Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coronafeirws: Geni babi mewn cyfnod mor ansicr
- Awdur, Alys Davies
- Swydd, 成人快手 Cymru
Mae'n gyfnod heriol i bawb, ond i'r rheiny sy'n disgwyl neu newydd gael babi, mae yna heriau unigryw.
O dan y cyfyngiadau cymdeithasol presennol, mae'n rhaid i fenywod beichiog fynd i'w hapwyntiadau cyn yr enedigaeth ar eu pen eu hunain.
A phan mae'r amser yn dod i'r fam fynd mewn i'r ysbyty, dyw'r partner ddim yn cael aros gyda nhw trwy gydol eu hamser yno.
Mae'r cyfnod wedi'r enedigaeth hefyd yn wahanol iawn i'r arfer, gydag anawsterau fel methu cofrestru babanod gan fod swyddfeydd cofrestru ar gau, methu mynd 芒 babanod i gael eu pwyso, prinder bwyd babi mewn siopau a methu gweld teulu a ffrindiau.
'Siopau 'di gwerthu allan'
Cafodd mab Matthew Guy a'i bartner Claire ei eni ar yr ail ddiwrnod wedi i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddechrau.
I Matthew, sy'n byw yn Nottingham ond sydd o Ddeiniolen yng Ngwynedd yn wreiddiol, mae'r cyfnod ers genedigaeth Osian ar 24 Mawrth wedi bod yn chwerw-felys.
"Y petha' sy' 'di bod yn rili anodd ydy bod ni methu cofrestru'r babi, 'da ni methu mynd i'r siopau i brynu peth bach iddo fo, so dydy'r pethau 'swn i 'di licio gwneud ddim ar gael ar y funud," meddai.
"O'dd o'n reit tough i fod yn onest. O'n i'n lwcus o'n i'n cael mynd i mewn i'r ysbyty, a bod yn y birth 'lly, achos o'n i'n clywed fod pethau'n newid ar 么l dau o'r gloch yn y prynhawn."
Ynghanol popeth, fe gollodd Matthew ei swydd llawn amser.
"Dwi r诺an yn furloughed worker, so mae 'di bod yn anodd jyst 'neud si诺r bo' ni'n talu biliau, pethau fel'a," meddai.
Mae'r teulu wedi profi rhai anawsterau eraill ers i'r babi gael ei eni.
"Un o'r pethau 'da ni 'di stryglo cael ydy fformiwla i'r babi," meddai. "Mae'r siopau 'di gwerthu allan so 'da ni'n gorfod ffonio'r rhif ff么n ar y tin i gael y fformiwla i'r t欧.
"Dydy'r midwives a'r health visitors ddim yn gallu dod rownd, so y diwrnod o'r blaen 'naeth yr health visitor jyst dropio'r weighing machine tu allan i ni, 'naethom ni bwyso'r babi ein hunain. Dwi'm yn gwybod pryd maen nhw'n dod yn 么l."
Dydy'r anawsterau yma ddim yn unigryw i deulu Matthew.
Fe roddodd Ffion Prothero, sy'n byw yn Sir y Fflint, enedigaeth i'w hail blentyn, Alys Enfys ar 13 Ebrill.
"Mae yna lot llai o wasanaethau, pethau o'n i ddim 'di meddwl am, fel yr health visitor - dim ond un sydd ar gael i'r dref i gyd," meddai.
"Fel rhiant mae'n rhaid i ni boeni ychydig bach fwy am y manion bethau, achos does yna ddim rhywun o gwmpas mor aml i allu gweld y babi a gwneud yn si诺r bod ni'n gwneud pob dim yn iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru y dylai gwasanaethau gael eu defnyddio "pryd bynnag mae eu hangen".
Er hyn, mae wedi bod yn anodd i deuluoedd Ffion a Matthew i ddefnyddio nhw'n yr un ffordd 芒'r arfer.
Bu'n rhaid i Emma Durotoye - sy'n wreiddiol o Langefni, Ynys M么n, ond sydd bellach yn rhannu ei bywyd rhwng Nigeria a Phrydain - roi genedigaeth ar ei phen ei hun gan fod ei g诺r methu cyrraedd Prydain cyn yr enedigaeth gan fod maes awyrennau Lagos wedi cau.
"Roedd geni heb fy ng诺r yna'n rhywbeth oedd yn eithaf anodd i fi gael fy mhen rownd i ddechrau, o'n i'n flin pan nes i sylweddoli bod o methu d诺ad drosodd."
Wrth s么n am ei phrofiad o fynd i'r ysbyty, dywedodd: "Pan es i mewn i labour, oedd o'n gymhleth. Felly ges i emergency c-section ar 么l cyrraedd 9cm."
Er gwaetha'r sefyllfa, roedd cefnogaeth staff yr ysbyty a'r mamau eraill yn "arbennig", yn 么l Emma.
"Oedd y gefnogaeth a'r staff a'r ffordd oedd pobl yn gweithio o amgylch chi, do'n i'm ar ben fy hun.
"Oedd gen i d卯m anhygoel o gwmpas fi ac oedd hynna'n rhywbeth arbennig i weld."
Mae'r adeg cyn genedigaeth babi hefyd yn adeg wahanol iawn, fel dywedodd Ffion Medi Owen, sy'n disgwyl ei hail blentyn ar 4 Mai.
Dywedodd: "Y peth mwyaf anodd yw ddim gweld teulu, ddim gweld ffrindiau, ddim yn gallu cael dathliad o fel babyshower, a bod wrth yn hunain yn y t欧."
Er hyn, dywedodd Ffion bod nhw'n ceisio "cadw'n bositif" ac yn edrych ymlaen at groesawu eu babi newydd pan mae'n cyrraedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein holl staff mamolaeth yn gweithio'n galed i sicrhau bod beichiogrwydd a genedigaeth yn parhau i fod yn brofiad positif i deuluoedd.
"Mae byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau i edrych ar 么l mamau a babanod yn ystod yr adeg yma, sy'n cynnwys newidiadau i opsiynau geni a chyfyngiadau ar ymweld i bartneriaid.
"Gall fenywod gael eu cefnogi gan bartner geni o'r un cartref unwaith i'r esgor actif ddechrau, ond yn anffodus ar yr adeg yma dydy ymweld ddim yn bosib er mwyn diogelu menywod, babanod a staff."