Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth Cymru: 'Peidiwch 芒 gyrru i Gymru o Loegr'
Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles, wedi rhybuddio pobl i beidio ag ystyried gyrru dros y ffin i Gymru wedi i'r cyfyngiadau teithio gael eu llacio yn Lloegr.
Mewn araith deledu nos Sul, dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson fod trigolion Lloegr bellach yn cael "gyrru i fannau eraill" er mwyn ymarfer corff.
Ond mae Mr Miles yn pwysleisio "nad yw ein rheolau ni'n caniat谩u i bobl fynd i'w car a gyrru i fannau yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys pobl yn mynd i'w ceir yn Lloegr".
Ychwanegodd fod gan heddluoedd Cymru hawl i ddirwyo pobl am wneud teithiau diangen a gadael eu hardaloedd eu hunain i ymarfer corff.
'Traed moch llwyr'
Mae'r sefyllfa'n "draed moch llwyr", medd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sy'n ofni y bydd y cyhoeddiad yn annog pobl i groesi'r ffin i deithio i fynyddoedd ac arfordir y gogledd.
"Sut ydyn ni fod i gael y neges i bobl sy'n byw yn Lloegr?" meddai wrth raglen Post Cyntaf.
"'Dan ni'n cael digon o drafferth yn cael neges y polisi Gymreig i bobl sy'n byw yng Nghymru, sy'n tiwnio fewn i sianeli teledu tros y ffin.
"Mae hi am fod yn anodd iawn cael y neges i bobl yn Lloegr i beidio dod i Gymru oherwydd bod y rheoliadau yn wahanol, ac y byddan nhw'n dal i gael eu stopio a'u dirwyo os ydyn nhw'n torri'r gyfraith yma.
"Dydi [Boris Johnson] ddim wedi rhoi unrhyw gyfyngiadau ar pha mor bell ma' pobl yn cael teithio.
"Maen nhw'n cael teithio yn eu ceir i ymarfer, does 'na'm byd yn stopio nhw r诺an, heblaw amdanom ni, rhag dod i Eryri neu i Ben Ll欧n o Lerpwl neu o Fanceinion."
Ychwanegodd fod newid y rheolau yn Lloegr "wedi gwneud ein gwaith ni yng Nghymru gymaint anoddach ac yn ddiangen".
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn cytuno y bydd cyhoeddiad Mr Johnson yn creu dryswch, yn hytrach na'r hyn sydd angen, sef "negeseuon syml a diamwys".
"Rwy'n poeni ynghylch fy nghydweithwyr yn Lloegr a sut bydden nhw'n plismona'r syniad o 'aros yn wyliadwrus'," dywedodd. "Dydw i ddim yn si诺r sut mae hynny'n mynd i ddigwydd.
"Heb os, oherwydd cryfder y cyfryngau Seisnig bydd yna ddryswch ym meddyliau llawer o bobl.
"Gall hynny fod gan na soniodd y Prif Weinidog am y sefyllfa yng Nghymru."
Camargraff
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryder fod datganiad Mr Johnson "yn creu'r argraff fod y newidiadau'n berthnasol drwy'r DU" ac y byddai pobl Lloegr yn cymryd ar gam fod hawl i ymweld 芒 Chymru a defnyddio'u tai haf.
"Bob dydd mae ein swyddfeydd yn delio ag aelodau yn y categori bregus ac yn pryderu fod niferoedd mawr o bobl yn dod trwy'u buarthau a chaeau gan eu rhoi mewn perygl," meddai Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts
Mae Mr Johnson hefyd wedi annog pobl yn Lloegr sy'n gallu dychwelyd i'r gwaith i wneud hynny o'r wythnos hon ymlaen.
Mae'r gwahaniaethau newydd rhwng rheolau Cymru a Lloegr yn gur pen i Spencer Smith, sy'n byw yn Wrecsam ond yn gweithio yn Amgueddfeydd Ironbridge ger Telford, yn Sir Amwythig.
Mae ei wraig yn gweithio fel athrawes yng Nghilgwri.
"Un o'r pethau 'da ni wedi bod yn poeni amdano ydi os fydd pethau'n newid be fydd yn digwydd o ran faint o bobl y byddwn ni'n eu cyfarfod," meddai.
"Dwi byth yn mynd allan achos gallwn i fynd yn s芒l, ac mae [fy ngwraig yn] poeni gymaint am fynd allan i weithio, a faint o bobl y gallai hi gyfarfod.
"Dyma'r peth sy'n poeni ni fwyaf - be' ydyn ni'n fod i neud? Gwrando ar be' mae ein llywodraeth ni yn ddweud - aros gartref - neu gwrando ar y cwmni 'da ni'n gweithio iddyn nhw, allai ddweud bod rhaid i ni ddod mewn?
"Dwi'n tueddu i feddwl y byddwn ni'n aros adref, achos dwi ddim eisiau dal y peth 'ma. Dwi'n ffodus iawn bo' fi ddim 'di bod yn agos iddo fo, ond dwi'n bryderus iawn am y rhai sy'n gorfod mynd allan, a fydd yn dal yr haint."
- YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint, ddydd Llun 11 Mai
- CANLLAW: Beth yw'r newidiadau i'r cyfyngiadau?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Er gwaethaf cyhoeddiad Mr Johnson, mae Llywodraeth Cymru'n glynu wrth y neges 'Aros Adref' ond mae canolfannau garddio yn cael ailagor cyn belled 芒'u bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ymbellhau cymdeithasol.
Yn Lloegr, mae meysydd golff hefyd ymhlith y busnesau sy'n cael ailagor ond mae'r corff sy'n rheoli'r sector yng Nghymru'n dweud fod "rhaid parhau ar gau [yma] am y tro".
Dyw hi ddim yn eglur sut mae'r sefyllfa'n effeithio ar Glwb Golff Llanymynech, yn Sir Amwythig gan fod 15 o'r 18 twll ar dir o fewn ffiniau Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Golff Cymru fod angen i bawb o fewn y gamp "gydweithio i ailddechrau chwarae mewn ffordd gyfrifol, fel a phryd y mae'r llywodraeth berthnasol yn penderfynu fod hi'n ddiogel i wneud hynny".
Ychwanegodd fod "rhaid sicrhau diogelwch a lles pawb o'r golffwyr, staff y clybiau a gofalwyr y green".