Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pethau'n dechrau gwella i siopau wedi Covid-19?
- Awdur, Mari Grug
- Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru
Mae'r ffigyrau ar gyfer mis Mehefin yn awgrymu bod siopau'n dechrau ennill tir yn 么l wedi'r cyfnod clo.
Fe ddaw yn dilyn y cwymp mwyaf ar gofnod i fusnesau manwerthu yn ystod y pandemig.
Cynyddodd swm y nwyddau a werthwyd y mis diwethaf 13.9%, meddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Dywedodd yr ONS bod y "darlun yn gymysg" ar draws gwahanol sectorau.
Yn Siop y Pethe mae'r trosiant "llai na hanner" o'i gymharu 芒'r un amser y llynedd.
Daw hynny wrth i ffigyrau awgrymu bod siopau'r stryd fawr yn dal i edrych yn dawel.
'Pobl yn mynd n么l i siopa'
Dywedodd y perchennog Aled Rees: "Mae pethau wedi cynyddu ar-lein i ni, ond tipyn mwy yn ystod misoedd cyntaf y clo.
"Ers i ni agor ein drysau, mae'n amlwg erbyn hyn bod pobl yn mynd 'n么l i siopa yn eu trefi lleol."
Mae ffigyrau Swyddfa'r Ystadegau Gwladol yn dangos bod 拢3 o bob 拢10 bellach yn cael ei wario ar-lein - twf o tua 10% o'i gymharu 芒 mis Chwefror.
Yn un sy'n falch o gael dychwelyd i "normalrwydd" mae Cynthia Binks yn teimlo bod y busnes gwerthu gwl芒n yn ddigon unigryw i allu goroesi.
"Dwi'n teimlo'n hyderus achos bod y stwff dwi'n gwerthu yn eithaf arbenigol. Maen nhw eisiau'r edafedd ac ati ac felly dwi'n brysur iawn.
"Mae'n 么l i fel oedd pethau bob dydd, o'r blaen.
"Mae'n neis gweld pobl, yn enwedig i fi sy'n gymaint o people person!"
'Siopau bwyd yn dal i brofi twf'
Fe ddywedodd Jonathan Athow o'r ONS bod "rhai sectorau yn ei chael hi'n anodd".
"Er hynny, mae siopau bwyd yn dal i brofi twf wrth i ni fwyta allan llai," meddai.
O dan yr wyneb, mae'r tirlun ar gyfer y sector manwerthu wedi "gweld newidiadau mawr ers dechrau mis Mawrth," meddai.