Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Bydd rhai disgyblion yn methu teithio i'r ysgol'
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Mae 'na rybudd y gallai rhai disgyblion ddioddef gwahaniaethu oherwydd anghysondeb mewn trefniadau cludiant pan fydd ysgolion yn dechrau ailagor yr wythnos nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ailagor ysgolion, ac yn annog teuluoedd i osgoi defnyddio trafnidiaeth ysgol oni bai bod rhaid.
Ond mae'r sefyllfa'n amrywio fesul awdurdod lleol.
Does dim cludiant prif ffrwd mewn rhai siroedd.
Mae cludiant ar gael mewn siroedd eraill i'r rhai sydd heb ddewis amgen.
Mae ambell gyngor arall yn dal i weithio ar eu cynlluniau.
Yn 么l Undeb Athrawon Cenedlaethol Cymru, gallai hyn olygu bod rhai plant sydd eisiau mynd i'r ysgol yn methu gwneud hynny.
"Y rhai sydd eisiau mwy o sylw a gofal ydy'r teuluoedd sydd heb gar ac felly'n methu mynd 芒'u plant i'r ysgol," medd Rebecca Williams o undeb UCAC.
"Falle eu bod nhw'n dod o gartrefi difreintiedig neu am ba bynnag reswm.
"Ond hefyd mae eisiau edrych y sector Gymraeg yn benodol - ni'n gwybod bod plant yn y sector honno'n tueddu i deithio yn bellach ar y cyfan.
"Bydden ni'n hoffi gweld cymaint 芒 phosib o gysondeb ar draws Cymru. 'Dy'n ni ddim eisiau rhai siroedd yn cynnig trafnidiaeth a rhai ddim."
'"Mae eisiau cyfle cyfartal a chymaint o bobl sydd eisiau cyrraedd yr ysgol i wneud hynny."
Canllawiau wedi'u cyhoeddi - ond heb gyrraedd pawb
Dywedodd llefarydd ar Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr ar gludiant ysgol diogel, a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a'r rhai sy'n darparu cludiant er mwyn delio ag unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw."
"Rydym hefyd wedi cyhoeddi 拢2m yn ddiweddar i helpu awdurdodau lleol annog rhagor o gerdded a beicio i'r ysgol."
Ond mae Steve Jones o gwmni bysiau Llew Jones yn Llanrwst yn dweud mai "ychydig iawn" ydy'r canllawiau maen nhw wedi eu cael.
Lleiafswm bach o'r disgyblion maen nhw'n arfer eu cludo maen nhw'n eu disgwyl ddydd Llun. Ond mae llawer i'w ystyried o hyd.
"Dwi 'di cael dim gwybodaeth am sut maen nhw'n disgwyl i ni wneud o," meddai Mr Jones.
"Mae'n edrych fel bod nhw'n gadael o i ni weithio efo'r ysgolion a'r cyngor lleol.
"'Den ni'n si诺r o neud iddo fo weithio, 'den ni'n ddiwydiant hyblyg.
"Ond fyse wedi bod yn help garw cael canllaw soled i ddechrau gweithio arno fo erbyn diwedd y mis."
Mae Meira Woosnam yn fam i dri mab sydd mewn tair ysgol wahanol. Maen nhw wedi penderfynu peidio defnyddio cludiant ysgol o'u cartref yn Abergele yr wythnos nesaf.
"Dydi'r mab hynaf ddim yn teimlo fedri di aros dwy fetr i ffwrdd mewn ysgol uwchradd yn enwedig ar fws," meddai. "Dwi'm yn gwbod sut ti fod i wneud hwnna.
"Nethon nhw gynnig lle ar y bws ond dwi wedi deud 'na'.
"Mae gen i gar felly dwi mewn sefyllfa bod fi'n medru mynd 芒 nhw ond dwi'n gwybod bod lot ddim yn gallu."