成人快手

Cau Canolfan y Mileniwm dros dro yn peryglu 250 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Canolfan y Mileniwm CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llai na 20% o incwm rhai canolfannau, fel Canolfan y Mileniwm, yn dod o'r pwrs cyhoeddus

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn mynd i gau tan "o leiaf" mis Ionawr 2021 gan beryglu 250 o swyddi.

Dywedodd y ganolfan gelf yng Nghaerdydd y gall 85 o bobl gael eu diswyddo tra fydd staff achlysurol ddim yn cael eu cyflogi bellach.

Yr "effaith ddinistriol" ar y diwydiant theatr o achos coronafeirws sydd ar fai, yn 么l rheolwr cyffredinol y ganolfan.

Fe allai'r ganolfan aros ar gau tan Ebrill 2021 ac mae'n wynebu colledion o 拢20m mewn incwm.

Adeilad eiconig

Yn ogystal 芒 bod yn adeilad eiconig ym Mae Caerdydd, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn theatr sy'n cynhyrchu ei sioeau ei hun, ac mae'n lleoliad sy'n denu goreuon y West End.

Caeodd y drysau ar 17 Mawrth yn sgil y rheolau ar bellhau cymdeithasol.

Cafodd cynyrchiadau eu canslo'n gyflym, ac mi gafodd teithiau gan sioeau poblogaidd fel y Lion King a Phantom of the Opera eu gohirio.

Roedd prif neuadd y ganolfan hefyd i fod i gynnal sioeau tymor yr hydref gan Opera Cenedlaethol Cymru, tra bod y G诺yl Llais flynyddol hefyd wedi'i chanslo eleni.

Ffynhonnell y llun, WMC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o sioeau mawr wedi eu llwyfannu yn y ganolfan, fel 'Les Miserables' yn 2009

Cyfanswm y staff parhaol ydy 140, felly ychydig dros hanner ohonynt sydd dan fygythiad o golli swyddi. Mae gweddill y staff yn rhai achlysurol fydd ddim bellach yn cael eu cyflogi, gyda chyfanswm o 250 o swyddi wedi'u heffeithio i gyd.

Dwedodd rheolwr gyfarwyddwr y ganolfan, Mathew Milsom, nad oedd modd i berfformiadau fynd yn eu blaen tra bod mesurau pellhau cymdeithasol mewn bodolaeth.

Mewn datganiad dywedodd: "Mae'n ofid mawr i ni ein bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i gau Canolfan Mileniwm Cymru tan fis Ionawr 2021.

"Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith ddinistriol ar theatrau ledled Prydain ac, fel llawer un arall, rydyn ni wedi dod i'r casgliad na fyddwn ni'n gallu dangos perfformiadau ar ein llwyfannau eto tra bod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.

"O dan yr amgylchiadau yma, allwn ni ddim agor y theatr mewn ffordd sy'n darparu profiad da i'r gynulleidfa ac sy'n hyfyw yn economaidd i'r Ganolfan a'r cynhyrchwyr sy'n cyflwyno'u gwaith yma."

Cynllun ffyrlo

Er bod llawer o staff wedi cael eu trosglwyddo i gynllun ffyrlo'r llywodraeth, dydy Canolfan Mileniwm Cymru ddim yn gallu parhau i'w talu pan fydd y cynllun yn dod i ben.

Mae'r ganolfan wedi colli 85% o'i hincwm, ac mae methu gwerthu tocynnau neu denu refeniw masnachol yn golygu mai dim ond gyda th卯m bach o staff mae modd parhau fel busnes.

Mae'n debyg y bydd y ganolfan yn gorfod dibynnu ar ei grant blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru gwerth 拢3.5m tra bydd y drysau ar gau.

Bydd y ganolfan ar gau tan fis Ionawr 2021, ond bydd rheolwyr yn adolygu'r sefyllfa ym mis Medi i asesu os bydd angen parhau ar gau tan fis Ebrill nesaf.

Ffynhonnell y llun, Robin Drayton/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe allai Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd golli hyd at 拢20m mewn incwm

Esboniodd Mr Milson: "Mae diogelwch ein cynulleidfa, ein staff a'n perfformwyr yn fater o'r pwys mwyaf, ac felly mae'n bosib y bydd rhaid i ni ystyried ymestyn y cyfnod cau wrth i gyngor y llywodraeth ar ymgynnull mewn torf ddod yn gliriach yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

"Rydyn ni hefyd yn disgwyl y bydd tarfu sylweddol o ran y sioeau teithiol fydd ar gael am sawl blwyddyn i ddod, wrth i gynyrchiadau gael eu canslo heb i ddim sioeau newydd gael eu creu chwaith.

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n gwneud y penderfyniadau yma nawr er mwyn sicrhau dyfodol y Ganolfan - cartref celfyddydau Cymru - sy'n denu dros 1.6m o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cyfrannu 拢70m at economi Cymru.

"Rydyn ni wedi colli 85% o'n hincwm dros nos ac rydyn ni'n ceisio cael cyllid ar gyfer y tymor byr a'r tymor hwy.

"Tra byddwn ni ar gau, fe wnawn ni bopeth allwn ni i gadw'n gwaith artistig ac elusennol i fynd, ac i sicrhau ein bod ni'n barod ar gyfer ailagor cyn gynted ag y bydd hynny'n ymarferol bosib."

Gwirfoddolwyr

Bydd cau'r ganolfan hefyd yn effeithio ar y 300 o wirfoddolwyr a'r gymuned llawrydd sy'n dibynnu ar y ganolfan am waith.

Yn ogystal 芒'i Theatr Donald Gordon gyda 1,850 o seddi, mae gan y ganolfan hefyd theatr stiwdio gyda 300 o seddi, a bar cabaret.

Mae'r adeilad ehangach hefyd yn gartref i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y 成人快手, Opera Cenedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Dydy cyhoeddiad y Ganolfan ddim yn effeithio'r cwmn茂au eraill.