Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cau strydoedd trefi Ceredigion oherwydd Covid-19
- Awdur, Craig Duggan
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Mae Cyngor Ceredigion yn bwriadu cau rhai o'r strydoedd yn nhrefi'r sir i gerbydau yn ystod y dydd er mwyn creu 'parthau diogel' ar gyfer cerddwyr.
Y bwriad yw ei gwneud hi'n haws i bobl gadw pellter diogel o'i gilydd yng nghanol y trefi wrth i fwy o dwristiaid ddechrau ymweld 芒'r sir.
Yn 么l datganiad y cyngor mae gan "y rhan fwyaf o drefi'r sir gynllun stryd hanesyddol gyda throedffyrdd cul a thraffig yn rhedeg trwyddynt" ac er mwyn i fusnesau fynd at i ailagor ac wrth i ymwelwyr ddychwelyd "nid oes digon o le i bobl gadw pellter diogel oddi wrth ei gilydd".
"Bydd ein trefi'n edrych yn wahanol i sut y gwnaethant ychydig fisoedd yn 么l", meddai'r datganiad, "ond bydd newidiadau yn golygu y gall busnesau ailagor yn ddiogel tra hefyd yn sicrhau iechyd a diogelwch trigolion ac ymwelwyr."
Yn ogystal 芒 chau strydoedd i gerbydau yn ystod y dydd bydd y Cyngor yn:
- creu mwy o le tu allan i f芒n-werthwyr a'r sector lletygarwch fasnachu
- clirio palmentydd trwy gael gwared 芒 chelfi stryd ac eitemau eraill
- cyflwyno arwyddion i helpu ymwelwyr i gynnal pellteroedd diogel.
Dyw Cyngor Ceredigion ddim wedi datgelu manylion yr union strydoedd fydd yn cael eu cau i gerbydau, ond deellir y bydd newidiadau ym mhob tref yn y sir.
Yn Aberystwyth mae rhai busnesau yn deall yr angen i newid.
Mae siop y cigydd Rob Rattray wedi bod ar agor trwy gydol y cyfnod clo ond gyda newidiadau.
Does neb yn cael mynd mewn i'r siop fach nawr - rhaid aros wrth y drws, talu a chymryd y cig o'r fan yno.
"Dim ond pump o siopau sydd wedi bod ar agor yn ganol y dref trwy'r adeg," meddai.
"Mae pobl wedi bod yn ffonio mewn gydag archeb ac wedyn maen nhw wedi bod yn dod lawr casglu'r bwyd a mynd."
Mae hyn yn golygu y gallai fod yna giw ar y palmant tu fas y siop.
Mae'r pafin yn eithaf cul ac wrth i draffig basio ar y ffordd does dim llawer o le i bobl basio a chadw eu pellter.
Yn 么l Rob Rattray mae'n deall yr angen i wneud newidiadau.
"Fi yn gweld yr angen achos amser mae'n fwy prysur tua diwedd yr wythnos pan mae ciws f'yna mae pobl jyst yn gwthio heibio iddyn nhw ar hyd y pafin.
"Fi yn deall, mae eisiau trio gwneud rhywbeth."
Ond mae nifer o fusnesau yng nghanol Aberystwyth yn poeni y bydd cau'r strydoedd i draffig yn golygu llai o gwsmeriaid.
Ac maen nhw'n dweud nad oes unrhyw ymgynghoriad wedi'i gynnal yngl欧n 芒'r mater hwn.
"Ers i ni ailagor fi'n gweld bod natur siopa wedi newid", meddai Angharad Morgan, perchennog Siop Inc.
"Mae pobl jyst yn picio i'r dref i n么l beth mae nhw angen.
"Felly mae pobl yn parcio lawr y stryd, picio i fan hyn a mynd n么l i'r car a mynd i ran arall o'r dre i gasglu beth maen nhw moyn.
"Dwi ddim yn si诺r sut mae'r cyngor yn gallu dod i benderfyniad yngl欧n 芒 hyn heb gysylltu gyda pherchnogion busnes y dref."
Mae bwytai a chaffis yn gobeithio y bydd y newidiadau yn golygu y gallan nhw weini mwy o bobl tu fas i'w sefydliad
Mae Nathan Egerton yn gweithio yng nghaffi'r Caban: "Mae'n syniad da cael pedestrianisation fan hyn - da ni angen mwy o gwsmeriaid i dreulio mwy o amser yn y stryd.
"Baswn ni'n gallu cael lot mwy o fyrddau allan fan hyn ar y ffordd, lot mwy o trade yn dod trwodd."
Ailddiffinio llefydd i fasnachwyr yw un o amcanion y newidiadau, yn ogystal 芒 diogelu'r gymuned ac iechyd pobl meddai Cyngor Ceredigion.
Mae busnesau yn Aberystwyth - a threfi eraill Ceredigion - yn aros i glywed mwy o fanylion. Dywed Cyngor Ceredigion "bydd rhagor o wybodaeth am y parthau diogel yn dilyn."au.