成人快手

Araith Llywydd y Dydd: Josh Nadimi

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Josh Nadimi, Llywydd dydd Sul G诺yl AmGen

Llawfeddyg yw Josh Nadimi - llywydd dydd Sul - sy'n 28 mlwydd oed. Daw yn wreiddiol o Lantrisant, ac 么l astudio meddygaeth yn Lerpwl, mae bellach wedi dychwelyd i Gymru ac yn gweithio fel Cymrawd Trawma yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

'Mae hyn yn profi nad oes yna un fath o Gymro neu Gymraes rhagor'

Dwi'n hynod o falch i allu cymryd rhan yn yr 糯yl AmGen hon, ac yn edrych 'mlaen i rannu fy mhrofiadau fel Cymro o gefndir cymysg, a sy'n gweithio yn yr NHS - ac i ddathlu'r hyn sydd yn cyfrannu at greu diwylliant amrywiol a chyfoethog.

Fy enw yw Joshua Nadimi. Dwi'n 28 mlwydd oed, ac yn ddoctor sy'n byw yng Nghaerdydd. Dwi'n wreiddiol o Lantrisant yn Rhondda Cynon Taf a fel ddywedais i, rwy'n dod o gefndir cymysg o ran fy hil.

Mae Dad yn dod o Iran ac fe ddaeth yma fel myfyriwr yn yr 1980au ac nawr yn gweithio fel peiriannydd electronig. Mae Mam yn dod o Aberporth yng Ngheredigion ac yn gweithio fel athrawes yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail.

Mae gen i chwaer iau hefyd, sydd wedi cael ei mabwysiadu o China, ac mae hi nawr yn 15 mlwydd oed. Gallwch chi ddweud bod fy nheulu i yn enghraifft ardderchog o deulu aml-ddiwylliannol, ac mae hyn yn destun balchder i mi!

Fel plentyn, roedd yn bwysig iawn i mi ddathlu fy nghefndir a fy ngwreiddiau o'r Dwyrain Canol. Siaradais Farsi gyda fy nhad a fy nheulu o Iran, ac wedyn roedd hi'n bleser hefyd i siarad Cymraeg ac i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg tan i mi fynd i'r brifysgol. Roedd yn ddiddorol hefyd i ddysgu am wreiddiau fy chwaer a dathlu traddodiadau o China.

Fe es i i Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant a wedyn es i ymlaen i Ysgol Gyfun Llanhari, ac yno mi ges i fy addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a chael yr anogaeth i fod yn uchelgeisiol - a hynny er mwyn ceisio gwireddu fy nyhead i fod yn feddyg.

Ar 么l gadael Ysgol Gyfun Llanhari, es i 'mlaen i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl am bum mlynedd ac fe benderfynais i aros yn Lloegr am dair blynedd ychwanegol er mwyn ymarfer meddygaeth ar 么l graddio.

Des i n么l i Gymru i ddechrau ar fy hyfforddiant craidd fel llawfeddyg a nawr rwy'n gweithio i fod yn arbenigwr mewn llawfeddygaeth trawma ac orthopaedeg. Rydw i newydd gael fy mhenodi fel Cymrawd Trawma yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Roedd hi'n ddiddorol iawn i weld, yn ystod y cyfnod pan oedd fy chwaer yn mynd trwy'r ysgol gynradd, faint o amrywiaeth oedd ymhlith y plant sydd bellach yn mynychu ysgolion Cymraeg, o safbwynt cefndir a hil. Mae hyn yn profi nad oes yna un fath o Gymro neu Gymraes rhagor ac rydw i, fel Cymro aml-ddiwylliannol ac o deulu cymysg, yn falch iawn ein bod ein cymuned ni yn datblygu ac yn cael ei chyfoethogi fel hyn.

Rydym hyd yn oed yn gweld yng Nghymru nifer o unigolion yn y byd chwaraeon proffesiynol sy'n dod o gefndiroedd gwahanol - a nifer ohonynt yn siarad Cymraeg - ac mae hwn yn destun balchder i ni yma yng Nghymru.

Mae'n fwy pwysig nag erioed o'r blaen, yn ystod cyfnodau heriol fel sydd gennym ar hyn o bryd, ein bod yn dathlu ein hunaniaeth a'n hamrywiaeth - yn ogystal 芒'r hyn sy'n uno ni fel pobl.

'Mae hi wedi bod yn fraint yn ogystal, ac yn gyfrifoldeb i helpu eraill yn ystod y pandemig'

Mae'r NHS wedi bod trwy gymaint yn ystod y pandemig hwn, a nifer o'n gwasanaethau ar hyd a lled Cymru wedi bod dan bwysau syfrdanol er mwyn cadw pobl yn saff.

Mae arolwg diweddar wedi dangos bod 44% o ddoctoriaid yr NHS yn dioddef oherwydd eu bod o dan straen, yn dioddef o gorbryder neu yn wynebu'r risg o losgi allan yn sgil y pwysau trwm maen nhw wedi ei wynebu fel gofalwyr iechyd.

Mae nifer o ddoctoriaid wedi cael eu hadleoli i arbenigaethau gwahanol er mwyn delio gyda'r pandemig hwn, ac er mwyn trin y niferoedd sylweddol o gleifion sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID-19.

Maen nhw'n gweithio shifftiau amrywiol ac mae nifer ohonynt yn treulio cyfnodau hir i ffwrdd o'u teuluoedd a'u plant am ddiwrnodau neu hyd yn oed wythnosau ar y tro.

Mae gweithwyr y gwasanaeth iechyd hefyd yn ymwybodol iawn eu bod yn cymryd risg bersonol pob tro maen nhw'n mynd i'r gwaith - ac roedd hyn yn enwedig yn wir pan roedd nifer fawr ohonynt yn ansicr a fyddai ganddynt gafarpar diogelu personol, neu PPE, er mwyn gofalu am y cleifion.

I arbenigwyr sydd dan hyfforddiant fel fi, mae'r pandemig wedi arwain at oedi yn ein datblygiad proffesiynol er mwyn sicrhau ein bod ni yn gallu helpu yn ystod yr argyfwng. Yn naturiol, nid oeddwn wedi rhagweld hyn, ond dwi'n ddiolchgar fy mod i'n dal yn gallu gweithio yn y gwasanaeth iechyd tra bo gymaint o bobl eraill yn wynebu cael eu diswyddo.

Mae hi wedi bod yn fraint yn ogystal, ac yn gyfrifoldeb i helpu eraill yn ystod y pandemig hwn, ac mi wn fod nifer fawr o ddoctoriaid eraill yn teimlo yr un peth.

Ffynhonnell y llun, Josh Nadimi

Mae un o bob pump o weithwyr yn yr NHS yn dod o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig (neu BAME, fel ydym yn ei adnabod) ac mae dros 11% o weithwyr gofal iechyd yng Nghymru yn datgan eu bod yn dod o gefndir BAME.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol wedi dangos bod yna wahaniaeth arwyddocaol rhwng marwolaethau yn sgil COVID ymhlith pobl o gefndir BAME o gymharu 芒 phobl wyn - 35% o gymharu 芒 23%.

Mae'r rhesymau dros hyn yn gallu cael eu hesbonio'n rhannol gan ffactorau socio-economegol a daearyddol, ond dyw hynny ddim yn esbonio yn hollol maint y gwahaniaeth. Mae rhan o'r gwahaniaeth rhwng y ddau gr诺p yn gyfangwbl anesboniadwy.

Er bod ein cymunedau yn datblygu ac yn cyfoethogi felly o ran amrywiaeth a hil, gyda Chymru yn elwa o gael pobl o gefndiroedd gwahanol, mae amddifadedd ac anghyfartaledd iechyd yn dal i fodoli yma ymhlith pobl o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig. Mae hyn yn wir yma yng Nghymru a thrwy'r Deyrnas Unedig gyfan.

'...gyda'n gilydd mi ddown ni drwy hyn.'

Ac wrth edrych at y dyfodol, mae'n fwy pwysig na byth i ni gydnabod hynny ac i fynd i'r afael 芒'r anghyfartalwch yma.

Ddylai hyn ddim ein hatal ni rhag dathlu ein hamrywiaeth hefyd, a'r hyn sy'n gwneud ni yn wahanol.

Ac oes, mae angen i ni ddod o hyd i bethau i'w dathlu ar hyn o bryd. Wedi'r cwbl mae'r NHS a phobl Cymru wedi bod o dan bwysau anferthol yn ystod y pandemig ac wedi gorfod byw trwy gyfnod ansicr iawn.

Ond er yr ansicrwydd a'r dioddef sydd wedi wynebu cymaint o bobl, gyda'n gilydd mi ddown ni drwy hyn.

Mae hi wedi bod yn bleser cyfrannu at yr 糯yl AmGen eleni, ac i ddathlu'r hyn sy'n gwneud Cymru yn anhygoel.

Diolch.