Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi amserlen penwythnos yr 糯yl AmGen
Dyma ddatgelu amserlenni arbennig Radio Cymru a Radio Cymru 2 yn ystod yr 糯yl AmGen sy'n dechrau nos Iau, 30 Gorffennaf.
Cymru Fyw fydd cartref ar-lein yr 诺yl, ble bydd modd darganfod uchafbwyntiau'r digwyddiadau eleni ac ail fyw perfformiadau o archif yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe fydd yr arlwy yn cynnwys cyngherddau nosweithiol, cerddoriaeth, perfformiadau, celfyddydau, dram芒u, a thrafodaethau.
Nos Iau 30 Gorffennaf
Bydd cyngerdd Gwerin o Gartef yn agor yr 诺yl nos Iau gyda pherfformiadau gan Bwncath, Gwilym Bowen Rhys, Lleuwen Steffan a No Good Boyo.
Dydd Gwener 31 Gorffennaf
Bryn F么n fydd a'i fand Bryn Bach fydd yn cynnal cyngerdd nos Wener yr 诺yl, gyda pherfformiad arbennig wedi'i recordio yn stiwdio Sain.
Dydd Sadwrn 1 Awst
Daniel Evans a Sh芒n Cothi fydd yn ein tywys drwy gyngerdd nos Sadwrn, ble bydd Rhys Taylor a'i fand '50 Sh锚ds o Lleucu Llwyd' a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 成人快手 yn creu 12 fersiwn newydd sbon o glasuron sioeau cerdd Cymraeg.
Dydd Sul 2 Awst
Ymysg uchafbwyntiau'r dydd Sul bydd Dewi Llwyd yn edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2021, tra fod Radio Cymru 2 yn dathlu penblwydd Geraint Jarman yn 70 oed.
Fe fydd digwyddiadau AmGen yna'n parhau ar 么l y penwythnos ar wefan yr Eisteddfod a Cymru Fyw, gyda digonedd o berfformiadau, cyngherddau a thrafodaethau difyr i'w darganfod drwy gydol yr wythnos.