Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Addysgu hanes BAME am 'helpu i drechu hiliaeth'
Byddai addysgu disgyblion yng Nghymru am hanes pobl ddu yn "helpu i drechu hiliaeth", yn 么l cadeirydd Cyngor Hil Cymru.
Mae deiseb sy'n galw am ddysgu mwy o hanes gwladychol Prydain fel rhan o'r cwricwlwm yng Nghymru wedi denu dros 27,000 o lofnodion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai disgyblion ddysgu am r么l Cymru mewn masnach caethweision a gwladychiaeth.
Dywedodd y barnwr Ray Singh ei fod yn gobeithio hefyd y bydd effaith anghymesur Covid-19 ar gymunedau du, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn "ychwanegu momentwm" i'r ymdrech i amlygu'r anghydraddoldebau hiliol o fewn cymdeithas.
Gyda phrotestiadau wedi'u cynnal ar draws Cymru ddydd Sadwrn, dywedodd y Barnwr Singh bod "pobl yn benderfynol o ddangos bod bywydau du yn cyfrif" yng Nghymru yn sgil marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.
Yn siarad ar raglen Politics Wales, ychwanegodd: "Mae anfanteision strwythurol ar gyfer pobl ddu yn bodoli yn ein cymunedau ni hefyd - ar ei waethaf mae'n hiliaeth pur ond mae eraill sydd dan anfantais gan gymunedau sy'n llai amlwg na hynny.
"Dyw e ddim yn hiliaeth fwriadol, ond mae wedi'i blannu yn y ffordd mae sefydliadau'n gweithredu ac mae penderfyniadau'n cael eu gwneud.
"Rwy'n gobeithio y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gofyn y cwestiwn 'beth oedd ymateb pobl Cymru wrth wynebu Covid-19?' ac rwy'n gobeithio bod hyn am ychwanegu momentwm i amlygu ac adnabod yr anghydraddoldeb sydd yn ein cymdeithas.
"Dydyn ni ddim yn cael ein geni'n hiliol - rydyn ni'n cael ein gwneud yn hiliol trwy ein gweithredoedd a'n ffordd o fyw."
'Cyfle i weithredu'
Bydd y ddeiseb sy'n galw am ddysgu hanes pobl ddu fel rhan o'r cwricwlwm yn cael ei drafod yn y Senedd am ei fod wedi pasio'r trothwy o 5,000 o lofnodion.
Cafodd ei sefydlu gan fyfyriwr 么l-radd hanes, Angharad Owen.
"Mae'r cyfnod pwysig yma o newid a chwyldro yn gyfle i'r Senedd a Llywodraeth Cymru weithredu ar yr angen i gynnwys hanes a diwylliant BAME yn addysg ein pobl ifanc ar draws y wlad," meddai.
Dywedodd y Barnwr Singh: "Rwy'n credu y bydd yn helpu plant, cenedlaethau'r dyfodol, i ddeall pam na ddylid gwahaniaethu.
"Mae gennym bobl sy'n byw yma nawr sydd wedi cyfrannu cymaint at les Cymru a brwydro dros y wlad.
"Dydy hynny ddim yn cael ei ddysgu mewn ysgolion a dyw plant ddim yn gwybod hynny. Bydd yn helpu i drechu hiliaeth."
'Hanes ddim yn fater am un pwnc'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r gweinidog [addysg] wedi siarad am sut y bydd cysylltu'r lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn golygu canolbwyntio ar r么l Cymru yn y fasnach caethweision a'n cyfraniad i adeiladu'r ymerodraeth.
"Mae'n golygu ein bod yn asesu safbwyntiau gwahanol ar y profiad Cymreig trwy waith Eric Ngalle Charles, neu hanes cymdeithasol chwaraeon fel y nifer o chwaraewyr du aeth i'r gogledd i chwarae rygbi'r gynghrair.
"Dyw hanes ddim yn fater am un wers ac un pwnc."
Politics Wales, 成人快手 One Wales am 10:15 ddydd Sul, 7 Mehefin, ac yna ar iPlayer.