成人快手

Trafod cyfyngiadau llymach i fynd i'r afael 芒 llygredd aer

  • Cyhoeddwyd
Pobl yn seiclo ym mae CaerdyddFfynhonnell y llun, Barcroft Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymdrechion i hyrwyddo cerdded a beicio yn rhan ganolog yng nghynllun y llywodraeth

Gallai cyfyngiadau llymach gael eu cyflwyno ar lygredd aer i fynd i'r afael 芒 phroblem sy'n cyfrannu at tua 1,400 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru.

Dyma un o nifer o ystyriaethau yng nghynllun aer gl芒n cyntaf Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal fe ddylai bysus a thacsis gael eu pweru gan drydan neu hydrogen erbyn 2028, gydag ymdrechion hefyd i hyrwyddo cerdded a beicio.

Dywedodd y gweinidog dros yr amgylchedd, Lesley Griffiths bod angen mesurau "radical iawn".

'Gweithredu ar frys'

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu'r cyhoeddiad ond maen nhw'n galw am weithredu cyflym.

Yn 么l Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, mae'r lefelau uchel o lygredd aer yng Nghymru yn "warth".

"Cam cyntaf yw hwn. Mae angen i ni ganolbwyntio ar gyflawni a gweithredu ar frys nawr," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Haf Elgar bod y lefelau uchel o lygredd aer yng Nghymru yn "warth"

Mae'r addewid i adolygu lefelau llygredd aer sy'n cael eu hystyried yn dderbyniol yn fuddugoliaeth i ymgyrchwyr.

Maen nhw wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio efelychu canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n mynd tu hwnt i'r cyfyngiadau presennol.

Mae'r sefydliad yn bwriadu adolygu ei dargedau fis Medi a dywedodd Ms Griffiths y byddai'r llywodraeth yn eu gosod yn eu polisi nhw hefyd.

"Mae'n rhaid i ni eu gwneud yn fwy llym gan ein bod yn gwybod mai'r rhai mwyaf bregus sy'n dioddef fwyaf - er y bydd ansawdd aer gwell o fudd i bob un ohonom," ychwanegodd.

Byddai hyn yn rhan o gyfraith newydd - Deddf Aer Gl芒n - a bwriad y llywodraeth yn wreiddiol oedd ei chymeradwyo cyn etholiadau'r Senedd fis Mai 2021, ond bellach bydd rhywfaint o oedi.

Beth arall sy'n y cynllun?

Mae'r cynllun yn debyg i fersiwn ddrafft bu ymgynghori arni fis Rhagfyr.

Bydd angen cynnal gwaith ychwanegol ar rhai mesurau sy'n edrych ar barthau aer gl芒n a chodi t芒l am ddefnyddio ffyrdd.

Mae adolygiad yn cael ei gynnal hefyd o'r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag allyriadau sy'n cael eu creu gan ddulliau o losgi yn y cartref, gan gynnwys cyfyngiadau posibl ar danwyddau penodol fel coed gwlyb neu stofiau llosgi coed h欧n.

Yn ogystal mae addewid o fuddsoddiad sylweddol mewn seilwaith cerbydau trydan, a newid i gerbydau sbwriel fyddai'n creu allyriadau isel.

Mae'r cynllun hefyd yn addo cynlluniau "plannu coed a gwrychoedd pwrpasol" i amsugno allyriadau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen mesurau "radical iawn" ar lygredd aer, medd Lesley Griffiths

Beth yw effaith y cyfnod clo ar ansawdd aer?

Wedi ei gyhoeddi ar y cyd 芒'r cynllun, mae yna ddadansoddiad dros dro o'r modd y mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar ansawdd aer yng Nghymru.

Mae'n awgrymu o 16 Mawrth - dechrau'r cyfnod o ymbellhau cymdeithasol - i 31 Mai, roedd NO a NO2 (nitrogen ocsid a nitrogen deuocsid) o draffig ar ffyrdd wedi gostwng 49% a 36%.

Roedd y dadansoddiad o ddata traffig yn nodi gostyngiad sylweddol yn nifer y cerbydau, yn bennaf ceir, faniau bychan a bysus.

"O'r data cyfyngedig sydd ar gael, mae'n ymddangos bod cysylltiad clir rhwng y gostyngiad yn nifer y cerbydau a gostyngiad yn y聽NO yn y mesuriadau ansawdd aer," meddai'r ymchwil.

'Byd newydd yn bosib'

Dywedodd Ms Griffiths fod yr arferion yr oedd pobl wedi'u mabwysiadu yn ystod y cyfnod clo yn gyfle i wella ansawdd yr aer.

"Rydyn ni wedi gweld llawer mwy o bobl yn cerdded, beicio ac yn gweithio gartref heb orfod gwneud y teithiau hir hynny yn y car," meddai.

"Mae'n amlwg bod hyn wedi cael effaith."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae galw i wneud y cynlluniau dros dro mewn ardaloedd fel Stryd y Castell yng Nghaerdydd yn rhai parhaol

Yn 么l Dr Ian Taylor o Drafnidiaeth er Bywyd o Safon, dylai'r ffyrdd sy'n cael eu cau a'r mesurau dros dro a orfodir yn ystod y pandemig i gynorthwyo rhannau o Gymru sy'n pellhau cymdeithasol gael eu gwneud yn barhaol.

"Rydym am gadw'n dinasoedd ni yn l芒n. Os cafodd lonydd eu newid - a'u gosod i gerddwyr a beicwyr, mae angen eu cadw felly," meddai.

"Mae angen i'r cyhoedd ddangos eu cefnogaeth i'r llywodraeth wrth wneud beth sy'n gywir ar 么l Covid.

"Mae'r cyhoedd, gwneuthurwyr polisi a gwleidyddion i gyd yn sylweddoli nawr bod byd newydd yn bosib - un sy'n well i'r amgylchedd ac yn well i ni."