成人快手

Pennaeth iechyd 'ddim yn gyfarwydd' 芒 tharged profi

  • Cyhoeddwyd
Profi coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud ei bod "ddim yn gyfarwydd" 芒'r bwriad i gynnal 9,000 o brofion erbyn diwedd Ebrill - er i Lywodraeth Cymru ddweud yn wreiddiol mai dyna oedd y targed.

Roedd Dr Tracey Cooper yn ymateb i gwestiynau gan y pwyllgor iechyd yn y Senedd am bwy oedd wedi rhoi cyngor ar yr hyn oedd yn bosib i'w gyflawni o ran profion.

Mynnodd hefyd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod mewn trafodaethau gyda'r cwmni fferyllol o'r Swistir, Roche i sicrhau 5,000 o brofion y dydd yng Nghymru.

Pan ofynnwyd ai "ar 么l i Lywodraeth y DU gamu mewn" y cwympodd unrhyw gytundeb gyda Roche cytunodd Dr Cooper mai dyna oedd wedi digwydd.

Ffynhonnell y llun, Senedd TV
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Tracey Cooper (yng nghanol y rhes waelod) yn cael ei holi gan aelodau'r pwyllgor iechyd

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ar 21 Mawrth fod Iechyd Cyhoeddus Cymru'n anelu at gyflawni 9,000 o brofion erbyn diwedd Ebrill.

Fe wnaeth prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru, Dr Rob Orford ddweud yr wythnos ddiwethaf mai ef oedd yn gyfrifol am osod y targed hwnnw.

Gofynnwyd i Dr Cooper gan aelodau Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr o'r pwyllgor ddydd Iau o ble'r oedd Llywodraeth Cymru wedi canfod y ffigwr penodol hwnnw.

Dywedodd nad oedd hi'n "gyfarwydd" 芒'r targed yna - ateb sy'n destun sioc ac yn tanseilio ymddiriedaeth, medd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns.

Dywedodd Ms Burns: "Mae'n deg dweud bod amwysedd wedi bod am y cwestiynau, neu ddiffyg atebion eglur am y cwestiynau gafodd eu gofyn... ac mae hyn yn dan-ddatganiad.

"Rwyf wirioneddol mewn sioc fod Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud, ar gofnod, nad oedden nhw'n ymwybodol o ymrwymiad y llywodraeth oedd wedi ei nodi'n uchel iawn ag yn eglur iawn mewn sawl cyfrwng fod uchelgais i gael capasiti profi o 9,000 erbyn diwedd Ebrill."

'Cymru yng nghefn y ciw'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth: "Mae cadarnhad Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw fod Llywodraeth y DU wedi camu i mewn, cymryd 5,000 o brofion dyddiol oddi ar Gymru a'u cynnwys mewn cronfa brofion gyffredinol yn codi cwestiynau difrifol a sylfaenol ynghylch sut mae Llywodraeth y DU yn gweld Cymru."

Fe gyhuddodd Llywodraeth Lafur Cymru o fod "yn rhy wan i wrthsefyll Llywodraeth y DU" gan ddweud fod "y drefn pedair gwlad unwaith eto'n rhoi Cymru yng nghefn y ciw".

Dywedodd Dr Cooper wrth aelodau'r pwyllgor fod Cymru'n derbyn 19% o gapasiti profion Roche yn y DU erbyn hyn, sef tua 900 y dydd.

Mae ymdrechion i sicrhau mwy wedi'u hamharu, meddai, yn sgil yr angen i brynu offer o dramor, ac roedd cyfarpar a gafodd eu harchebu o Dde Corea ym mis Ionawr ond wedi cyrraedd Cymru yn ddiweddar.

Mae'r galwad am offer ymhob rhan o'r byd "yn her wirioneddol", meddai, ond mae disgwyl archebion i gyrraedd yn fuan er mwyn cynyddu'r capasiti dyddiol o'r 2,350 presennol.

Ychwanegodd Dr Cooper fod ymdrechion ar waith fydd yn golygu y bydd capasiti Cymru'n debyg i Loegr a'r Alban yn fuan ar sail maint y boblogaeth.

Mae'r ymdrechion yn cynnwys wyth uned brofi symudol dan ofal y fyddin er mwyn cynnal profion mewn cartrefi gofal.

Cyfanswm profion 'yn cynyddu bob wythnos'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ddiwedd Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd gynlluniau i gynyddu'r capasiti profi yng Nghymru i 5,000 erbyn diwedd Ebrill.

"Byddai 4,000 o brofion ychwanegol wedi bod ar gael trwy gynllun profi pedair gwlad dan arweiniad Llywodraeth y DU.

"Mae ein cynllun profi'n anelu at leihau'r niwed y mae'r coronafeirws yn ei achosi ac i helpu'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ddychwelyd i'w bywydau beunyddiol arferol. Mae wedi'i seilio ar y cyngor arbenigol diweddaraf.

"Mae'r capasiti dyddiol yn cynyddu bob wythnos. Erbyn diwedd yr wythnos yma, bydd chwe chanolfan brofi min ffordd ranbarthol ac wyth uned brofi symudol ar waith ar draws Cymru.

"Ynghyd 芒'r trefniadau sy'n parhau o ran trefnu profion ar-lein a'r bwriad i gyflwyno profion cartref newydd, bydd hyn yn ein helpu i gynyddu nifer y profion dyddiol yn sylweddol."