Dyn 88 oed wedi marw o anafiadau difrifol i'w wyneb

Ffynhonnell y llun, Michael Smith

Disgrifiad o'r llun, Bu farw John Rees o ganlyniad i'w anafiadau

Clywodd cwest fod dyn 88 oed wedi marw ar 么l dioddef anafiadau difrifol i'w wyneb yn dilyn ymosodiad honedig mewn siop Co-op yn Rhondda.

Bu farw John Rees ar 么l y digwyddiad ym Mhen-y-graig ar ddydd Mawrth, 5 Mai.

Roedd nifer o'i esgyrn wedi torri a bu farw o ganlyniad i "drawma grym sylweddol.'

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Disgrifiad o'r llun, Mae Zara Radcliffe wedi ei chyhuddo o lofruddio John Rees, 88 oed

Mae Zara Radcliffe, 29, wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth a cheisio llofruddio tri o bobl eraill gafodd eu hanafu.

Cafodd y cwest ym Mhontypridd ei agor a'i ohirio gan y crwner Graeme Hughes.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Disgrifiad o'r llun, Heddlu fforensig y tu allan i'r siop ym Mhen-y-graig

Clywodd y cwest fod Mr Rees yn siopa ar adeg y digwyddiad, tra bod ei wraig yn aros yn y car y tu allan.

Dywedodd Mr Hughes, crwner Canol De Cymru, y byddai'r cwest yn cael ei ohirio tan ar 么l yr achos troseddol.