Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Oriel: Tafwyl Digidol - g诺yl wahanol i'r arfer
Bydd Tafwyl, dathliad celfyddydol a diwylliannol yng nghanol Caerdydd, yn edrych yn dra gwahanol eleni.
Oherwydd pandemig Covid-19 mae'r 诺yl yn ei ffurf arferol wedi ei ohirio. Ond bydd rhaglen o ddigwyddiadau'n cael ei ffrydio'n fyw ddydd Sadwrn, 20 Mehefin fel rhan o 'Tafwyl Digidol 2020', gan gynnwys cerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant. Mae rhestr lawn o'r digwyddiadau .
Yn dilyn y rheolau yn ymwneud 芒 Covid-19, mae nifer o'r artistiaid wedi recordio eu set eisoes. Bydd eraill, fel Al Lewis ac HMS Morris yn perfformio'n fyw o Gastell Caerdydd ar 20 Mehefin.
Felly dyma ragflas o hyn sydd gan Tafwyl 2020 ei gynnig.
Un sydd wedi ffilmio ei set ymlaen llaw ydi'r cerddor sy'n cyfuno cerddoriaeth roc, pop, dawns a ffync- yr amryddawn Alun Gaffey.
Roedd rheolau iechyd a diogelwch, a glanhau a chyfnewid setiau rhwng perfformiadau, yn golygu bod angen recordio pum artist o flaen llaw, gyda phump yn perfformio'n fyw ar y dydd.
Yr athletwr wltra a chymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe, Lowri Morgan, sy'n sgwrsio am ei chyfrol hunangofiannol newydd gyda Beti George.
Recordiodd y brodor o Gaerdydd, y cerddor gwerin poblogaidd, Gareth Bonello, ei ganeuon tu fewn i'r gorthwr Normanaidd sydd yn y castell.
Bydd un o'r sgyrsiau fydd ar gael ar y wefan yn gweld yr awdur Jon Gower (chwith) a John Rea yn trafod 'atgyfodi'. Bydd John Rea yn trafod ei brosiect ddiweddar, a sut aeth ati i adfywio lleisiau'r gorffennol o archif Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, a chyfansoddi gwaith cerddorol llawn emosiwn.
Onwy Gower yw awdures Llyfr Adar Mawr y Plant - llyfr ffeithiol am 50 o adar sydd i'w gweld yng Nghymru gan gynnwys ffeithiau, ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu'n arbennig ar gyfer y gyfrol. Bydd Onwy yn trafod y llyfr gyda'i thad, Jon.
Fel adroddodd Cymru Fyw ym mis Rhagfyr, mae'n bosib mai Onwy Gower, merch 10 mlwydd oed o Gaerdydd, yw'r person ieuengaf erioed i ysgrifennu llyfr Cymraeg.
Sgwrs - trafodaeth ar hunaniaeth wedi'i ysbrydoli gan The Privilege Cafe, yng nghwmni Seren Jones, Mali Ann Rees, Leena Sarah Farhat, Gareth Hicks a Dr Dafydd Trystan.
Bydd set y gantores Casi yn cael ei ffrydio am 17.15 ddydd Sadwrn.
Gweithdy cyfansoddi arbennig i blant a phobl ifanc gyda Kizzy Crawford.
Golwr oedd yn rhan o garfan Cymru ar gyfer Euro 2016, Owain F么n Williams, yn hel atgofion gyda Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas B锚l-droed Cymru.
Mei Gwynedd yn perfformio yng nghanol maes y Castell.
Byddwch chi'n barod am 诺yl ar 么l dysgu sut i wneud band gwallt pom-pom yng ngweithdy Alis Knits.
Dwy ran o dair o'r band Adwaith, Gwenllian Anthony a Hollie Singer, yn canu ym Mhorth y Gogledd.
Castell Caerdydd yw cartref yr 诺yl eto eleni, ond gydag ychydig llai o dyrfa nag arfer.
Hefyd o ddiddordeb: