成人快手

Ailagor ysgolion: Beth yw barn rhieni a'r sector addysg?

  • Cyhoeddwyd
addysgFfynhonnell y llun, PA Media

Mae ysgolion Cymru'n ailagor i bob plentyn ar ddydd Llun 29 Mehefin. Ymateb cymysg sy' wedi bod i'r penderfyniad ac mae'r pryder i rieni ac athrawon am y risg i iechyd yn sgil y pandemig coronafeirws yn parhau.

Mae'r sawl sy' o blaid ailagor yn dadlau byddai aros tan mis Medi yn niweidio lles, addysg a iechyd meddwl disgyblion.

Beth yw barn rhai o'r rhieni, athrawon a'r sector addysg yng Nghymru?

Safbwynt rhieni

Mae Osian Leader yn dad i dri o blant yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd.

Dw i'n awyddus fod y plant yn ailgydio mewn trefn arferol o ddysgu gydag athrawon. Ond wrth gwrs yn poeni am diogelwch y sefyllfa - nid y plant yn unig ond yr athrawon hefyd.

Byddai'n wych i gael arbenigedd yr athrawon - hyn a hyn o TGAU Bioleg dw i'n ei ddeall! Er mae'r gwaith mae'r plant wedi cael wrth yr ysgol wedi bod yn ffantastig. Mae'r cefnogaeth 'di bod heb ei ail.

Ond dw i'n gweld eisiau yr arbenigedd ac yn poeni oherwydd dyw'r Covid yma ddim wedi mynd eto, felly i ba sefyllfa fyddan nhw'n mynd mewn iddi pan yn cychwyn n么l yn ysgol?

Beth yw barn y plant?

Maen nhw'n awyddus iawn i weld eu ffrindiau ac i fod mewn sefyllfa cymdeithasol ac i wneud y pethau mae plant yn gwneud. Maen nhw wedi bod gartref ers cymaint o amser ac maen nhw'n gweld eisiau trefn beunyddiol a fod llai o ansicrwydd o un dydd i'r llall.

Ond maen nhw'n poeni achos mae'r sefyllfa maen nhw'n mynd n么l iddi, dyw e ddim yn mynd i fod yr un fath. Ni'n s么n am draean o blant yn yr ysgolion.

Ac mae'n debyg fyddwn ni'n gweld ysgolion yn gweithredu mewn ffyrdd unigryw er mwyn datrys problemau.

Mae merch Juli Anne Richards yn mynd i Ysgol Garth Olwg, Pontypridd.

Dw i'n pendroni ers y datganiad. Roedd yn sioc felly mae angen prosesu hynny. Dw i wedi bod yn trio meddwl yn ymarferol sut mae'n mynd i effeithio ar bywyd ni.

Mae'r afiechyd dal o gwmpas ac yn cynyddu mewn rhai ardaloedd. Yn Rhondda Cynon Taf mae'n dal yn rhy uchel.

Ar hyn o bryd dw i'n tueddu i beidio anfon Crisiant yn 么l. Ond mae hi wedi bod yn trafod gyda'i ffrindiau ac mae hi eisiau mynd n么l nawr.

Dw i wedi penderfynu os mae hi'n mynd yn 么l fydda i'n cludo hi yn y car. Fydd hi ddim yn mynd ar fws.

Dw i'n deall o ran iechyd meddwl plant, falle fydde hi o werth [i ddychwelyd]. Ond o ran addysg a dysgu mae'r ysgol wedi darparu gwaith bob dydd ac mae Crisiant wedi bod digon disgybledig i gwblhau pob darn o waith. Mae wedi bod yn braf i drafod a gweld hi'n datblygu syniadau ei hun.

Mae cymdeithasu gyda ffrindiau yn hollbwysig ond ar hyn o bryd yng Nghymru mae raddfa y pandemig yn rhy uchel. A dyna lle dw i'n poeni.

Mae'r llywodraeth wedi bod yn bwyllog iawn yng Nghymru - ond dyw hwn ddim yn gwneud synnwyr i fi.

Un funud ni'n bwyllog iawn a'r funud nesaf ni'n dychwelyd i'r ysgol.

Disgrifiad,

Ymateb rhai o rieni Cymru i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg

Safbwynt rhai o'r sector addysg

Mae Si么n Amlyn yn swyddog i undeb yr athrawon NASUWT.

Mae 'na risg ychwanegol o wneud hyn [agor ysgolion ym Mehefin] - risg i staff, i ddisgyblion a risg i bawb arall sy' mewn cysylltiad.

Ydy'r risg yn cydbwyso yr hyn sy'n digwydd yn y pedair wythnos yma? Bydd ddim addysgu yn digwydd yn y pedair wythnos - cyfle i gyfarch a gweld eu cyfoedion, catchup ydy o.

Sut allwch chi gyfiawnhau y cynnydd yn y risg pan chi'n ystyried yn union beth fydd yn digwydd - neu ddim yn digwydd - yn yr ysgolion yn y pedair wythnos yma?

Iechyd meddwl

Mae ysgolion wedi bod yn dysgu dan drefn gwahanol dros y cyfnod yma ac mae cyswllt cyson wedi bod gyda plant bregus - a gwahoddiad i blant bregus i fynychu ysgolion.

Felly dyw e ddim fel fod gwactod wedi bod - mae 'na ymdrechion glew iawn wedi bod gan ein athrawon dros y cyfnod yma.

Ellen ap Gwynn yw arweinydd Cyngor Ceredigion.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ellen ap Gwynn: Angen meddwl am blant mewn sefyllfaoedd bregus

'Da ni yn cael diweddariadau cyson wrth y bwrdd iechyd ac yn gwybod beth yw'n sefyllfa ni fan hyn. Falle mewn rhai ardaloedd yng Nghymru bydde pobl ddim yn teimlo mor gyfforddus.

'Dan ni wedi bod yn paratoi am hyn yng Ngheredigion. Mae athrawon a staff eraill wedi bod yn rhedeg hybiau ar gyfer gweithwyr allweddol felly maen nhw wedi cael profiad o'r trefniadau - maen nhw wedi cyfarwyddo.

Wrth gwrs mae'n rhaid bod yn ofalus - dyw'r pandemig ddim wedi mynd eto.

Rhaid i ni fynd cam wrth gam yn ofalus yn 么l i drio cael rhyw fath o normalrwydd newydd yn ei le. Hyd yn oed os arhoswn ni nes Medi, fydd yr ysgol ddim fel ag yr oedd e.

Dyw e ddim yn orfodol; os nad yw rhieni yn hapus [i anfon plant i'r ysgol] does dim rhaid iddyn nhw. Mae'r plant heb weld eu hathrawon, mae peth dysgu arlein wedi digwydd ond mae gyda ni blant sy'n fregus, cartrefi lle 'di plant ddim yn cael y driniaeth bydden ni eisiau iddynt gael.

Mae Eirlys Edwards yn bennaeth Ysgol Gynradd Cerrigydrudion yn sir Conwy.

Dros y deg wythnos diwethaf 'ma 'da ni gyd wedi bod yn brysur. Mae staff yr ysgol wedi bod yn gweithio mewn hwb ar gyfer gofal plant gweithwyr allweddol a staff wedi bod yn brysur iawn yn paratoi ac anfon gwaith i'r disgyblion i weithio arno fe adref.

Daeth y cyhoeddiad yma gan Kirsty Williams fel ychydig bach o sioc - nid yn y ffaith bod ni'n mynd yn 么l ond yn y modd mae disgwyl i ni fynd yn 么l a chael yr amrywiaeth o oedran gyda'i gilydd. Dw i'n gwybod mai traean o blant ydy hynny ond mae hynny'n mynd i amrywio o ysgol i ysgol.

Sut ydych chi'n mynd i weithio'r drefn yn yr ysgol?

Dyna ydy'r cwestiwn mawr. Dywedodd Kirsty Williams fydd 'na ganllawiau gweithredu yn cael eu cyflwyno o fewn yr wythnos. Petai'r canllawiau yna wedi cael eu cyflwyno gyda'r datganiad, fyddai hynny wedi gwneud bywyd dipyn haws er mwyn gallu cynllunio ymlaen.

Nid yn unig fod gennym ni gwestiynau ond yn sicr yr oedd gan rhieni gwestiynau ac yn anffodus doedd gynnon ni fel penaethiaid ddim atebion.

Bydd rhaid meddwl sut i weithredu hyn er mwyn i bawb fod mor hapus 芒 fedrwn ni.

Y poen meddwl mwya' ydy mae gyda chi rieni gyda plant o wahanol oedran. Os ydyn ni'n mynd i weithredu mewn ffordd lle mae plant o wahanol oedran yn dod mewn ar wahanol ddyddiau, mae hynny'n mynd i greu boen pen i rieni o ran trefnu dychwelyd i'r gwaith.

Dyna ydy'r pryderon.

Ac wrth gwrs y pryderon bod ni'n byw yn y gogledd ac mae niferoedd yr achosion o Covid yn uwch yma nawr na oedd o 10 wythnos yn 么l pan gaewyd yr ysgolion. Felly 'da ni'n ystyried dychwelyd y plant a staff n么l i'r ysgolion mewn cyfnod lle mae achosion ar ei hanterth yma yn y gogledd.

Mewn tair wythnos neu ym mis Medi yr un fydd y sefyllfa - lle fyddwn ni'n gorfod rhoi llawer iawn o gefnogaeth o ran lles emosiynol y plant o ran dychwelyd a beth maen nhw wedi gorfod ymdopi gydag o dros y 10 wythnos diwethaf.

Pan fyddwn ni'n 么l mi fydd hwnna'n allweddol yn ran o'r addysg fyddwn ni'n darparu i'r plant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Rebecca Williams yn swyddog undeb athrawon UCAC.

Roedd y cyhoeddiad yn annisgwyl. Doedd ddim un ohonom ni'n disgwyl i'r llywodraeth fynd am yr opsiwn hwn am fod cryn bryder a gwrthwynebiad iddo fe.

Yr opsiwn oedd yn cael ei ffafrio yn gyffredinol oedd fod blwyddyn 6, 10 a 12 yn dychwelyd cyn yr haf. Bydde hynny yn ei hun wedi bod yn heriol ond yn bosib. Mae ceisio cael pawb i ddychwelyd ar raddfa gwahanol iawn o ran her.

Does neb yn gwadu manteision bod n么l yn yr ysgol. Ond beth mae rhaid neud yw cydbwyso'r manteision gyda'r risg. Po fwyaf y plant sy'n cael mynediad i'r ysgol, yr anoddaf mae'n mynd i reoli'r risg.

Ar lefel ymarferol mae'n eithriadol anodd i reoli hyn.

Garem Jackson yw cyfarwyddwr addysg Gwynedd.

Mae Gwynedd a phob awdurdod arall ledled Cymru wedi bod yn ymdopi 芒 sefyllfa lle 'dan ni wedi bod yn rhoi darpariaeth ofal i blant bregus a phlant gweithwyr allweddol ers peth amser.

Mae'n hysgolion ni a gweithwyr ein hysgolion ni wedi ymateb yn arwrol i'r gofyn hwnnw.

Mae'n paratoadau ni wedi bod yn mynd rhagddynt ers dros i dair wythnos yng Ngwynedd er mwyn galluogi ysgolion i fod mor barod ag y gallan nhw ar gyfer hyn gan gynnwys llunio protocolau ac asesiadau risg manwl er mwyn lles y disgyblion sy'n mynychu.

Yr un mor bwysig yw lles staff ein hysgolion ni.

Cyllidebau

'Dan ni'n bwy mewn cyfnod digynsail ac mae llywodraeth leol yn dioddef colledion incwm ar hyn o bryd. Mae'r un peth yn wir am gyllidebau ysgolion hefyd.

Mi fydd 'na gostau ychwanegol ynghlwm wrth y normal newydd. Ein gwaith ni yw sicrhau fod ysgolion yn mynd i allu ymdopi efo hynny.

Gwrandewch ar y cyfweliadau yma a llawer mwy ar raglenni Radio Cymru Post Cyntaf, Post Prynhawn a Dros Ginio

Hefyd o ddiddordeb