 10 mlynedd yn 么l.

Ond ym mhen arall y dref, lle mae siopau annibynnol yn y mwyafrif, er bod ambell i ffenest siop yn wag mae sawl cwmni bach yn dal eu tir.

Ond am ba hyd?

Yn siop Croeso Cynnes, mae'r perchennog yn dweud bod busnes wedi bod yn araf ers y cyfnod clo, a heb dynfa'r siopau mawr i ddenu mwy o bobl i'r dref, mae'n poeni gall busnesau bach ddioddef.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Pryderu bob dydd": Esyllt Hedd Davies-Jones, perchennog siop Croeso Cynnes

"Fi bendant yn meddwl bod siopau mwy, siopau cadwyn yn tynnu pobl mewn i drefi," meddai Esyllt Hedd Davies-Jones.

"Er enghraifft, os byddai rhywun yn Googlo pa siopau sydd yng Nghaerfyrddin, os ydy River Island ddim ar agor, mae Miss Selfridge, Topshop wedi mynd, mae Fat Face yn mynd...

"Yn anffodus, mae rhaid cael yr enwau mawr i dynnu pobl mewn i'r dref. Mae pobl mo'yn prynu enwau sy'n gyfarwydd iddyn nhw - yn amlwg wedyn mae hwnna'n tynnu pobl i'r dref yn gyffredinol.

"Fi yn pryderu, bob dydd rili, fi ddim cweit yn si诺r tan pryd bydda' i'n gallu cario 'mlaen i fod yn onest."

'Mae'n bwysig i gael dewis'

Mae siop ddillad Evans & Wilkins wedi bod yn y dref ers 85 o flynyddoedd ac wedi bod trwy lawer o newidiadau yn y cyfnod hwnnw.

Pan ddaeth y ganolfan siopa newydd i Gaerfyrddin, roedd yn achos dathlu.

"Pan glywon ni'r newyddion fod Debenhams a'r llefydd 'ma yn dod a bod e o fewn y dref, ro'n i'n hapus dros ben," meddai Rhodri Wilkins, y perchennog.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n bwysig i'r dref gynnig dewis, medd Rhodri Wilkins o siop Evans & Wilkins

"Yn yr wythnosau cyntaf i'r shopping centre agor, roedd hi fel Nadolig yma, roedd hi'n gr锚t. Mae'n bwysig bod hwnna'n aros o fewn y dref.

"Mae'n bwysig i gael y dewis yna er mwyn denu pobl i'r dref."

Dywedodd rheolwr Canolfan Rhodfa Santes Catrin, John Nash fod "pawb yn siomedig fod Fat Face yn cau ei siop ym mis Medi", ond fod niferoedd ymwelwyr yn codi'n raddol wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws godi.

Ychwanegodd fod "trafodaethau'n parhau gyda manwerthwyr ynghylch agor siopau yn Rhodfa Santes Catrin".

'Pethau'n waeth cyn gwella'

Cadarnhaodd Canolfan Siopa Maes Myrddin y dref ddydd Mercher na fydd bwyty Burger King yn ailagor yno.

Ond mae siop Game, oedd yn bwriadu gadael y ganolfan, wedi penderfynu aros.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r dref wedi profi'r gallu i addasu, meddai'r maer, y Cynghorydd Gareth John

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymwybodol o'r broblem ac yn dweud bod cynlluniau, ar y gweill a allai olygu bod y cyngor yn camu mewn i lenwi siop wag.

"Falle eith pethau'n waeth cyn bod nhw'n gwella ond mae Caerfyrddin wedi addasu dros y canrifoedd a bydd rhaid i Gaerfyrddin addasu unwaith eto," meddai'r Cynghorydd Gareth John, sy'n faer ar y dref.

Dywedodd Jason Jones, Pennaeth Adfywio Cyngor Sir Caerfyrddin: "Yn anffodus, mae hyn yn adlewyrchu darlun cenedlaethol o sector manwerthu sydd mewn trafferthion nad yw'n unigryw i Gaerfyrddin, ac sydd wedi cael ergyd arall oherwydd yr argyfwng Covid-19 byd-eang.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hen safle Bon March茅 Caerfyrddin

"Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio'n agos gyda'r sector preifat i gefnogi, annog ac ysgogi canol ein trefi, gan gynnwys - lle mae unedau manwerthu o dan berchnogaeth yr awdurdod lleol - cynnig rhent fforddiadwy a chymorth busnes.

"Rydym yn cynnig cymhellion pellach i annog pobl i gefnogi canol ein trefi gan gynnwys parcio am ddim, ac rydym wedi gwneud newidiadau mewn rhai mannau er mwyn creu amgylchedd diogel a chynyddu hyder siopwyr fel rhan o'r broses adfer yn dilyn y pandemig.

"Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod bod arferion siopa pobl wedi newid a bod mwy o bobl yn prynu cynnyrch a gwasanaethau ar-lein.

"Mae hyn yn her i ganol ein trefi ac rydym yn parhau i annog pobl i fynd i siopau a chefnogi ein masnachwyr lleol ar adeg pan fo angen eu cymorth fwyaf."