Rhybudd i deithwyr beidio croesi'r ffin i Gymru

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Mae pobl wedi cael eu rhybuddio i beidio â thorri cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru y penwythnos hwn, gan gynnwys y rhai sy'n ystyried teithio o Loegr.

Mae rheolau wedi cael eu llacio yn Lloegr sy'n golygu y gall pobl nawr "yrru i gyrchfannau eraill" a chwrdd ag un person y tu allan i'w cartrefi yn yr awyr agored.

Ond yng Nghymru y cyngor ydy i bobl i aros adref ac i beidio â theithio "pellter sylweddol".

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth y rhai sy'n ystyried dod i Gymru dros y penwythnos i beidio â gwneud.

Mae rheolau yng Nghymru yn golygu nad oes hawl teithio pellteroedd hir, gyda'r rheolau yng Nghymru hefyd yn nodi nad oes hawl aros dros nos oddi cartref.

Y rheolau yng Nghymru yn glir

Wrth siarad yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yng Nghymru yn poeni am bobl sy'n teithio pellteroedd maith o Loegr, yn enwedig yn dilyn cyhoeddiad llywodraeth y DU y penwythnos diwethaf.

"Rwy'n deall eu pryder. Mae ein rheolau yma yng Nghymru yn glir - dylai teithiau fod yn rhai lleol yn unig, a dim ond os ydyn nhw'n rhai hanfodol.

"Nid yw teithio'n bell i ymweld â mannau harddwch neu ail gartrefi yng Nghymru yn un o'r pethau hynny - felly peidiwch â gwneud."

Mae gan heddluoedd yng Nghymru'r pŵerau i ddirwyo pobl am wneud siwrneiau nad ydyn nhw'n rhai hanfodol, gan gynnwys y rheini o Loegr i Gymru.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Yn y cyfamser, mae prif gwnstabliaid a chomisiynwyr yr heddlu a throsedd yng Nghymru wedi ysgrifennu at Mr Drakeford yn galw am gynyddu dirwyon am dorri'r rheolau.

Isafswm dirwyon i'r rhai sy'n torri rheolau yng Nghymru yw £60, o'i gymharu â £100 yn Lloegr.

Mae'r llythyr yn dweud fod yna ddryswch ynglŷn â'r rheolau, gyda mwy o bobl yn teithio dros y ffin i Gymru er mwyn ymarfer corff.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i arolygu'r drefn dirwyo.

Ac mae heddluoedd Cymru wedi mynegi pryderon y gallai traffig i mewn i Gymru barhau i gynyddu o ganlyniad i lacio rhywfaint ar y cyfyngiadau yn Lloegr.

Apelio am gefnogaeth pobl Lloegr

Atgoffodd Heddlu De Cymru bobl y tu mewn a'r tu allan i Gymru bod y rheoliadau'n aros yn eu lle a bod rhaid cadw atyn nhw.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Andy Valentine: "Nid yw teithiau i Gymru i wneud ymarfer corff neu heb esgus rhesymol yn cael ei ganiatau, ac rwy'n apelio am gefnogaeth pobl sy'n byw yn Lloegr."

"Os ydych chi'n teithio - naill ai'n beicio, yn y car neu ar feic modur - yna mae gennym ni batrolau allan", meddai Amanda Blakeman, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent.

"Rydyn ni'n weladwy, byddwn ni'n eich stopio chi, byddwn ni'n esbonio i chi beth yw'r sefyllfa, byddwn ni yn gofyn ichi ddychwelyd adref. "

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys na fyddai'n targedu pobl yn teithio o dros y ffin "yn fwriadol", ond y byddai swyddogion yn parhau i gynnal patrol.

Ar ddechrau'r pandemig, fe welodd sawl man poblogaidd yng Nghymru lefelau "digynsail" o ymwelwyr, gan arwain at feirniadaeth o weithredoedd unigolion gan nifer o awdurdodau.

Cyn y penwythnos hwn, cyhoeddodd tri awdurdod parc cenedlaethol Cymru alwad ar y cyd i "holl drigolion y DU barchu'r rheolau a'r mesurau sydd ar waith yng Nghymru".

"Mae'r mesurau hyn yng Nghymru yn golygu na all pobl yrru i wneud ymarfer corff yng Nghymru - ble bynnag maen nhw'n byw," meddai Emyr Williams, prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri.

Ffynhonnell y llun, OLI SCARFF

"Ni fydd modd i unrhyw un barcio na chael mynediad i'r safleoedd mwyaf poblogaidd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru."

Yn y cyfamser mae Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Tegryn Jones, wedi dweud wrth ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru efallai y bydd rhaid cyflwyno system unffordd neu llwybrau cylchol ar rannau o Lwybr yr Arfordir er mwyn cadw pellter cymdeithasol.

Mae dwy ran o dair o'r llwybrau wedi cael eu cau yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

Dywedodd Mr Jones nad oedd ganddo syniad, ar hyn o bryd, pryd byddai'r llwybr yn ailagor.