Hyd at 30 yn gallu cwrdd a champfeydd i agor
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y rheolau ar faint o bobl all gwrdd y tu allan yn cael eu llacio'r wythnos nesa, medd Llywodraeth Cymru.
Ers Mehefin dim ond aelodau o ddwy aelwyd oedd yn cael cyfarfod y tu allan.
Ond o ddydd Llun fe fydd grwpiau o hyd at 30 yn cael cwrdd - a gall hynny fod o faint bynnag o gartrefi.
Fore Gwener fe gadarnhaodd y prif weinidog, Mark Drakeford, y bydd campfeydd, pyllau nofio a chanolfannau hamdden yn gallu ail-agor ar 10 Awst, ac y byddai'n amlinellu nifer o fesurau eraill amser cinio.
O dan y drefn newydd ni fydd yn rhaid i blant dan 11 aros dau fetr oddi wrth ei gilydd neu oddi wrth oedolion o ddydd Llun ymlaen.
Yn 么l y llywodraeth, mae hyn oherwydd lleihad yng nghyflymder mae'r feirws wedi bod yn cael ei drosglwyddo ymhlith y gr诺p yma.
Ond wrth siarad 芒'r 成人快手 yn ddiweddarach, awgrymodd Mr Drakeford ein bod bron a chyrraedd pen draw yr hyn y gallwn ailagor yng Nghymru.
Dywedodd efallai y byddai'n well peidio ag ailagor popeth er mwyn caniat谩u i'r ysgolion ailagor ym mis Medi.
"Dwi'n meddwl ein bod yn weddol agos i'r pwynt lle mae'r rhan fwyaf o wahanol rannau'r economi wedi gallu ailagor."
"Ar ddiwedd y tair wythnos nesaf byddwn yn agos iawn at ailagor ysgolion Cymru ac er mwyn i ni allu gwneud hynny'n ddiogel a llwyddiannus, efallai y byddwn angen y 'gofod' hwnnw sydd ar 么l heb ei ailagor."
Fe fydd llefydd bowlio dan do, tai ocsiwn a neuaddau bingo hefyd yn gallu ailagor yr un diwrnod, a bydd pobl hefyd yn gallu mynd tu fewn i dafarnau, tai bwyta a chaffis.
Ond rhybuddiodd Llywodraeth Cymru y byddai busnesau yn wynebu "camau" yn eu herbyn os byddan nhw'n anwybyddu mesurau ymbellhau "sydd wedi'u cynllunio i gadw Cymru'n ddiogel".
Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf 成人快手 Radio Cymru, dywedodd Mr Drakeford: "Ni wedi cael profiad nawr o bobl yn cwrdd y tu allan i fwytai a thafarndai yn yr awyr iach, ac rydyn ni'n hyderus i agor tu fewn o dydd Llun nesa mlaen."
Ychwangeodd: "O ddydd Sadwrn y 15fed ni'n gobeithio rhoi mwy o gyfleodd i bobl ddod at ei gilydd tu fewn, ond rydyn ni eisiau mwy o wybodaeth sut fydd y feirws yn effeithio ar Gymru yn y pythefnos nesa."
Wrth gael ei holi am y posbilrwydd o gael cyfyngiadau lleol fel sydd wedi cael eu cyflwyno yng ngogledd Lloegr a Chaerl欧r, dywedodd eu bod yn "agored i wneud pethau yn lleol lle bod rhaid i ni, a'u bod yn cadw llygaid ar Wrecsam bob dydd".
O ran angladdau dywedodd ei bod yn "dibynnu ar y safle, a bydd rhaid i bobl weld faint bydd gallu cwrdd yn saff", ac i bobl sy'n aros i weld a fyddan nhw'n medru cynnal neithior priodas dywedodd ei fod yn gobeithio rhoi "mwy o bwerau i safeloedd roi bwyd i bobl tu fewn".
Ond roedd yn cydnabod bod angen pythefnos yn ychwanegol o dystiolaeth i weld a fydd yn ddiogel i wneud hynny, yn enwedig o ystyried "beth sydd wedi digwydd yn Lloegr".
Codi cyfyngiadau'n 'araf'
Pan ddechreuodd y cyfnod clo ym mis Mawrth, roedd unrhyw gyfarfod o fwy na dau berson yn anghyfreithlon.
Mis diwethaf cafodd hynny ei lacio gan adael i bobl o ddau wahanol d欧 gwrdd y tu allan.
Roedd gweinidogion yn fwy parod i ganiat谩u gweithgareddau y tu allan wedi i gyngor gwyddonol awgrymu y byddai'r feirws yn pylu'n gyflym yn yr awyr agored.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy araf na rhannau eraill o'r DU i godi cyfyngiadau.
Ond wrth i nifer yr achosion leihau fe ddil毛wyd rhai o'r rheolau fwyaf llym, gan gynnwys y gwaharddiad ar deithio, a chau siopau.
Ar yr un pryd mae mesurau i ddod o hyd i bobl sy wedi'u heintio wedi'u cael blaenoriaeth, yn y gobaith y bydd mwy o brofi yn rhwystro'r feirws rhag lledu.
Sut mae trin achosion newydd?
Ddydd Iau dwedodd Mr Drakeford ei fod yn gobeithio y byddai unrhyw gynnydd yn y ffigurau yn cael ei drin "ar lefel leol" yn hytrach na gorfod dychwelyd i fesurau cenedlaethol.
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Ceidwadwyr Cymru y dylai bobl fod yn gallu cwrdd mewn grwpiau mwy, y dylai theatrau a neuaddau bingo gael ailagor, ag y dylai priodasau dan do gael eu caniat谩u.
Dwedodd eu llefarydd, Darren Millar AS, bod hawliau "wedi cael eu hadfer yn ddiogel mewn rhannau eraill o'r DU ac y dylai pobl Cymru gael nhw n么l hefyd".
Dadl Plaid Cymru yw y dylai unrhyw lacio fynd law yn llaw gyda "mecanwaith gref" i ddelio ag unrhyw achosion newydd o'r feirws.
Dwedodd eu llefarydd, Rhun ap Iorwerth AS, nad oedd ffigurau diweddar ar amserau'r profion yn rhoi "hyder y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu ymateb yn gyflym" i unrhyw argyfwng newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020